'Ges i gymorth iechyd meddwl - ond yn Saesneg yn unig'

Ffynhonnell y llun, Ffion Connick

Disgrifiad o'r llun, Mae Ffion Connick wedi dioddef o orbryder ers yn ifanc iawn

Mae menyw ifanc sydd wedi cael trafferth gyda'i hiechyd meddwl ers yn blentyn wedi sôn am y pwysigrwydd o gael cymorth yn y Gymraeg.

Datblygodd Ffion Connick, 22 oed, o Rydaman, orbryder cymdeithasol a phroblemau bwyta difrifol o oedran ifanc.

Mae'n dweud y byddai wedi elwa o gael cymorth yn Gymraeg pan oedd hi’n iau, a bod lle i wella o hyd o ran y ddarpariaeth.

Daw ei galwadau wrth i elusen Mind Cymru lansio ymgyrch newydd i dynnu sylw at eu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl yn y Gymraeg.

Y llynedd, roedd dros hanner miliwn o bobl wedi ymweld ag adnoddau cymorth ar-lein Mind Cymru, meddai'r elusen.

Roedd tua un o bob 10 yn chwilio am wybodaeth a chyngor yn Gymraeg.

'Yr iaith dwi fwya' cartrefol ynddi'

"Fi ddim yn credu bod digon o adnoddau mas 'na yn y Gymraeg, fel cwnsela ac ati," meddai Ffion Connick.

"Mae pethau’n gwella ond pan ro’n i’n mynd trwyddo popeth, brofais i ddim byd drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Fel rhywun iaith gynta' Gymraeg, oedd yn mynd drwy amser caled, bydde cael cymorth yn yr iaith dwi’n ei defnyddio bob dydd, dwi fwya' cartrefol ynddi, wedi golygu bod 'na bach o normalrwydd yn fy mywyd i."

Ffynhonnell y llun, Ffion Connick

Disgrifiad o'r llun, Ffion Connick gyda ffrind ym mlwyddyn 9, pan roedd ei gorbryder wedi ail-gydio

Mae Ffion yn meddwl fod gorbryder wedi bod yn "rhan ohona'i ers yn fach".

Fe gododd y gorbryder ei ben eto pan roedd Ffion ym mlwyddyn 9, pan roedd llawer o newidiadau corfforol a chymdeithasol yn digwydd.

"Ro’n i gyda fy sboner cyntaf, yn mynd mas mwy gyda ffrindiau, yn dechrau meddwl am ddewis pynciau ac ati... ac fe ddaeth y gorbryder yn ôl.

"Ro'n i'n nerfus, yn gweithio fy hun lan, yn poeni am gwrdd ffrindiau neu fynd ar y bws, popeth ro’n i’n gallu’i wneud yn iawn tan hynny.

"Roedd fy nghalon yn curo’n gyflym ac ro'n i'n mynd i deimlo'n sâl, a gan fod gen i hefyd ffobia o fod yn sâl roedd hynny’n chwarae rhan fawr yn y gorbryder.

"Ro'n i'n poeni am fynd yn sâl ac felly'n gwrthod bwyta, yn methu bwyta, gan fod yr anxiety mor ddrwg.

"Ro'n i wedyn yn dechre' poeni am fy nyfodol, poeni am fethu cwrdd ffrindiau, falle methu cael cariad eto, methu priodi, methu joio bywyd, felly beth oedd y pwynt?

"Ro'n i'n poeni bo fi'n siomi fy rhieni, eu gadael i lawr, pan ro'n i'n gwrthod mynd i rywle gyda nhw munud olaf oherwydd y gorbryder."

Roedd Ffion erbyn hyn ond yn pwyso rhyw bump i chwe stôn.

Fe aeth i weld cwnselydd seiciatryddol yn breifat, a chanfod mai gorbryder oedd arni.

Doedd y cwnselydd hwnnw ddim yn siarad Cymraeg.

"Ro'n i'n teimlo'n od yn fy hunan beth bynnag," meddai Ffion.

"Bydde wedi gallu siarad yn fy iaith gyntaf wedi golygu cadw bach o normalrwydd - mae'n anodd gorfod esbonio mewn iaith arall."

'Ddim yn teimlo fel fy hun'

Bu Ffion ar siwrne hir i wella o’r gorbryder.

Fe gafodd gymorth gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yng Nghaerfyrddin, ac er mae’n dweud iddi gael triniaeth dda yno, roedd y cyfan drwy gyfrwng y Saesneg.

Fe ofynnodd i weld cwnselydd Cymraeg ei iaith, ond doedd yr un ar gael, meddai.

Dywedodd Ffion: "Roedd yr holl gefnogaeth a gefais, o therapïau siarad i ymweliadau ysbyty, yn Saesneg.

"Er i mi gael rhai profiadau da, roedd ceisio cyfleu rhywbeth mor ddwfn y tu mewn i mi - mewn iaith sydd yn ei hanfod yn iaith dramor - weithiau'n anodd.

"Mae adegau pan na allwch chi hyd yn oed nodi sut rydych chi’n teimlo o gwbl – heb sôn am geisio ei fynegi mewn iaith nad yw’n famiaith i chi, a gall hynny fod yn anodd.

"Mewn rhai ffyrdd, pan fyddwch chi’n ceisio cyfathrebu mewn iaith nad yw’n un y cawsoch eich magu yn ei siarad, dydych chi ddim yn teimlo fel chi eich hun.

"Rydych chi'n teimlo'n rhyfedd yn barod, ac yna mae gennych chi’r haen ychwanegol o geisio esbonio hynny i rywun hefyd."

Ffynhonnell y llun, Ffion Connick

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl Ffion mae pethau’n gwella o ran ei hiechyd meddwl erbyn hyn

Mae Ffion newydd ddechrau swydd newydd wedi tair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac er bod y gorbryder dal yno, mae'n ymwybodol bellach sut i'w reoli.

"Mae wastad yn mynd i fod yn rhan ohona'i a dwi wastad yn mynd i orfod wynebu sefyllfaoedd anodd, ond dwi'n gw'bod yn well nawr sut i ddelio efo fe.

"Dwi angen gwthio fy hun i sefyllfaoedd anodd achos y mwya' dwi'n 'neud hynny, y mwya' rhwydd mae'n dod."

'Cymryd y cam cyntaf'

Mae ymgyrch newydd Mind Cymru yn gobeithio annog siaradwyr Cymraeg i ofyn am gymorth er mwyn cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl Cymraeg eraill.

Mae’r elusen hefyd yn lansio amrywiaeth o adnoddau yn benodol ar gyfer pobl ifanc dan 25 oed yn y Gymraeg, ar gynnwys megis deall eich iechyd meddwl, gofalu am eich lles eich hun, a chefnogi eraill.

Yn ôl Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd, Mind Cymru: "Rydyn ni’n deall pa mor anodd y gall fod i wneud synnwyr o’ch teimladau a’ch symptomau, ac i gymryd y cam cyntaf tuag at gael cymorth iechyd meddwl.

"Ni ddylai unrhyw un wynebu rhwystrau rhag cael gafael ar gymorth iechyd meddwl – na wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun."

Mae’r ymgyrch yn rhan o ymrwymiad ‘Cynnig Cymraeg’ yr elusen gyda swydda’r Comisiynydd Iaith.

Dywedodd Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg: "Mae ceisio cymorth iechyd meddwl yn gam mawr i lawer o bobl ac mae’n bwysig ei bod mor hawdd â phosibl cael gafael arno.

"Rhan o hyn yw sicrhau bod y gefnogaeth ar gael yn newis iaith yr unigolyn sy’n ei wneud yn gartrefol ac yn ei helpu i gyfleu ei brofiadau'n well."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y ´óÏó´«Ã½.