Un o bob chwe disgybl uwchradd yn absennol yn gyson

Ffynhonnell y llun, Getty images

Mae un o bob chwe disgybl uwchradd yn absennol o'r ysgol yn gyson yng Nghymru, yn 么l ffigyrau newydd.

Mae data Llywodraeth Cymru'n awgrymu fod 16.3% o ddisgyblion rhwng 11-15 oed yn y categori hwn yn 2022-23 - mae hynny deirgwaith yn uwch na lefelau cyn y pandemig.

I ddisgyblion oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim, roedd y ffigwr yn fwy na ddwywaith yn uwch - 35.7%.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd tasglu yn "edrych yn fanylach" ar y rhesymau dros yr absenoldebau.

Mae lefelau absenoldeb cyffredinol, sy'n seiliedig ar sesiynau hanner diwrnod a gollwyd, hefyd wedi dyblu.

Disgyblion ym mlwyddyn 11 ddangosodd y cynnydd mwyaf mewn absenoldeb.

Roedd y disgyblion hynny yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd pan gafodd ysgolion eu cau yng nghyfnod clo cyntaf y pandemig.

Gwahaniaeth bach sydd rhwng bechgyn a merched - yn 2022-23 fe gollodd merched gyfartaledd o 13% o sesiynau hanner diwrnod tra bod bechgyn wedi colli 12% ar gyfartaledd.

Dyma'r tro cyntaf i'r data gael ei gyhoeddi ers 2019, ar 么l i'r gwaith o gasglu'r data gael ei stopio oherwydd y pandemig ym Mawrth 2020.

Fe fydd data ysgolion cynradd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles y byddai'n sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol a chanllawiau presenoldeb newydd yn yr wythnosau nesaf.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd bod yna "ffactorau cymhleth ac amrywiol yn aml wrth wraidd absenoldeb".

Ychwanegodd: "Fe allai'r rhain gynnwys iechyd meddwl a lles, argaeledd gwasanaethau cymorth dysgu penodol, costau byw sy'n cynyddu'n gyson ac agweddau rhieni a dysgwyr at fynychu'r ysgol yn gyffredinol.

"Yn hynny o beth, un o flaenoriaethau'r gr诺p fydd edrych yn fanylach ar y rhesymau dros absenoldebau a dwyn eu harbenigedd ynghyd i nodi camau all arwain ar welliannau cynaliadwy."