Gwaharddiad oes i athro a gafodd ryw gyda disgybl

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Plediodd Ieuan Bartlett yn euog i 12 o gyhuddiadau o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn

Mae athro a gafodd ryw yn gyson gyda merch fregus 16 oed wedi cael gwybod gan farnwr nad oes ganddo'r hawl i ddysgu fyth eto.

Ym mis Mawrth fe blediodd Ieuan Bartlett, 29, o'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, yn euog i 12 cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn ac o fod 芒 llun anweddus o ferch yn ei harddegau yn ei feddiant.

Ym mis Mai fe gafodd Bartlett ei ddedfrydu i gyfnod o dair blynedd a thri mis yn y carchar, a'i roi ar y Gofrestr Troseddau Rhyw am oes.

Ddydd Gwener cafodd wybod bod Cyngor y Gweithlu Addysg a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi cael gwybod am ei euogfarnau a'i ddedfryd.

Mae hyn yn golygu ei fod wedi'i wahardd rhag dysgu, hyfforddi neu wneud unrhyw waith gofal iechyd gyda phobl o dan 18 oed am weddill ei oes.

Mae hefyd wedi'i atal rhag gwirfoddoli mewn clybiau chwaraeon ac wedi cael gorchymyn sy'n ei atal rhag cysylltu 芒'r disgybl dan sylw am 15 mlynedd.

Roedd Bartlett yn gwylio'r gwrandawiad ddydd Gwener drwy gyswllt fideo o Garchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y barnwr fod Bartlett yn risg penodol i ferched rhwng 14 ac 16 oed

Clywodd y llys bod Bartlett yn swyddog lles mewn ysgol, na ellir ei henwi, pan ddaeth i gysylltiad 芒'r ferch 16 oed.

Cafodd y cais am osod Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol ei wrthod gan y barnwr - fe allai hynny fod wedi golygu y byddai'n wynebu cyfyngiadau pellach gan gynnwys mynediad at ffonau symudol neu'r we yn y dyfodol.

Dywedodd y barnwr fod Bartlett yn risg penodol i ferched rhwng 14 ac 16 oed, yn hytrach nag i blant yn gyffredinol, ac ychwanegodd ei bod yn hapus bod y ddarpariaeth bresennol yn diogelu y categori hwnnw.

Yn ystod yr achos clywyd bod y ferch yn wreiddiol wedi troi at Bartlett am gymorth, a'i fod wedi camddefnyddio ei b诺er.

"Fe wnaeth Mr Bartlett gymryd mantais o'i r么l - roedd y ferch yn ymddiried ynddo, ac am fisoedd fe wnaeth e greu perthynas agos rhwng y ddau," meddai'r erlyniad.

Clywodd y gwrandawiad bod y ferch wedi dechrau gweld Bartlett mewn sesiynau un i un yn yr ysgol lle'r oedd e'n gweithio, a'i fod wedi manteisio ar y cyfle hwnnw i feithrin perthynas rhwng y ddau.

Mewn datganiad yn amlinellu effaith y troseddu arni, dywedodd y ferch bod ei hyder wedi ei danseilio.

Dywedodd ei bod yn cael trafferthion gan gredu bod "pob dyn fel Ieuan", ac "yn sylweddoli ei fod yn fy nefnyddio".

Ychwanegodd: "Rwyf wastad wedi cael trafferthion iechyd meddwl a nawr mae'n waeth. Rwy'n cael trafferth ymddiried mewn pobl a chredu beth maen nhw'n ei ddweud."