Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru'n ail yn y byd am ailgylchu gwastraff
- Awdur, Gareth Bryer
- Swydd, ´óÏó´«Ã½ Cymru
Cymru yw'r ail wlad orau yn y byd ar ailgylchu, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae Cymru wedi'i gosod yn ail i Awstria o drwch blewyn yn y tabl rhyngwladol, gyda'r ddwy wlad yn llwyddo ailgylchu 59% o'u gwastraff.
Mae Gogledd Iwerddon yn y nawfed safle, Lloegr yn safle 11, a'r Alban yn 15 allan o 48 o wledydd fu'n rhan o'r ymchwil.
Dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething fod ymdrechion "aelwydydd a gweithleoedd ledled Cymru" wedi arwain at "newyddion gwych".
Mae Cymru wedi rhoi cryn bwyslais ar wella lefelau ailgylchu yn ystod y degawdau diwethaf - gyda thargedau statudol ar gyfer cynghorau a gofyn i gartrefi wahanu eu gwastraff bwyd ymysg nifer o gynlluniau.
Mae rhai cynghorau wedi symud at ond casglu gwastraff cyffredinol o aelwydydd unwaith y mis - gan gynnwys Sir Ddinbych sydd wedi symud at gasglu biniau du bob pedair wythnos o fis Mehefin.
Yn Ninbych, dywedodd Catrin Juckes-Hughes, 32, ei bod wedi trio sicrhau bod ailgylchu yn rhan o "routine bob dydd" ei theulu.
"Os ydy pobl yn ailgylchu yn gywir 'dach chi ddim yn sylwi ar y gwahaniaeth [mewn casgliadau]," meddai.
"Mae faint o wastraff cyffredinol sydd 'na yn eitha' bach mewn gwirionedd."
Ond dywedodd Wendy Davies, 78, bod y sefyllfa yn anodd i bobl hÅ·n.
"Sut allan nhw ymdopi gyda gorfod gwahanu popeth yn eu ceginau?" gofynnodd.
"Os 'dach chi'n byw mewn fflat fel ydw i mae'n llanast llwyr trio cadw popeth i'w roi yn y biniau tu allan."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod cyfradd ailgylchu Cymru yn 66% ar gyfartaledd - a hynny ar sail y gwastraff sy'n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol o gartrefi a rhai busnesau.
Mae'r gyfradd yn amrywio o 59% yn Nhorfaen i 72% yn Sir Benfro ac Abertawe.
Er mwyn llunio tabl rhyngwladol, fe wnaeth ymchwilwyr ystyried y gyfradd oedd yn cael ei ddatgan gan wledydd yn ogystal â data arall ynglyn â'u gwastraff er mwyn ceisio cymharu eu llwyddiant.
Mae'r adroddiad, gan Eunomia Research & Consulting a Reloop, yn craffu ar berfformiad 48 gwlad, gan gynnwys rhai o economïau mwya'r byd.
Dywedodd yr ymgynghorydd amgylcheddol Rebecca Colley-Jones fod Cymru wedi bod ar "siwrnai" o ran ailgylchu, ers i reolaeth o'r maes gael ei ddatganoli i'r Senedd.
"Os edrychwch chi ar 1997 [roedd y gyfradd ailgylchu bryd hynny] yn oddeutu 9% - nawr mae rhai cynghorau wedi cyrraedd 70%," meddai.
Mae'n credu mai "polisi da" - cyfres o strategaethau yn cynnwys targedau penodol a chyllid - sydd wedi arwain at y llwyddiant.
"Mae bob un o rheiny wedi gwneud i ni gymryd cam mwy at yr ailgylchu 'dan ni yn 'neud," eglurodd.
"Mae pawb wedi 'neud ymdrech - nid just y llywodraeth, ond hefyd yr awdurdodau lleol, pawb sy'n byw mewn tŷ ond hefyd y cwmnïau sydd wedi setio fyny - i ddefnyddio'r pethau sy'n dod allan o'r ailgylchu."
Mae AWD Ltd ym Mhort Talbot - sy'n cael ei redeg gan y cyn-chwaraewr a hyfforddwr rygbi Alun Wyn Davies - yn casglu plastig caled o 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac yn ei werthu i'w droi yn gynnyrch newydd.
Mae'r cwmni eisoes yn cyflogi 38 o bobl i sortio drwy'r gwahanol fathau o blastig, gyda 22 arall i ddechrau cyn bo hir.
"Yr unig snag yw bod lot o fe'n gadael Cymru - mae e i gyd yn aros yn y DU ond yn mynd dros y bont i gwmnïau yng ngogledd Lloegr," esboniodd Mr Davies.
Yn y tymor hir, byddai'n hoffi gallu dechrau defnyddio'r deunydd i greu nwyddau newydd ei hun, ond dywedodd bod angen cymorth ar gwmnïau i arloesi.
Ar y ffigyrau ailgylchu diweddaraf, fe ddywedodd Mr Davies ei bod hi'n neis gweld Cymru ar y brig achos "'dyn ni ddim yn gwneud yn rhy dda o ran y rygbi ar funud, ydyn ni?"
Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at i Gymru fedru ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio 70% o'i gwastraff erbyn 2025, gan droi'n "genedl di-wastraff" erbyn 2050.
Ar gyfartaledd mae bob person yng Nghymru yn cynhyrchu 155kg o wastraff yn flynyddol sydd ddim yn cael ei ailgylchu ar hyn o bryd.
Fel gweddill y DU, mae Cymru yn bwriadu cyflwyno casgliadau o blastigion meddal - fel pacedi creision neu fagiau salad - o gartrefi erbyn Mawrth 2027.
Yn y cyfamser, mae cyfundrefn ailgylchu llymach ar gyfer busnesau wedi dod i rym ers mis Ebrill - gan arwain at bryderon o ran costau ychwanegol i rai.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, bod llwyddiant Cymru wrth ailgylchu nid yn unig o fudd i'r amgylchedd ond hefyd yn darparu "buddion pwysig i'r economi".
“Dwi'n sôn yn aml am y ffordd Gymreig o wneud pethau, ac mae'r ymdrech tîm sydd wedi arwain at y llwyddiant hwn heddiw yn un y dylai pob un fod yn haeddiannol falch ohono – da iawn Gymru!" meddai.
Rheolau'n 'hynod gymhleth'
Er ei bod wedi'i phlesio gan y newyddion, dywedodd llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders AS bod rheolau ailgylchu yn parhau yn "hynod gymhleth".
"Mae busnesau sydd â gofod y tu allan yn gweld ardaloedd eang wedi'u llenwi a biniau amrywiol, a dim ystyriaeth yn cael ei roi i'r rheiny sydd heb le ar gyfer mwy o bethau i ddal sbwriel," meddai.
"Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn medru dathlu'r garreg filltir yma tra'n cael eu harwain gan brif weinidog sydd wedi cymryd rhoddion gwleidyddol wrth ddyn sydd wedi'i gael yn euog o droseddau amgylcheddol yn chwerthinllyd pe na bai mor warthus," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd, Delyth Jewell AS, bod Cymru wedi "gosod esiampl i weddill y DU".
"Ni allwn laesu dwylo ar hyn - ac mae'r gwrthwynebiad diweddar ar reolau ailgylchu i fusnesau yn dangos pwysigrwydd cefnogaeth addas er mwyn gwneud y peth iawn yn beth hawdd hefyd.
"Rhaid i Gymru anelu am y brig dros y byd."