大象传媒

Jac Morgan i fethu taith haf Cymru oherwydd anaf

Jac Morgan yn ystod g锚m rygbiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae absenoldeb Jac Morgan yn "ergyd", medd prif sylwebydd rygbi 大象传媒 Cymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd blaenasgellwr y Gweilch, Jac Morgan yn methu taith haf Cymru oherwydd anaf i linyn y gar.

Y bachwr Dewi Lake fydd capten y t卯m cenedlaethol wrth iddyn nhw herio De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Bydd mewnwr Caerdydd Ellis Bevan yn dechrau, gan ennill ei gap cyntaf dros Gymru.

Fel eilyddion, fe allai Eddie James, James Ratti a Jacob Beetham hefyd ennill eu capiau cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dewi Lake fydd capten Cymru ddydd Sadwrn

Cafodd Ratti ei alw i'r garfan ddydd Mawrth yn sgil anaf Cory Hill.

Ben Carter a Matthew Screech o鈥檙 Dreigiau fydd yn dechrau yn yr ail reng.

Bydd blaenasgellwr Caerdydd James Botham, a gafodd ei ychwanegu at y garfan ddydd Llun, yn dechrau yn y rheng 么l ynghyd 芒 Taine Plumtree ac Aaron Wainwright.

Er iddo golli Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 么l ymuno 芒 chlwb Kubota Spears yn Japan, bydd Liam Williams yn dechrau fel asgellwr.

Owen Watkin a Mason Grady fydd y canolwyr.

Dyw Ben Thomas ddim wedi ei gynnwys yn y garfan.

Dadansoddiad prif sylwebydd rygbi 大象传媒 Cymru, Cennydd Davies

Mae鈥檙 newyddion yngl欧n 芒 ffitrwydd Jac Morgan yn dipyn o ergyd, yn enwedig ar 么l iddo golli Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a'r gobaith yw y bydd blaenasgellwr y Gweilch yn gallu adennill ei ffitrwydd dros yr haf wedi ail hanner digon rhwystredig i鈥檙 tymor ers Cwpan y Byd.

Er gwaethaf absenoldeb Morgan, mae Warren Gatland yn gallu troi at un arall o gyd-gapteniaid Cymru y llynedd yn Ffrainc i gydio yn yr awenau.

Dyw chwaraewyr sy鈥檔 chwarae tu hwnt i Gymru ddim ar gael gan fod y g锚m yn digwydd tu fas i鈥檙 ffenestr ryngwladol swyddogol, ac felly bydd hyn yn rhwystr arall ar gyfer g锚m fydd yn dipyn o dalcen caled beth bynnag.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er iddo ymuno 芒 chlwb yn Japan, mae Liam Williams yn dal i fod ar gael i Gymru

Mae presenoldeb Liam William, sy鈥檔 dychwelyd ar 么l treulio cyfnod yn Japan, i鈥檞 groesawu, ond bydd hi鈥檔 dipyn o fedydd t芒n i fewnwr ifanc Caerdydd Ellis Bevan, sy鈥檔 ennill ei gap cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol.

Does dim dwywaith y bydd hon yn her aruthrol i Gymru, yn enwedig i鈥檙 wyth blaen, a nifer o anafiadau - yn enwedig yn yr ail-reng - wedi cyfyngu opsiynau Warren Gatland.

I鈥檙 gwrthwyneb, mae鈥檙 Springboks yn d卯m sefydlog, grymus, ac yn cynnwys 10 o'r 23 oedd yn rhan o鈥檙 garfan gipiodd Cwpan Web Ellis ym Mharis y llynedd.

T卯m Cymru i wynebu De Affrica:

Cameron Winnett; Liam Williams, Owen Watkin, Mason Grady, Rio Dyer; Sam Costelow, Ellis Bevan; Gareth Thomas, Dewi Lake, Henry Thomas, Ben Carter, Matthew Screech, Taine Plumtree, James Botham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Keiron Assiratti, James Ratti, Mackenzie Martin, Gareth Davies, Eddie James, Jacob Beetham