Tai i ffoaduriaid 'yn edrych fel carchar'
- Cyhoeddwyd
Mae datblygiad tai mewn tref glan m么r ym Mro Morgannwg wedi ei ddisgrifio fel "carchar" gan bobl leol, sy'n dweud bod y tai yn rhai agos at eu cartrefi.
Mae 90 o gartrefi dros dro wedi eu hadeiladu ar safle hen ysgol yn Llanilltud Fawr.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn dweud bod y tai ar gyfer ffoaduriaid o Wcr谩in a bod y tir wedi ei glustnodi yn y cynllun datblygu lleol, ond mae pobl sy'n byw yno yn dweud nad oes ganddyn nhw breifatrwydd yn eu gerddi.
Defnyddiodd y cyngor hawliau datblygu yn Ionawr 2023, oedd yn golygu nad oedd yn rhaid iddyn nhw wneud cais am ganiat芒d cynllunio pellach ar gyfer hen safle Ysgol Gynradd Eagleswell.
Dywedodd Steve McGranaghan wrth 大象传媒 Cymru ei bod yn ymddangos fel ei fod yn byw "drws nesa i iard ar gyfer unedau storio".
"Fy mhryder mwyaf yw eu bod nhw'n rhy agos ata' i. Yn 么l canllawiau cynllunio, fe ddylen nhw fod 21 medr i ffwrdd ond maen nhw lai na 10 medr i ffwrdd.
"Os fydden nhw wedi adeiladu 72 t欧 fel rhan o'r cynllun datblygu lleol, fydde dim ots gyda fi.
"Dydw i ddim y math o berson sy'n dweud 'dim yn fy ngardd gefn i'."
Mae Mr McGranaghan yn honni na fydd y tai'n cael eu defnyddio ar gyfer ffoaduriaid o Wcr谩in bellach.
"Fe wnes i gynnig cartref dros dro i deulu o Wcr谩in, felly doedd gennym ni ddim problem i ddechrau.
"Ond nawr rydyn ni'n poeni na fydd y tai yma'n cael eu defnyddio ar gyfer pobl o Wcr谩in, ac y byddan nhw'n cael eu hychwanegu i'r stoc o dai ac na fyddan nhw'n dai dros dro."
Roedd disgwyl i bwyllgor cynllunio'r cyngor ystyried y cais am y safle fis nesaf, ond cafodd ei aildrefnu ar gyfer 9 Gorffennaf yn sgil yr etholiad cyffredinol.
Mae pobl sy'n gwrthwynebu'r datblygiad wedi creu gr诺p gweithredol ac wedi codi dros 拢7,000 o fewn dyddiau er mwyn sicrhau cefnogaeth gyfreithiol.
"Mae'n edrych fel carchar, ac mae'n teimlo fel carchar," dywedodd Dave Thomas, 61, sy'n rhan o'r gr诺p.
Dywedodd Mr Thomas, sydd wedi byw ger y safle gyda'i deulu, ers 29 mlynedd: "Sut all yr adran gynllunio wneud penderfyniad teg nawr? Maen nhw wedi gwario 拢25m ar hyn yn barod.
"Dydyn nhw ddim yn mynd i'w tynnu nhw oddi yma ar 么l gwario gymaint o arian arnyn nhw.
"Roedden ni'n credu eu bod nhw'n mynd i helpu pobl sy'n ffoi o'u gwlad ac mai dros dro fydden nhw.
"Roedd y safle i fod yn lle croesawgar ar gyfer ffoaduriaid ond dyw e ddim yn groesawgar o gwbl."
Dywed y cyngor bod yr unedau yn rhai dros dro am bum mlynedd a bod modd eu symud nhw a'u defnyddio nhw eto.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Dechreuodd y gwaith ar y safle yma ar 3 Mehefin 2023 ac roedd hawliau datblygu yn gymwys am ddeuddeg mis o'r dyddiad hwnnw. Ar 么l hynny byddai'r datblygiad yn cael ei weld fel un oedd heb ei awdurdodi."
Ychwanegodd mai'r cam nesaf arferol mewn sefyllfa fel yr un yma ydi "aros i weld be fydd canlyniad y cais cynllunio cyn penderfynu ar y camau nesaf".
"Fydd dim teuluoedd yn symud i'r cartrefi yma tan i benderfyniad gael ei wneud, a dim ond os fydd caniat芒d cynllunio yn cael ei gymeradwyo."
Barn ymgeiswyr etholiadol Bro Morgannwg
Dywedodd y Ceidwadwr Alun Cairns "nad oes unrhyw ymgynghoriad wedi bod gyda'r gymuned leol" a'i fod yn "sgandal eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i ddatblygu'r safle wythnos cyn y Nadolig yn 2022 a dweud wrth bobl leol eu bod nhw'n defnyddio pwerau mewn argyfwng er mwyn datblygu'r safle ar gyfer ffoaduriaid o Wcr谩in".
Mae Kanishka Narayan o'r Blaid Lafur yn dweud ei fod wedi gwrando'n ofalus ar bryderon pobl ar faterion cynllunio. Dywedodd y byddai'n "gynrychiolydd cryf ar gyfer ein cymuned ac yn cyflwyno'r pryderon yma yn gyntaf wrth drafod y mater gyda phwyllgor cynllunio'r cyngor".
Dywedodd Ian Johnson o Blaid Cymru ei fod yn croesawu'r syniad bod Cymru yn "noddfa" ac y bydd cynghorwyr yn penderfynu a fyddan nhw'n cymeradwyo'r cais ar gyfer y safle "ar 么l ymweld a chael trafodaeth lawn a gonest i weld a yw'r datblygiad yn dilyn canllawiau cynllunio".
Yn 么l Steven Rajam o'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae'n rhaid ystyried datblygiadau newydd oherwydd yr effaith ar y gymuned. Ond dywedodd ei fod "yn ymddangos bod y cyngor wedi penderfynu mynd ymlaen heb ystyried hyn yn llawn, gan adael pobl leol i ddelio 芒'r problemau".
Dywedodd Toby Rhodes-Matthews o Reform ei fod "wedi ei ffieiddio" gyda'r sefyllfa, sydd "wedi arwain at golledion ariannol sylweddol i bobl leol ac wedi effeithio ar hapusrwydd y gymuned".
Yn 么l Stuart Field o Blaid Diddymu Cynulliad Cymru: "Does neb byth yn trafod gyda phobl sy'n gorfod byw yna. Mae'n cael ei wneud y tu 么l i ddrysau cae毛dig. Mae'n hen bryd i Senedd Cymru lywodraethu ar ran pobl Cymru yn hytrach na helpu pawb arall yn y byd."
Mae cais wedi'i roi am ymateb y Blaid Werdd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Ebrill