Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lois Medi Wiliam yw prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn
Lois Medi Wiliam sydd wedi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd Maldwyn a hynny am gerdd ar y testun 'Gwrthryfela'.
Mae Lois yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor, ac ar fin graddio o Ysgol Economeg Llundain (LSE) mewn Anthropoleg Gymdeithasol.
Mae hi鈥檔 gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor lle鈥檙 enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf.
Enillodd hefyd goron eisteddfod Ysgol Tryfan, Bangor a chadair eisteddfod Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy.
Dwy flynedd yn 么l daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Medal Ddrama yr Urdd.
Y llynedd dyfarnwyd iddi Dlws D Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas am y gerdd orau i rai rhwng 16 a 25 oed.
Mae hi eisoes wedi cyhoeddi cerddi yn Codi Pais ac yn Ffosfforws (Cyhoeddiadau鈥檙 Stamp), ond dyma鈥檙 tro cyntaf iddi gyhoeddi ei barddoniaeth yn unigol.
Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gerdd neu gerddi, caeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell.
Ysgrifennodd Lois y gerdd fuddugol er cof am ei thaid, un a hybodd ei diddordeb mewn llenydda.
Y beirniaid oedd Tegwyn Pughe Jones - bardd o Sir Drefaldwyn, a Mari George - enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd Bro Maelor 1996.
'Hynod afaelgar'
Llwyddodd "cerdd syml y bardd hwn i fynd 芒 fy ngwynt", meddai'r beirniaid.
"Ymgais i ddygymod 芒 galar sydd yma ac mae鈥檙 dweud yn hynod afaelgar o鈥檙 dechrau un.
"Nid yw鈥檙 thema yn y gerdd yn newydd ond mae arddull ymatalgar a chynnil y bardd a鈥檙 ymdriniaeth 芒鈥檙 thema yn taro deuddeg.
"Mae鈥檔 llwyddo i gyfleu hiraeth a thristwch mewn ffordd aeddfed heb bentyrru ansoddeiriau a heb greu darluniau sentimental.鈥
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Brennig Davies o Gaerdydd a Tesni Elen Peers o Wrecsam yn drydydd.
Cafodd y gadair ei dylunio a鈥檌 chreu gan Si么n Jones, saer coed o Lanidloes.
Roedd Sir Drefaldwyn yn ysbrydoliaeth i Si么n wrth iddo gynllunio鈥檙 gadair 鈥 mae鈥檙 dyluniad yn cynnwys 么l Afon Hafren, Llyn Efyrnwy, cerddoriaeth y delyn, amaethyddiaeth, y tirlun a nodweddion unigryw cefn gwlad y canolbarth.
Ar y sedd mae map o Gymru wedi'i gerfio gan Chris Gethin, crefftwr lleol, gyda logo鈥檙 Urdd yn amlwg ar ardal Meifod ar y map.
Yn ei waith bob dydd mae Si么n yn creu ceginau a dodrefn 芒 llaw yn ei weithdy ar fferm y teulu yng Nghaersws.
鈥淢ae creu'r gadair ar gyfer ardal sy鈥檔 golygu gymaint i fi a鈥檙 teulu, yn fraint," meddai.
鈥淒wi wedi bod yn cadw鈥檙 pren lleol yma ar gyfer rhywbeth arbennig. Felly beth well na defnyddio'r rhain ar gyfer Cadair yr Eisteddfod leol?鈥
Roedd y gadair yn rhoddedig gan NFU Cymru, Rhanbarth Maldwyn.