Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dynes wnaeth ffoi o Wcr谩in wedi marw mewn gwrthdrawiad
Mae teyrnged wedi鈥檌 rhoi i fenyw 40 oed o Wcr谩in fu farw wedi iddi gael ei tharo gan gar yn Abertawe, ar 31 Ionawr.
Roedd Tetiana Martynova, o Kharkiv, yn cerdded ar ochr y ffordd pan gafodd ei tharo gan gar Chevrolet Captiva gwyn.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 18:20 ar 31 Ionawr ar yr A4067, Ffordd Castell-nedd ger Treforys.
Roedd Tetiana yng Nghymru ar 么l ffoi o Wcr谩in pan ymosododd Rwsia ym mis Chwefror 2022.
Roedd wedi cael lloches yn ardal Abertawe gyda鈥檌 mab, 13 oed, Illia, ers Gorffennaf 2022.
'Menyw alluog, uchelgeisiol'
Mae鈥檙 bobl oedd wedi rhoi lloches iddi wedi ei disgrifio fel 鈥渕enyw oedd yn creu argraff, yn aml-ieithog, galluog, uchelgeisiol, gweithgar ac ymroddgar".
Roedd yn gweithio i gwmni lleol yn y byd cyfrifeg ac wedi llwyddo i gael cymwysterau pellach tra yn Abertawe.
Roedd Tetiana yn gobeithio dychwelyd i Wcr谩in yr haf hwn.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio ac yn apelio am dystion neu unrhyw un 芒 lluniau dashcam.