Teyrnged i ddyn, 64, fu farw ar 么l ymosodiad yng Ngorseinon

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Kelvin Evans, 64, ei gludo i'r ysbyty ar 么l ymosodiad mewn gwesty

Mae teulu dyn fu farw ar 么l ymosodiad wedi rhoi teyrnged i 鈥渇ab, brawd, ewythr a ffrind hyfryd, cariadus a doniol鈥.

Cafodd Kelvin Evans, 64, ei gludo i'r ysbyty ar 么l ymosodiad ar 26 Mai yng Ngwesty'r Orsaf yng Ngorseinon, Abertawe.

Bu farw Mr Evans, o Orseinon, yn yr ysbyty.

Dywed ei deulu bod eu calonnau'n torri wedi'r golled "ddibwrpas".

Mae dyn 39 oed wedi ei arestio ac yn dal i fod yn y ddalfa.

Mewn datganiad, fe ddywedodd teulu Mr Evans eu bod yn 鈥渃eisio dygymod鈥 芒鈥檙 sefyllfa.

Mae dynes 54 oed o Abertawe, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi ei rhyddhau ar fechn茂aeth.

Mae Heddlu'r De yn apelio ar y cyhoedd am wybodaeth am y digwyddiad.