'Gofalwch rhag sgamiau sy'n targedu siaradwyr Cymraeg'

Disgrifiad o'r llun, Anwen Roberts a Gareth Potter - dau sy'n rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus wedi iddyn nhw gael eu targedu gan sgamwyr yn ddiweddar
  • Awdur, Ian Edwards a Rhys Thomas
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

Mae yna alw ar bobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau digidol sy鈥檔 targedu siaradwyr Cymraeg.

Mae Cymru Fyw wedi siarad ag unigolion a busnesau bach ar draws Cymru a gafodd eu twyllo gan sgamwyr.

Un o鈥檙 rhai gafodd ei thargedu yn ddiweddar oedd Anwen Roberts, sy鈥檔 rhedeg cwmni dylunio Draenog yng Nghaernarfon.

鈥淭ydi o ddim yn neis meddwl galla pobl golli ffydd ynddo ni fel busnes oherwydd hyn,鈥 meddai.

鈥淒wi wedi gweld ar y cyfryngau cymdeithasol bod cwmn茂au Cymraeg eraill wedi cael eu targedu, felly mae鈥檔 rhaid bod o鈥檔 broblem eang yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.鈥

Disgrifiad o'r fideo, Anwen Roberts yn disgrifio'r hyn a ddigwyddodd i'w chwmni, Draenog

Yn 么l Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, mae'r heddlu'n ymwybodol o gynnydd yn y math yma o sgamiau.

鈥淓in rhybudd ni o faes plismona yw bod yn wyliadwrus o unrhyw un sy鈥檔 cysylltu 芒 chi, ym mha bynnag iaith," dywedodd, "yn enwedig os maen nhw鈥檔 defnyddio鈥檙 iaith Gymraeg, a bod chi ddim yn disgwyl y cysylltiad hynny."

Tudalen Facebook ffug

Fe gododd trafferthion cwmni Draenog fis diwethaf wrth redeg cystadleuaeth i ennill siwmper Nadolig ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

鈥淎r y bore ar 么l i鈥檙 gystadleuaeth orffen cefais lwyth o negeseuon gan bobl yn mynnu bod nhw wedi ennill, ond o鈥檔 i heb ddewis yr enillydd,鈥 meddai Anwen Roberts.

Ar 么l tipyn o waith tyrchu fe ddaeth i鈥檙 amlwg mai sgamwyr oedd wedi bod ar waith.

Yn 么l Anwen roedd rhywun wedi creu tudalen Facebook ffug er mwyn cysylltu 芒鈥檙 cwsmeriaid ac wedi holi nhw am fanylion banc.

鈥淐afodd pawb neges bersonol yn gofyn iddyn nhw glicio ar ddolen oedd wedyn yn gofyn iddyn nhw rannu eu manylion banc er mwyn cael hawlio鈥檙 wobr."

Disgrifiad o'r llun, Roedd y sgamwyr wedi manteisio ar gystadleuaeth gan gwmni Draenog ar y cyfryngau cymdeithasol i dargedu pobl gan ddweud eu bod yn enillwyr

Roedd y Gymraeg yn y negeseuon braidd yn chwithig, medd Anwen Roberts, ac fe wnaeth hynny greu amheuaeth ymhlith ei chwsmeriaid.

鈥淒oes neb wedi dweud wrtha' i fod nhw wedi rhoi manylion personol i鈥檙 sgamwyr, diolch byth, ond doedd o ddim yn brofiad neis," dywedodd.

鈥淥鈥檔 i wedi synnu bod y sgam yn cael ei weithredu drwy鈥檙 Gymraeg ond yn dallt bydda bobl yn llai parod i gwestiynu oherwydd hynny.

鈥淔yddwn ni byth, fel busnes, yn holi pobl i rannu manylion personol yn y ffordd yna. O hyn ymlaen fyddai鈥檔 rhybuddio cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus o scams.鈥

Dwyn cyfrif Instagram i werthu Bitcoin

Un arall 芒 phrofiad o gael ei sgamio drwy鈥檙 Gymraeg yw鈥檙 actor Gareth Potter o Gaerdydd.

Disgrifiad o'r fideo, Mae yna duedd, medd Gareth Potter, "i beidio meddwl gall pethau drwg ddigwydd drwy鈥檙 iaith Gymraeg"

鈥淟lynedd ar Instagram ges i neges gan rywun o鈥檔 i yn dilyn, yn y Gymraeg, yn gofyn i mi neud rhywbeth iddo fo ar-lein," dywedodd.

鈥淥nd o fewn yr awr doedd dim cyfrif Instagram gyda fi. Oedd o鈥檔 brofiad ofnadwy, i ddweud y gwir.鈥

Fe ddaeth yn amlwg bod rhywun wedi cymryd drosodd ei gyfrif Instagram er mwyn gwerthu Bitcoin, neu arian digidol.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Gareth Potter ei dargedu gan sgam drwy Instagram

鈥淵n sydyn reit oedd pobl oedd yn dilyn fi yn meddwl fy mod i鈥檔 gwerthu Bitcoin.

鈥淕an fod y neges wreiddiol gennai gan rywun oedd wedi cael ei hacio yn y Gymraeg o鈥檔 i yn trystio fe.

鈥淣i鈥檙 Cymry Cymraeg yn rhy barod i ymddiried mewn rhywbeth os mae e yn Gymraeg.

"Ni鈥檔 tueddu i beidio meddwl gall pethau drwg ddigwydd drwy鈥檙 iaith Gymraeg.鈥

Ymddiried mwy mewn neges 'iaith gartrefol'

Mae Dafydd Llywelyn, sy鈥檔 aelod o fwrdd Plismona Digidol dros Gymru, yn dweud bod technoleg deallusrwydd artiffisial, neu Artificial Intelligence (AI), yn ei gwneud hi鈥檔 haws i sgamwyr fanteisio ar yr iaith.

鈥淣i鈥檔 ymwybodol bod yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio mwy yn y math yma o ddigwyddiadau nag yn y gorffennol,鈥 meddai.

鈥淵r ydym yn ymwybodol bod technoleg newydd yn galluogi pobl i ddefnyddio meddalwedd AI i ddynwared ieithoedd gwahanol.

鈥淥 ganlyniad i鈥檙 defnydd o鈥檙 iaith Gymraeg falle bod pobl yn fwy agored i niwed.

鈥淵n anffodus mae pobl yn tueddu i ymddiried os mae cysylltiad yn dod yn ei hiaith gartrefol nhw.鈥

Disgrifiad o'r fideo, Mae gofyn i bobl bwyllo ar 么l derbyn negeseuon annisgwyl, medd Dafydd Llywelyn

Mae Mr Llywelyn yn cynghori pobl i gymryd pwyll wrth ymateb i negeseuon annisgwyl.

鈥淢ae isio bobl i fod yn wyliadwrus ac ni鈥檔 rhybuddio pobl i sicrhau bod nhw鈥檔 cwestiynu unrhyw neges destun neu alwad ff么n neu ebost penodol a gwneud eich gwaith ymchwil cyn bod chi鈥檔 rhannu manylion personol."

Mewn datganiad, dywedodd Meta, sy鈥檔 berchen ar blatfformau Facebook ac Instagram, nad ydynt yn caniat谩u gweithgarwch twyllodrus, a'u bod yn gweithio gyda'r awdurdodau i helpu dioddefwyr.

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn tynnu cyfrifon sy'n honni i fod yn rhywun arall oddi ar eu platfformau, ac os yw pobl yn gweld cyfrifon o'r fath, bod modd rhoi gwybod drwy'r apiau.