Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Undebau'n cyhuddo Tata o roi cynnig diswyddo 'didostur'
- Awdur, Ben Price a Luned Phillips
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae trafodaethau dros ddyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot wedi methu, ar 么l i undebau wrthod cytuno i gynlluniau ailstrwythuro cwmni Tata.
Yn 么l undebau, mae'r cwmni wedi "diystyru" effaith y newidiadau ar weithwyr, eu teuluoedd a chymunedau.
Mae disgwyl i 2,800 o bobl golli eu swyddi ar draws Prydain fel rhan o'r cynlluniau ailstrwythuro.
Ym Mhort Talbot fydd y rhan fwyaf o'r swyddi'n diflannu. Yno, mae'r cwmni'n bwriadu cau dwy ffwrnes chwyth eleni.
Yn 么l y cwmni, mae ganddyn nhw gynllun diswyddo gwerth 拢130m, a bydd adeiladu ffwrnes drydan newydd hefyd yn darparu swyddi newydd.
Ychwanegon nhw eu bod "wedi cyflwyno cynnig helaeth sy鈥檔 cynnwys y pecyn cymorth gwell i weithwyr... yn ogystal 芒 chynnig hael ar gyfer cynllun sgiliau ac ailhyfforddi ar gyfer gweithwyr sy鈥檔 cael eu diswyddo鈥檔 anwirfoddol".
Mae datganiad ar y cyd rhwng undebau Community, GMB ac Unite yn dweud bod y cynnig i weithwyr yn "ymosodiad didostur" ac yn "gwbl annerbyniol".
Yn 么l yr undebau, roedd Tata wedi gobeithio y byddai'r gweithwyr yn cytuno ar gau'r ddwy ffwrnes chwyth erbyn mis Medi, a'r staff oedd yn gweithio yn yr ardaloedd hynny i adael erbyn diwedd y flwyddyn.
Fe ddywedon nhw hefyd bod gweithwyr dur oedd yn gwrthod derbyn diswyddo gwirfoddol yn cael eu symud i gynllun hyfforddiant sy'n talu'r isafswm cyflog ar 么l pedwar mis.
Ychwanegodd yr undebau nad oedd y cwmni'n addo osgoi diswyddiadau gorfodol.
'Mae ein haelodau yn grac'
Yn 么l Charlotte Brumpton-Childs o undeb y GMB: "Mae ein haelodau'n teimlo eu bod nhw'n cael eu diystyru a [bod y cwmni yn] cefnu arnyn nhw, ac maen nhw'n grac.
"Mae Tata wedi bod yn anfodlon mabwysiadu cynllun gan yr undebau, ac mae Llywodraeth y DU yn anfodlon rhoi digon o arian tuag at ddadgarboneiddio'r diwydiant mewn ffordd gyfrifol."
Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: 鈥淲edi saith mis o rannu gwybodaeth ac ymgynghori, yr wythnos ddiwethaf fe wnaethom gadarnhau y byddwn yn bwrw 'mlaen 芒鈥檔 cynlluniau ailstrwythuro a buddsoddiad o 拢1.25bn mewn gwneud dur gwyrdd i sicrhau cadw dros 5,000 o swyddi yn Tata Steel UK.
"Yr wythnos hon rydym wedi parhau 芒鈥檔 trafodaethau agored ac adeiladol gyda phartneriaid undebau llafur drwy Bwyllgor Dur y DU.
鈥淵r wythnos hon rydym wedi cyflwyno cynnig helaeth sy鈥檔 cynnwys y pecyn cymorth gwell i weithwyr... yn ogystal 芒 chynnig hael ar gyfer cynllun sgiliau ac ailhyfforddi ar gyfer gweithwyr sy鈥檔 cael eu diswyddo鈥檔 anwirfoddol.
鈥淗eddiw, rydym wedi oedi鈥檙 trafodaethau hynny heb ddod i gytundeb.
鈥淩ydym yn parhau i ganolbwyntio ar greu diwydiant dur cynaliadwy yn y DU sy鈥檔 cefnogi cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu a chymunedau dur trwy drawsnewidiad cyfiawn i gynhyrchu dur carbon isel.鈥