Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Honiadau yn erbyn Neil Foden 'yn wir', medd merch
Mae merch sy'n honni ei bod wedi cael ei cham-drin gan brifathro wedi dweud wrth lys bod hi'n "wir" bod y ddau wedi cael perthynas rywiol.
Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
'Methu' dweud wrth unrhyw un
Awgrymodd bargyfreithiwr Mr Foden, Duncan Bould, i'r ferch, sy'n cael ei hadnabod yn yr achos fel Plentyn E, "nad yw'n wir" ei bod wedi cael profiadau rhywiol cyson gyda'r diffynnydd.
Gwadodd hynny, ond fe gytunodd na ddywedodd wrth unrhyw un am y peth ar y pryd.
"Doeddwn i methu," dywedodd. "Doedd o ddim yn berthynas y byddai'n cael ei gweld yn un derbyniol."
Dywedodd y ferch y byddai hi a Mr Foden yn trafod eu bywydau personol, a'u bod wedi mynd ar sawl drip gyda'i gilydd gan aros mewn sawl gwesty .
Awgrymodd Mr Bould, er ei bod wedi bod i rai o'r un llefydd y tu hwnt i Wynedd â Mr Foden, doedden nhw heb fynd i'r llefydd hyn gyda'i gilydd.
"Eto, mae hynny'n anghywir," atebodd.
Dywedodd Plentyn E y byddai'n dweud wrth ei theulu ei bod rywle arall pan roedd hi'n mynd i ffwrdd gyda Mr Foden.
Cyfeiriodd Mr Bould at un achlysur a ddangoswyd i'r llys yr wythnos ddiwethaf, ble dywedodd Plentyn E mewn cyfweliad gyda'r heddlu bod Mr Foden wedi stopio'i gar mewn man gwledig er mwyn "chwarae" gyda hi.
"Doedd dim gweithgaredd rhywiol, nag oedd?" gofynnodd Mr Bould wrth y ferch.
"Roedd yn chwilio am rywle i fynd am dro."
"Credwch be' liciwch chi," atebodd y ferch.
'Ro'n i'n trio ei warchod'
Gofynnodd wedyn am y foment y clywodd Plentyn E bod Mr Foden wedi cael ei arestio.
Dywedodd iddi ddarllen hynny ar y cyfryngau cymdeithasol a "mynd i banig".
Yn fuan wedi hynny, aeth at yr heddlu i wneud datganiad.
"Ro'n i'n trio ei warchod," meddai.
Cytunodd gyda Mr Bould iddi ddweud yn y datganiad hwnnw bod Mr Foden "erioed wedi gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus neu wedi ymddwyn yn amhriodol tuag ata'i".
"Dyna oedd y gwirionedd, oni ddim?" gofynnodd Mr Bould.
"Na, dim y cyfan, na," atebodd.
Gan ddechrau crio, dywedodd Plentyn E: "Wnes i adael lot o bethau allan… ro'n i'n trio ei warchod. Ro'n i'n desperate iddo beidio bod yn digwydd."
Wrth i fargyfreithiwr yr erlyniad, John Philpotts, ei hail-holi, fe ofynnodd iddi ddweud wrth y rheithgor ai'r gwirionedd oedd "y pethau rhywiol" yn ei thystiolaeth.
"Ydy," meddai wrth y rheithgor. "Mae'n wir."
Dywedodd yn ddiweddarach bod oedolion eraill wedi gwneud iddi dderbyn bod "y gyfrinach ddim yn gyfrinach mwyach".
Ychwanegodd mai'r hyn a ddywedodd wedi hynny mewn cyfweliadau heddlu wedi eu recordio oedd y gwirionedd.
Dywedodd mam Plentyn E wrth y llys yn ddiweddarach fod ei merch "mewn trallod" ar ôl dod i wybod fod Mr Foden wedi cael ei arestio.
Dywedodd wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug fod ei merch wedi dweud wrthi fod Mr Foden "wedi gwneud pethau iddi" a bod "pethau wedi digwydd".
Doedd hi ddim wedi gofyn am fanylion, meddai, ond fe wnaeth hi "gysuro" ei merch.
Ychwanegodd ei bod bellach yn credu fod ei merch gyda Mr Foden ar achlysuron ble roedd hi wedi dweud ei bod yn aros gyda ffrindiau neu aelodau eraill o'r teulu.
Dywedodd oedolyn a siaradodd gyda Phlentyn E am y berthynas rywiol honedig gyda Mr Foden ei fod "eisiau amddiffyn pobl ifanc eraill".
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd yr oedolyn bod y ferch wedi dweud ei bod yn caru Mr Foden, ond ei bod wedi cytuno i adrodd y mater.
Mae'r achos yn parhau.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y ´óÏó´«Ã½.