Covid: 'Hen ysbytai a systemau cymhleth wedi cael effaith'

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd systemau cymhleth yn ei gwneud hi'n anodd adnabod cleifion bregus, yn 么l Dr Frank Atherton

Fe gafodd hen ysbytai a'r defnydd o wahanol systemau data effaith ar yr ymateb i'r pandemig yng Nghymru, yn 么l y Prif Swyddog Meddygol.

Wrth roi tystiolaeth fel rhan o Ymchwiliad Covid y DU, dywedodd Syr Frank Atherton fod cyfarwyddwyr ysbytai wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i addasu hen adeiladau er mwyn delio 芒'r tonnau o gleifion oedd angen triniaeth.

Nododd hefyd fod swyddogion oedd yn llunio rhestrau o bobl all fod yn fregus wedi gorfod cyfuno data o 12 gwahanol system.

Ychwanegodd fod yna angen mawr i sicrhau bod system symlach yn cael ei defnyddio cyn bod pandemig arall yn taro.

Dywedodd Syr Frank yn y gwrandawiad yn Llundain ddydd Llun fod yna ddealltwriaeth gyffredinol nad oedd ysbytai Cymru mor fodern a hyblyg ag yr oedd angen iddyn nhw fod, gyda nifer yn dyddio n么l i'r 1960au a'r 70au.

"Roedd dilyn canllawiau o i reoli lledaeniad yr haint yn her i nifer o'n hysbytai," meddai.

Clywodd y gwrandawiad fod oedran yr ysbytai yn gwneud hi'n anoddach i gyflwyno gwell systemau awyru - rhywbeth oedd yn cael ei weld fel rhan bwysig o'r broses o reoli lledaeniad yr haint.

Prosesau 'anodd a thechnegol'

Yn 么l Syr Frank, roedd canfod y bobl fwyaf bregus yn broses "anodd a thechnegol" ac roedd y systemau oedd yn cael eu defnyddio yn hynod gymhleth.

"Doedd dim system gyfrifiadurol yng Nghymru oedd yn ein galluogi i ddod o hyd i'r bobl hynny yn gyflym," meddai.

"Roedd llwyth o waith yn cael ei wneud gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru er mwyn ceisio plethu'r gwahanol systemau data oedd eu hangen i ganfod y cleifion."

Awgrymodd hefyd bod yna lawer o waith angen ei wneud o hyd i wella cysylltedd digidol y gwahanol systemau data sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru, a hynny cyn i bandemig arall daro.

Sorry, we can鈥檛 display this part of the story on this lightweight mobile page.

Cafodd Syr Frank ei holi hefyd yngl欧n 芒'r heriau wrth geisio mynd i'r afael ag achosion o'r haint yn trosglwyddo o glaf i glaf mewn ysbytai.

Dywedodd ei bod hi'n amhosib atal yr haint rhag trosglwyddo yn llwyr o fewn ysbytai, heb eu cau nhw'n gyfan gwbl.

Doedd cynnydd yn nifer yr achosion, meddai, ddim o reidrwydd yn golygu bod rhywbeth o'i le gyda'r mesurau diogelwch, ac y byddai nifer yr heintiadau wedi bod yn llawer gwaeth heb yr holl gyngor a chefnogaeth a roddwyd i fyrddau iechyd.

Dr Atherton yw'r olaf o brif swyddogion meddygol y DU i roi tystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus.

Nododd hefyd fod prinder staff ac adnoddau wedi bod yn broblem ar ddechrau'r pandemig.

"Roedd gymaint yn digwydd, ac roedd 'na afon o wybodaeth newydd yn llifo yn ofnadwy o gyflym... roedd hi'n anodd iawn cynnal ein dealltwriaeth o'r sefyllfa ehangach a chadw trefn ar y swyddfa ar yr un pryd," meddai.

Dywedodd fod Prif Swyddog Meddygol Yr Alban, Dr Catherine Calderwood "wedi syfrdanu o weld cyn lleied o adnoddau oedd ar gael i ni, a'r holl wahanol heriau yr oedden ni'n eu hwynebu".