Posib bod staff wedi trin cleifion Covid heb PPE addas - Gething

Ffynhonnell y llun, Ymchwiliad Covid y DU

Disgrifiad o'r llun, Roedd Mr Gething yn weinidog iechyd yn ystod y pandemig

Mae鈥檔 bosib bod staff a fu鈥檔 trin cleifion Covid yn ystod y pandemig wedi gwneud hynny heb gyfarpar diogelu personol (PPE) addas, yn 么l cyn-weinidog iechyd Cymru.

Mae Vaughan Gething wedi bod yn rhoi tystiolaeth i fodel yr ymchwiliad Covid ar sut wnaeth gwasanaethau iechyd y DU ymdopi 芒鈥檙 pandemig.

Dywedodd er nad oedd Cymru wedi rhedeg allan ar lefel genedlaethol, roedd 鈥渞hai heriau real iawn o ran dosbarthu鈥.

Clywodd yr ymchwiliad fod adran dylunio a thechnoleg ysgol wedi gwneud mygydau a hylif llaw i'w rhoi i fferyllydd.

Dywedodd gr诺p undebau llafur y TUC wrth yr ymchwiliad fod yn rhaid i rai gweithwyr droi at wisgo bagiau bin.

'Pobl ddiegwyddor'

Dywedodd Mr Gething fod y pentwr stoc cyn-bandemig o gyfarpar diogelu personol yn annigonol ar gyfer coronafeirws.

Clywodd yr ymchwiliad fod stociau cynnar wedi rhedeg allan yn gynt na'r disgwyl, a bu'n rhaid taflu peth offer diogelu llygaid.

Roedd "pobl ddiegwyddor" hefyd yn ceisio gwneud arian allan o gynnig cyfarpar annigonol, meddai.

Gofynnodd cwnsler yr ymchwiliad Jacqueline Carey i鈥檙 cyn-weinidog iechyd, a wasanaethodd fel prif weinidog yn ystod rhan o 2024 ac sydd bellach ar y meinciau cefn, a oedd gan GIG Cymru 鈥渄dim y PPE cywir, neu nad oedd ganddo ddigon o鈥檙 PPE cywir鈥.

鈥淩wy鈥檔 meddwl bod ychydig o鈥檙 ddau,鈥 meddai Mr Gething.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd stociau menig wedi para wythnos a hanner, clywodd yr ymchwiliad

Roedd stociau pandemig o offer diogelu wedi'u cynllunio i bara 15 wythnos.

Dywedodd Mr Gething fod adroddiad o fis Ebrill 2021 a oedd yn edrych ar fis Mawrth, a gafodd ei gyflwyno i鈥檙 ymchwiliad, yn dangos nad oedd wedi para.

Roedd stociau menig yn para wythnos a hanner.

鈥淯nwaith i ni sicrhau cyflenwad menig, roedd ffedogau yn broblem fwy,鈥 meddai Mr Gething, gan ddweud ei fod wedi cymryd 鈥渞han sylweddol o fy amser fel gweinidog鈥.

Dywedodd fod yna 鈥渓awer iawn o bobl ddiegwyddor ['shysters'] yn ceisio gwneud arian allan o offer annigonol鈥

鈥淩oedd y byd i gyd eisiau mwy, ac roedd rhai pobl yn gweld hynny fel cyfle busnes diegwyddor.鈥

Dywedodd e-bost gan ymgynghorydd yn Ysbyty鈥檙 Tywysog Charles ar 24 Mawrth 2020 fod 鈥渁nhrefn llwyr yn ein hysbyty, dim amddiffyniad i nyrsys, mor芒l isel iawn鈥.

Dywedodd yr ymgynghorydd eu bod yn cael cais i ofalu am gleifion sy'n cael eu derbyn i wardiau orthopedig gan feddygon 芒 symptomau anadlol. Nid oedd mygydau 鈥測n cael eu rhyddhau鈥, medden nhw.

Gofynnodd Jacqueline Carey i Mr Gething: 鈥淵dych chi鈥檔 derbyn ei bod hi鈥檔 ymddangos ar adegau yng ngham un bod gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru wedi trin cleifion Covid-19 芒 PPE annigonol a allai fod mewn perygl i鈥檞 hiechyd eu hunain?鈥

鈥淢ae gen i ofn bod hynny'n bosib, ydy.鈥

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Eluned Morgan oedd olynydd Vaughan Gething fel gweinidog iechyd

Amddiffynnodd olynydd Mr Gething fel gweinidog iechyd, y prif weinidog presennol Eluned Morgan, y penderfyniad i beidio 芒 chynnal ymchwiliad cenedlaethol i heintiau a gafwyd mewn ysbytai.

Wrth roi tystiolaeth brynhawn Mercher, dywedodd Eluned Morgan fod byrddau iechyd wedi ymchwilio i fwy na 18,630 o achosion unigol ac "na allent fod wedi bod yn fwy trylwyr."

Dywedodd ei bod yn anodd nodi achos gan fod yna "lawer o achosion."

Gofynnwyd iddi a oedd yr awgrym y gallai byrddau iechyd fod yn wynebu hawliadau sifil o hyd at 拢69m gan gleifion a theuluoedd yn ffactor, ond dywedodd "nad oedd yn ffocws i mi" a'i fod yn ymwneud 芒 dysgu gwersi.

Pan ofynnwyd iddi鈥檔 ddiweddarach am gyfyngiadau ymweld, dywedodd Eluned Morgan fod rhai achosion lle gallent fod wedi gwneud pethau鈥檔 wahanol, o ran cleifion mamolaeth a chanser.

Dywedodd y prif weinidog wrth yr ymchwiliad 鈥減e bawn i鈥檔 cael fy amser eto鈥 byddai hi鈥檔 鈥渂endant鈥 wedi gweithredu鈥檔 gynt i newid y canllawiau ynghylch partneriaid geni yn ymweld 芒鈥檙 ysbyty.

Diweddarwyd y canllawiau ar 9 Mai 2022 fel bod partneriaid geni i gael eu cyfrif fel partneriaid mewn gofal yn hytrach nag ymwelwyr.

Roedd hyn fwy na blwyddyn ar 么l i hyn gael ei wneud yn Lloegr.

'Angen i bobl gael eu dwyn i gyfrif'

O ran ailddechrau llawdriniaeth arferol yn gynharach, cyfaddefodd y gallai hyn fod wedi'i gynllunio'n gynharach ond nid oedd yn si诺r y gallai fod wedi'i weithredu'n gynt o ystyried y pwysau oedd ar y system.

Dywedodd iddi ymweld 芒 chanolfan orthopedig heb ei gynllunio a chanfod bod 13 o lawfeddygon ddim yn gweithio.

"Doedden nhw ddim yno. Felly, nid oedd y monitro, y rheolaeth yn digwydd yn y ffordd y dylai fod wedi bod yn digwydd."

Dywedodd fod angen i bobl gael eu dwyn i gyfrif ac ni chafodd eglurhad boddhaol a chymerodd gamau wedyn i'w gwneud yn glir bod yn rhaid "i bethau newid".

Dywedodd hefyd mai dim ond 172 o welyau preifat oedd ar draws Cymru gyfan felly nid oedd hyn yn rhoi llawer o gapasiti i ddelio 芒'r 么l-groniad, er eu bod yn defnyddio rhai ohonynt a hefyd gwelyau preifat yn Lloegr.

Roedd y sefyllfa yn GIG Lloegr yn wahanol, lle鈥檙 oeddent yn gallu clirio 18% o鈥檜 h么l-groniad drwy ddefnyddio鈥檙 sector preifat, meddai.