Pedwar newid i d卯m Cymru i herio Awstralia

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd mewnwr Cymru, Tomos Williams ddim ar gael i wynebu'r Wallabies

Ni fydd Tomos Williams ar gael ar gyfer g锚m Cymru yng Nghyfres y Cenhedloedd yr Hydref yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Cafodd mewnwr Caerloyw anaf i'w ysgwydd yn y golled o 24-19 yn erbyn Fiji ac mae Ellis Bevan o Gaerdydd yn cymryd ei le.

Mae'r prif hyfforddwr Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid wrth i Gymru geisio osgoi colled ryngwladol arall - maen nhw eisoes wedi colli 10 yn olynol.

Mae asgellwr y Scarlets Tom Rogers yn cymryd lle Mason Grady sydd wedi鈥檌 anafu, tra bod y blaenasgellwyr Jac Morgan a James Botham yn dod i mewn yn lle Taine Plumtree a Tommy Reffell.

Mae mewnwr y Dreigiau, Rhodri Williams, 31, wedi ei enwi ar fainc yr eilyddion, dros 10 mlynedd ers ennill ei gap diwethaf.

Ers cymryd lle Wayne Pivac ym mis Rhagfyr 2022 a dychwelyd am ail gyfnod fel prif hyfforddwr Cymru, dim ond chwech allan o 22 g锚m y mae Gatland wedi鈥檜 hennill.

Bydd Awstralia yn cyrraedd Caerdydd ar gefn buddugoliaeth syfrdanol o 42-37 yn erbyn Lloegr.

Maen nhw hefyd wedi ennill naw o鈥檜 11 ymweliad diwethaf 芒 phrifddinas Cymru.

Bydd y gic gyntaf am 16:10 ddydd Sul, 17 Tachwedd.

T卯m Cymru i wynebu Awstralia

Winnett; Rogers, Llewellyn, B Thomas, Murray; Anscombe, Bevan; G Thomas, Lake (capt), Griffin, Rowlands, Beard, Botham, Morgan, Wainwright.

Eilyddion: Elias, N Smith, Assiratti, Tshiunza, Reffell, R Williams, Costelow, James.