Fferyllfeydd yn pleidleisio i dorri oriau agor oherwydd diffyg cyllid

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae fferyllfeydd annibynnol Cymru wedi pleidleisio o blaid cwtogi oriau agor ac atal dosbarthu meddyginiaethau i gartrefi am y tro cyntaf.

Mae'r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol (NPA) yn galw am fwy o arian oherwydd yr hyn y maen nhw’n ei ddweud sy'n ddegawd o doriadau i gyllid.

Maen nhw’n galw am gynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru i lenwi’r twll du ariannol.

Gallai rhai hefyd dynnu'n ôl o ddarparu dulliau atal cenhedlu brys ac atal gwasanaethau eraill.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gefnogi’r sector a’u bod yn darparu’r lefel uchaf o fuddsoddiad eleni er mwyn bodloni’r galwad cynyddol am eu gwasanaethau.

Pleidlais hanesyddol

Mae'r NPA yn cynrychioli tua hanner holl fferyllfeydd cymunedol y Deyrnas Unedig - tua 6,500 - ac roedd 3,339 wedi pleidleisio.

Yn y bleidlais, roedd 92% o fferyllfeydd annibynnol Cymru wedi dweud eu bod yn fodlon cyfyngu ar eu gwasanaethau oni bai bod cyllid yn cael ei wella.

Disgrifiad o'r llun, Mae fferyllfeydd annibynnol yn cael eu hariannu gan y llywodraeth am weinyddu meddyginiaeth ond nid yw'r tâl hwnnw wedi newid mewn degawd

Mae perchnogion fferyllfeydd annibynnol yn teimlo’n gryf bod hi’n sefyllfa gyllidol ddifrifol a’u bod wedi dioddef degawd o dangyllido a nifer o fferyllfeydd yn cau.

Yn ôl Rhodri Thomas, rheolwr y Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol yng Nghymru: “Mae hyn yn alwad i’r llywodraeth, os na bod rhywbeth yn digwydd, bydd rhaid i’r fferyllfeydd dorri 'nôl ar rai gwasanaethau fel bo nhw’n gallu canolbwyntio ar y prif wasanaethau o dispenso meddyginiaeth a’r prif wasanaethau clinigol," meddai Mr Thomas.

Prif asgwrn y gynnen yw’r ffaith bod fferyllfeydd annibynnol yn cael eu hariannu yn ddibynnol ar ffioedd lwfansau ar gyfer dosbarthu presgripsiynau gan y llywodraeth.

Ychwanegodd Mr Thomas: "Mae canran mawr o’r arian, sef y tâl am y meddyginiaeth maen nhw’n roi allan, dyw hwnna ddim wedi cynyddu mewn degawd.

"Hwnnw yw’r elfen mae’r NPA yn gofyn i’r llywodraeth edrych arno achos mae hwnna’n rhan bwysig o’r arian mae fferyllfeydd yn ei dderbyn, a fel o’n i’n deud, dyw‘r cyfran hwnnw ddim wedi cynyddu mewn degawd."

Mae costau rhedeg fferyllfa annibynnol wedi cynyddu hefyd.

Daw'r bleidlais wedi i'r Gyllideb weld cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Be allai newid?

Fe allai fferyllfeydd benderfynu:

  • I beidio bod ar agor yn hwy na 40 awr yr wythnos, gyda’r nos neu’r penwythnosau;
  • I beidio dosbarthu meddyginiaethau am ddim;
  • I beidio darparu dulliau atal cenhedlu brys, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a chymorth ysmygu;
  • I wrthod cydweithredu â rhai ceisiadau am ddata;
  • I roi'r gorau i gyflenwi systemau dos sy'n cael eu monitro am ddim (pecynnau meddyginiaeth), ac eithrio'r rhai o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Mae fferyllfeydd yn dweud eu bod yn dibynnu ar gyllid y Llywodraeth ac na fedran nhw godi’u costau eu hunain.

Mae nhw’n mynnu os na fydd y sefyllfa’n gwella, yna bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu tynnu’n raddol dros gyfnod o amser.

Gwasanaethau sydd ddim yn cael eu talu gan y Llywodaeth yw’r rhai dan fygythiad, yn ôl Rhodri Thomas, “rhai gwasanaethau megis delivero meddyginiaeth i bobl a trays meddyginiaeth, dyw’r llywodraeth ddim yn talu am rheiny - mae’r perchnogion yn talu am rheina allan o’u poced eu hunain, felly dyna beth mae’r perchnogion yn dweud – bydd rhaid iddyn nhw dorri nôl ar y gwasanaethau hynny er mwyn canolbwyntio ar y prif wasanaethau a diogelu y cleifion".

'Chwarae rhan annatod'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwerthfawrogi’r rôl mae fferyllfeydd cymunedol yn ei chwarae fel rhan annatod o ofal iechyd".

Fe ychwanegon nhw bod "y ddarpariaeth i fferyllfeydd yng Nghymru wedi tyfu 24% ers 2017" a'u bod wedi ymrwymo i barhau i gefnogi'r sector.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi darparu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, gan gynnwys £9.9m ychwanegol y flwyddyn a £700,000 mewn grantiau i fferyllfeydd i fuddsoddi mewn pethau fel awtomeiddio a gwella eu hadeiladau.

Mae’r fferyllfeydd annibynnol wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gyfarfod trwy fferylliaeth gymunedol Cymru.