ý

Tegwen Bruce-Deans yn ennill coron Eisteddfod yr Urdd

TegwenFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  • Cyhoeddwyd

Tegwen Bruce-Deans sydd wedi ennill y goron yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, a hynny am ddarn neu ddarnau o ryddiaith ar y thema ‘Terfynau’.

Cafodd Tegwen ei geni i deulu di-Gymraeg yn Llundain, cyn symud i Landrindod ym Mhowys yn ddwy oed.

Enillodd Tegwen y gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin y llynedd, sy’n ei gwneud yr ail berson erioed i gyflawni’r “dwbl”, ar ôl i Iestyn Tyne gyflawni'r un gamp yn 2019.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd cyflwynydd ý Radio Cymru, Mirain Iwerydd o Grymych, gyda Heledd Evans o Gaerdydd yn drydydd.

'Llais graenus a dawn naturiol'

Graddiodd Tegwen yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn 2022.

Mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mangor ac yn gweithio i ý Radio Cymru.

Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, ‘Gwawrio’, fel rhan o gyfres 'Tonfedd Heddiw' Cyhoeddiadau Barddas.

Ers hynny mae hi wedi ymuno â thîm Talwrn Twtil, ac yn un o bum bardd sydd yn rhan o gynllun Pencerdd eleni.

Mae ei gwaith barddonol wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad - ond dydy ei gwaith rhyddiaith erioed wedi cyrraedd print, cyn heddiw.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth 19 ymgais i law am y goron eleni

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau.

Y beirniaid oedd yr awduron Elin Llwyd Morgan a Caryl Lewis, a daeth 19 ymgais i law.

Dywedodd Caryl Lewis fod gwaith Tegwen yn "stori syml ond pwerus am ferch sy’n disgwyl am ei chariad mewn gorsaf drenau gyda neges sy’n annhebygol o’i blesio.

"Mae’r arddull yn farddonol ar adegau ond heb fod yn chwithig, a’r frawddeg olaf gryno yn cyfleu cyfrolau.

“Yn ddi-gwestiwn, dyma ddarn mwyaf caboledig a soffistigedig y gystadleuaeth a’r darllenydd yn medru synhwyro fod yna law brofiadol wrth y llyw yn ein harwain trwy’r daith emosiynol.

"Mae gan yr awdur lais graenus a dawn naturiol i fedru synhwyro rhythm stori."

'Coron ifanc ei naws'

Y gemweithydd a’r gof arian Mari Eluned o Fallwyd yw gwneuthurwraig y goron eleni.

Dywedodd: “Fy mwriad oedd creu coron ifanc ei naws sy’n cyfleu cyfraniad gwerthfawr yr Urdd a chymunedau amaethyddol, megis Maldwyn, a’u pwysigrwydd i ddyfodol ein diwylliant a’n hiaith.

Mae’r goron, a wnaed o arian, yn cynnwys cyfres o ŷd, triban yr Urdd wedi’i grefftio o lechen Gymreig, cerrig arian o Afon Dyfi, y geiriau ‘Mwynder Maldwyn’ ac ‘Urdd Gobaith Cymru’ gyda defnydd melfed euraidd i greu’r cap.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Yn ei chyfanrwydd, mae’r goron yn cyfleu ffyniant, undod a gobaith," medd Mari Eluned

Nid dyma’r tro cyntaf i Mari ddylunio a chreu coron ar gyfer Eisteddfod yr Urdd - dyluniodd ei choron gyntaf ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 10 mlynedd yn ôl.

Bryd hynny coronwyd Llio Maddocks yn brif lenor yr ŵyl, a Llio bellach ydy cyfarwyddwr y celfyddydau Urdd Gobaith Cymru.