Dau a dargedwyd yn rhybuddio am brynu tocynnau ar-lein
- Cyhoeddwyd
Gydag un o s锚r mwyaf y byd cerddorol yn dod i Gaerdydd ddydd Mawrth, mae pobl sydd wedi cael eu targedu wedi rhybuddio am yr angen i fod yn wyliadwrus wrth brynu tocynnau ar gyfer cyngherddau o鈥檙 fath ar-lein.
Fe wnaeth Emily Birch o'r Groeslon ger Caernarfon golli bron i 拢350 wrth geisio prynu tocynnau gan rywun ar Facebook.
Wrth annog eraill i fod yn ofalus, fe esboniodd ei fod "mor hawdd cael dy dwyllo".
Mae Adrian Williams o Gaerdydd hefyd wedi rhannu ei stori yntau, ble cafodd ei gyfrif Facebook ei hacio, a defnyddiodd sgamwyr ei gyfrif i geisio gwerthu tocynnau ffug.
'Mor hawdd cael dy dwyllo'
Fe drodd Emily Birch at Facebook i geisio prynu tocynnau i gig Taylor Swift yng Nghaerdydd, gan ei bod yn gweithio pan gafodd tocynnau'r gyngerdd eu rhyddhau ar wefannau swyddogol.
Dywedodd ar Dros Frecwast ei bod wedi derbyn nifer o negeseuon gan bobl ar gr诺p Facebook yn ceisio gwerthu eu tocynnau.
"Mi wnaeth yr hogan 'ma negesu, ac oedd hi i weld yn genuine, er, ti dal yn reit wyliadwrus pan ti'n trio cael y petha' 'ma," meddai.
Dywedodd iddi hyd yn oed gynnal sgwrs Facetime gyda'r ferch oedd yn gwerthu'r tocynnau, ac mai "dyna wnaeth 'neud i fi feddwl bod y tocynnau yma'n wir".
Er i'r taliad fod yn llwyddiannus, dywed Emily fod y cyswllt rhyngddi hi a'r gwerthwr wedi diflannu - "allan o nunlle doedd 'na ddim byd".
Dywedodd fod "misoedd wedi pasio a chlywed dim byd, a'r adeg hynny ti'n dechrau mynd i boeni ac isio gwybod lle maen nhw".
"Mae'n lot o bres i roi i rywun a ddim cael dim byd allan ohono fo."
Yn y pendraw dywedodd y gwerthwr fod cwmni Ticketmaster wedi cymryd y tocynnau yn 么l, ond mae Emily yn dal i ddisgwyl am ei harian yn 么l gan y ferch oedd yn gwerthu'r tocynnau.
Mae'n rhybuddio ei fod "mor hawdd cael dy dwyllo a sugno i mewn i ryw gelwydd".
Yn wahanol i Emily, cafodd Adrian Williams o Gaerdydd ei hacio ar Facebook, gyda sgamwyr yn cyhoeddi neges ar ei gyfrif yn ceisio gwerthu pedwar tocyn i'r gyngerdd.
Dywedodd fod y neges ar Facebook yn "dweud 'mod i a fy nghefnder yn methu mynd i'r gyngerdd, fod y tocynnau yn costio 拢200 yr un ond bydden ni'n cymryd 拢750 am y pedwar".
Esboniodd fod dolen a oedd yn honni ei fod yn mynd at wefan Ticketmaster yn rhan o'r post, "ond yn amlwg dim i Ticketmaster bydde'r ddolen yn mynd".
'Soffistigedig iawn'
Dywedodd iddo gael e-bost gan Facebook "fod rhywun wedi ceisio logio mewn i Facebook o Fietnam, ond erbyn hynny ro'n i methu logio mewn".
Disgrifiodd y broses fel un "rhwystredig iawn".
Fe ddywedodd hefyd fod y neges yn ddwyieithog - Saesneg a Chymraeg - ac yn "amlwg wedi pigo 'na lan, yn soffistigedig iawn o ran sut oedd e wedi cael ei wneud".
Dywedodd fod y person oedd gyda'i gyfrif "gam o'm mlaen i yr holl amser yn anffodus", wrth gyfyngu hefyd pwy oedd yn gallu rhoi sylw o dan y neges.
Dywedodd Ellis Roberts, swyddog safonau masnach Cyngor Bro Morgannwg fod "pobl yn barod i wneud unrhyw beth i gael tocynnau... ac yn anghofio am y pethau negatif sy'n gallu digwydd".
Dywedodd fod angen i bobl fod yn wyliadwrus o wefannau "sydd yn edrych yn wreiddiol ond sydd falle wedi eu creu mewn gwlad arall ac sydd heb gyfeiriad llawn y Deyrnas Unedig arno".
Ychwanegodd mai un ffordd o ddiogelu eich hunain yw "talu efo cerdyn credyd, oherwydd mae 'na amddiffyniad gan y cwmni cerdyn credyd ac maen nhw'n gyfrifol am ad-dalu os 'da chi'n colli arian".
Dywedodd fod sgamio tocynnau yn rhywbeth cyffredin, ac yn "digwydd efo teithiau fel hyn sy'n enfawr".
"Y mwyaf ma' pobl angen y tocynnau, y mwyaf mae'r sgamwyr yn dod allan ac yn edrych i wneud pres."
Annog pobl i ddefnyddio gwefannau swyddogol
Dywedodd asiantaeth tocynnau Ticketmaster bod hawl gan bobl i werthu tocynnau ymlaen, a bod gwneud hynny trwy wefannau ailwerthu swyddogol yn helpu rhwystro prisiau rhag cael eu codi'n afresymol, yn "rhwystro bots a phobl sy'n gwerthu tocynnau ymlaen am elw".
Dywedon nhw fod hyn yn ffordd o sicrhau bod tocynnau yn rhai go iawn.
Maen nhw hefyd yn dweud nad yw tocynnau sy'n cael eu gwerthu ymlaen mewn ffyrdd eraill yn ddilys, a'u bod felly'n cynghori pobl i brynu a gwerthu trwy asiantaethau tocynnau swyddogol.
Dywedodd Facebook nad yw gweithgaredd twyllodrus yn cael ei ganiat谩u na'i oddef ar y platfform, a'u bod yn buddsoddi mewn technoleg newydd er mwyn mynd i'r afael 芒 hyn.
Maen nhw'n annog pawb i greu cyfrinair diogel a defnyddio mesurau diogelwch pellach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd17 Mehefin