Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gardd o Gymru'n cipio aur yn Sioe Flodau Chelsea
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd amgylchedd
Mae gardd o Gymru sydd wedi ei disgrifio fel y "fwyaf bioamrywiol" yn hanes Sioe Flodau Chelsea wedi cipio medal aur.
Penderfynodd y beirniaid mai - sy'n cynnwys dros 300 o rywogaethau gwahanol o blanhigion - oedd yr orau yn ei chategori hefyd.
Neges yr ardd yw pwysigrwydd coedwigoedd trofannol, sy'n gartref i dros hanner holl rywogaethau anifeiliaid a phlanigion y blaned.
Dywedodd y dylunydd Dan Bristow, o Fethesda, Gwynedd ei fod "wedi gwireddu breuddwyd".
Mae'r ardd yn cynnwys 313 o rywogaethau o blanhigion, sy'n cymharu 芒'r nifer o wahanol fathau o goed all fod mewn ond un hectar o goedwig law drofannol.
"Mae'n amrywiaeth anhygoel o fywyd, a mae'n rhywbeth sydd angen ei warchod a'i arddangos," eglurodd Mr Bristow.
Tra bod ymwelwyr yn cael y teimlad o fod mewn tirwedd werdd sy'n debyg i goedwig law, mae'r holl blanhigion gafodd eu defnyddio yn gallu cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig.
Gobaith Mr Bristow yw y bydd yn ysbrydoli pobl i ystyried cynnwys mwy o amrywiaeth o ran y plannu yn eu gerddi eu hunain, er lles bywyd gwyllt.
"Yr ardd hon oedd y prif beth ar fy meddwl ers misoedd lawer a mae wedi bod yn broses hynod o gymhleth," meddai.
"Mae'n sbeshal iawn i gael ein hadnabod fel hyn achos fe wnaethon ni gymryd risg gyda'r dyluniad a trio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol."
"Dwi wrth fy modd - a wedi blino'n l芒n - hefyd".
Cafodd yr ardd ei chomisiynu gan elusen newid hinsawdd Maint Cymru, sy'n gweithio i ddiogelu ardaloedd o goedwig law dramor.
Mae'r cysylltiadau Cymreig yn amlwg - gyda'r ardd ei hun wedi'i dylunio yn si芒p Cymru, ac yn arddangos rhai o'n rhywogaethau mwyaf prin.
Tan yn ddiweddar, dim ond un planhigyn unig o heboglys y Bannau (Hieracium breconicola) oedd ar 么l ar lethr yn y parc cenedlaethol, tra bod dant y llew Aberhonddu (Taraxacum breconense), a oedd unwaith yn olygfa gyffredin mewn rhannau o Sir Fynwy a Phowys, hefyd mewn perygl o ddiflannu'n llwyr.
Roedd yr ardd yn cystadlu yn y categori 'All About Plants' yn Sioe Flodau Chelsea - lle mae'n rhaid gorchuddio o leiaf 80% o bob dyluniad 芒 planhigion.
Dywedodd cyfarwyddwraig Maint Cymru, Nicola Pulman, ei bod hi'n "anrhydedd fawr" cael bod yn rhan o'r digwyddiad.
"Mae 'na gyfle i gyrraedd llawer iawn o bobl - ry'n ni'n elusen fach ond mae gyda ni ddylanwad mawr," meddai.
Ar ol serennu yn Chelsea yr wythnos hon, fe fydd yr ardd yn cael ei symud i erddi botaneg Treborth, Prifysgol Bangor.
Dywedodd y curadur Natalie Chivers y byddai'n gartref parhaol "addas ac arbennig iawn" i ardd sydd wedi creu cryn argraff.