Posibilrwydd o ailgyflwyno eryrod y m么r yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae posibilrwydd y gallai eryrod y m么r gael eu hailgyflwyno yng Nghymru.
Dywedodd yr ysgrifennydd materion gwledig, Huw Irranca-Davies, bod "achos cryf dros atgyfnerthu" eu presenoldeb achlysurol.
Mae undebau amaeth wedi mynegi pryderon difrifol, gan alw am asesiad cynhwysfawr o'u heffaith ar anifeiliaid eraill.
Roedd Mr Irranca-Davies yn ymateb i'r cyn-weinidog amaeth Alun Davies a arweiniodd ddadl yn y Senedd yn galw am eu hailgyflwyno a "sicrhau y bydd yr adar hardd hyn yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi, eu hedmygu a鈥檜 mwynhau gan genedlaethau鈥檙 dyfodol".
Mae'r aderyn yn cael ei adnabod yn Gymraeg hefyd fel eryr cynffonwen ac, yn 么l Geiriadur yr Academi, eryr tinwyn.
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
Eryrod y m么r yw adar ysglyfaethus mwyaf Prydain, gyda lled adenydd hyd at 2.5 metr (8.2 troedfedd).
Yn 2023, yn dilyn prosiect ailgyflwyno a lansiwyd gan Natural England oedd yn dod ag adar ifanc o鈥檙 gwyllt yn Yr Alban draw i Ynys Wyth, ganwyd eryr y m么r yn ne Lloegr am y tro cyntaf ers 240 o flynyddoedd.
Yn 么l Ailgyflwyno鈥檙 Eryr Cymru - prosiect gan Brifysgol Caerdydd sy鈥檔 darparu tystiolaeth i weld a yw amgylchedd Cymru heddiw yn dal yn addas ar gyfer eryrod - mae eryrod y m么r wedi diflannu o Gymru, o ran bridio, ers yr 1830au.
Wrth ganmol y prosiect yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Alun Davies, sy'n cynrychioli Blaenau Gwent: "Rydyn ni'n dysgu ei bod hi'n ddiogel dod ag eryr y m么r yn 么l i Gymru.
"Gan ddefnyddio鈥檙 ymchwil hwn, mae safle rhyddhau addas yn cael ei geisio ar hyn o bryd, yn ne-ddwyrain Cymru fwy na thebyg, yn y gobaith o sefydlu poblogaeth fridio o chwech i 10 p芒r, trwy ryddhau chwech i 12 aderyn ifanc y flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd."
Er i'r Ceidwadwr Peter Fox ddweud "ei bod yn ganmoladwy i... ymdrechu i ailgyflwyno rhywogaeth lle y gallwn", rhybuddiodd y bydd gan ffermwyr bryderon am eu da byw.
Pwysleisiodd Mr Fox bwysigrwydd "strategaeth ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned, i wneud yn si诺r bod pawb yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a allai ddeillio o hyn".
Ymatebodd Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, bod eryrod y m么r "yn dal i gael eu gweld dros Gymru o bryd i鈥檞 gilydd, ond wrth gwrs dydyn nhw ddim yn byw yma bellach".
"O bryd i'w gilydd, gellir gweld eryr y m么r yn hedfan, hela neu'n chwilota yng Nghymru, ac maent yn hanu o boblogaethau yn Ynysoedd Heledd, Iwerddon ac Ynys Wyth.
"Mae'n debygol y gallent aros a bridio pe bai ein cynefinoedd yn fwy croesawgar, ac mae achos cryf dros atgyfnerthu'r presenoldeb blaenorol ac achlysurol hwn gyda gwaith wedi'i dargedu, unwaith y bydd yr amodau'n ddeniadol i eryrod."
Ychwanegodd: "Mae ystyriaethau gofalus i鈥檞 gwneud mewn unrhyw gynnig i ailgyflwyno rhywogaethau yng Nghymru, gan gynnwys eryrod.
"Bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer unrhyw gynnig o鈥檙 fath ar 么l ystyriaeth briodol drwy ymgynghoriad cyhoeddus.
"Byddai addasrwydd cynefinoedd a'r effeithiau ar fywyd gwyllt a defnydd tir presennol yn rhan o'r broses benderfynu.
"Fodd bynnag, bydd cydnabod bod Cymru eisoes o fewn cyrraedd eryrod yn helpu鈥檙 broses honno."
Wrth grynhoi, dywedodd: "Rwy鈥檔 mawr obeithio, un diwrnod, y byddwn yn gallu arsylwi鈥檙 adar eiconig, mawreddog hyn uwchben ein hawyr Gymreig unwaith eto."
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru wrth y 大象传媒: "Yn gyffredinol, mae UAC yn gwrthwynebu ailgyflwyno unrhyw rywogaethau a allai achosi difrod uniongyrchol neu anuniongyrchol i fusnesau ffermio.
"Fodd bynnag, pe bai unrhyw ailgyflwyno鈥檔 digwydd, dylai ffermwyr gael yr awdurdod i gymryd camau ar unwaith i atal niwed sylweddol, a dylai鈥檙 rhai sy鈥檔 gyfrifol am yr ailgyflwyno fod yn gyfreithiol gyfrifol am negyddu unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys colledion ariannol."
Dywedodd cadeirydd bwrdd materion gwledig NFU Cymru, Hedd Pugh: 鈥淢ae yna bryder gwirioneddol y byddai unrhyw ailgyflwyno鈥檙 rhywogaeth hon yn achosi risg i iechyd a lles anifeiliaid ac yn cael effaith ar gynhyrchiant da byw, gydag 诺yn newydd-anedig yn arbennig mewn perygl.
"Mae hefyd yr effaith anhysbys y gallai eryr y m么r ei chael ar adar eraill, bywyd gwyllt a rhywogaethau a warchodir."