Cymru'n colli eu g锚m brawf gyntaf yn erbyn Awstralia

Ffynhonnell y llun, Cameron Spencer/Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ar ddau achlysur roedd Cymru'n meddwl eu bod wedi croesi'r llinell dim ond i'r cais gael ei ddyfarnu'n annilys

Mae Cymru wedi colli g锚m brawf gyntaf eu taith gyntaf yn Awstralia ers 12 mlynedd yn erbyn t卯m cymharol ddibrofiad.

25-16 oedd y sg么r terfynol yn Stadiwm Allianz, Sydney ddydd Sadwrn.

Roedd Cymru'n anelu at drechu'r Wallabies yn Awstralia am y tro cyntaf ers 1969.

Ond yn dilyn wythfed colled o'r bron, mae t卯m Warren Gatland bellach wedi llithro i 11fed safle detholion y byd.

Disgrifiad o'r fideo, 'Ni eisiau ennill fel t卯m,' medd capten Cymru Dewi Lake yn dilyn y golled yn Sydney

Ciciau cosb oedd i gyfri am bwyntiau cyntaf y ddau d卯m.

Ag yntau'n dechrau yn safle'r maswr i Gymru am y tro cyntaf, canolwr Caerdydd, Ben Thomas wnaeth sgorio gyntaf yn dilyn trosedd yn erbyn y capten Dewi Lake.

Ond wedi chwarter awr agoriadol roedd hi'n 6-3 i'r Wallabies - fe fyddai wedi bod yn 9-3 oni bai bai bod un o giciau Noah Lolesio yn aflwyddiannus.

Fe diriodd Taniela Tupou i ymestyn y bwlch, gyda throsiad Lolesio, i 13-3 a bu'n rhaid i Gareth Thomas adael y maes ar 么l derbyn cardyn melyn.

Er i Rio Dyer groesi'r llinell i Gymru, y dyfarniad oedd bod y cais ddim yn sefyll.

Ond roedd y t卯m mewn coch yn 么l yn yr ornest wedi i Awstralia ildio cais cosb.

13-10 oedd y sg么r ar ddiwedd hanner cyntaf eithaf cyffrous.

Ffynhonnell y llun, Cameron Spencer/Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Filipo Daugunu yn sgorio ail gais Awstralia

Cael mwy o'r b锚l yn hanner Awstralia a gwella'u disgyblaeth oedd y nod wedi'r egwyl ac fe gafodd Cymru ddechrau addawol iawn gan greu sawl cyfle.

Ildiodd y t卯m cartref gic gosb ac fe ddaeth Thomas 芒 Chymru'n gyfartal.

Ond fe darodd y Wallabies yn 么l ac fe diriodd Filipo Daugunu yn y gornel dde.

Yn ffodus i Gymru, roedd y trosiad yn aflwyddiannus ond roedd angen ymateb cadarnhaol nawr eu bod 18-13 ar ei h么l hi.

Daeth James Botham i'r cae ac o fewn eiliadau roedd yn meddwl ei fod wedi sgorio ail gais i Gymru yn dilyn sgarmes symudol effeithiol o'r lein - ond unwaith yn rhagor gafodd y cais mo'i ganiat谩u.

Gydag ychwanegu pwyntiau bellach yn flaenoriaeth, ymateb Dewi Lake i drosedd nesaf y Wallabies oedd i fynd am gic gosb ac fe gaeodd Thomas y bwlch i 18-16.

Ond fe sgoriodd Tom Wright gais unigol gwych o ganol y cae, gan adael Nick Tomkins ar y llawr, ac wedi trosiad Tom Lynagh roedd Awstralia naw pwynt ar y blaen.

Ac roedd y fuddugoliaeth - o 25 i 16 - yn un haeddiannol i'r Wallabies, er roedd yn g锚m y gallai Cymru fod wedi ei hennill gyda mwy o ddisgyblaeth a llai o gamgymeriadau.

Bydd y ddau d卯m yn wynebu ei gilydd eto yn ail g锚m y daith ddydd Sadwrn nesaf ym Mharc AAMI, Melbourne.