大象传媒

Eluned Morgan yn 'ystyried o ddifri' sefyll i fod yn arweinydd Llafur

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Ms Morgan fod ganddi "gefnogaeth sylweddol"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn "ystyried o ddifri" ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Dywed Ms Morgan ei bod hi'n ystyried sefyll ar y cyd gyda'r aelod cabinet Huw Irranca-Davies - gan ei ddisgrifio fel cynnig byddai'n "uno'r" blaid.

Fe wnaeth cyn-weinidog yr economi Jeremy Miles, oedd wedi'i ddisgwyl i ymuno 芒'r ras, ddatgan ei gefnogaeth i Ms Morgan yn dilyn y sylwadau.

Mae Llafur Cymru ar fin ethol arweinydd newydd yn dilyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog Vaughan Gething yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd y blaid ddydd Sadwrn y byddai olynydd Vaughan Gething yn cael ei ethol ym mis Medi.

Fe ddywedodd Ms Morgan wrth raglen Politics Wales fod ganddi "gefnogaeth sylweddol" yn y blaid.

Ond ni wnaeth hi gadarnhau a oedd ganddi'r chwe enwebiad sydd eu hangen er mwyn cael ymuno 芒'r ras.

Rhaid i aelodau'r blaid yn Senedd Cymru benderfynu erbyn 12:00 ddydd Mercher pwy maen nhw'n eu cefnogi.

Wrth gyhoeddi ei fod yn enwebu Ms Morgan, dywedodd Mr Miles ei fod yn "gwbl hyderus" mai hi oedd y person gorau i "symud y blaid a Chymru ymlaen".

Mr Miles oedd un o'r gweinidogion a ymddiswyddodd o gabinet Vaughan Gething ddydd Mawrth, ac fe gafodd ei guro o drwch blewyn gan Mr Gething yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf.

Roedd cefnogwyr Mr Gething o'r farn na fyddai Mr Miles yn gallu uno'r gr诺p Llafur yn y Senedd.

Mewn datganiad fore Sul, dywedodd Mr Miles ei fod yn "gobeithio mai Eluned fydd ein harweinydd newydd".

Ychwanegodd ei fod yn gwerthfawrogi'r "holl bobl wnaeth fy annog i ymgeisio," ond ei fod "bob tro wedi rhoi diddordebau'r wlad a'r blaid yn gyntaf".

'Profiad sylweddol'

Dywedodd Eluned Morgan ei bod hi'n gobeithio cadarnhau ei bod hi am sefyll "yn yr oriau neu'r dyddiau nesaf".

"Mae cefnogaeth sylweddol... o wahanol rannau o'r blaid Lafur," meddai, gan ychwanegu nad oedd "rhaid perthyn i unrhyw garfan benodol" o'r blaid i'w chefnogi.

Dywedodd Ms Morgan y byddai Huw Irranca-Davies yn rhedeg gyda hi fel dirprwy prif weinidog.

Nid dyma fyddai'r tro cyntaf i Gymru gael dirprwy prif weinidog, a dywed Ms Morgan fod angen am y swydd ar hyn o bryd:

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Huw Irranca-Davies yw Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru

"Os edrychwch chi ar y sefyllfa ry'n ni ynddi heddiw, mae 'na alwadau wedi bod i rywun gymryd yr awenau dros dro yn sgil sefyllfa Vaughan Gething.

"Petai dirprwy prif weinidog gennym ni, ni fuasem ni yn y sefyllfa ry'n ni ynddi'r haf hwn."

Mae rhai, gan gynnwys y cyn-brif weinidog Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn bwysig fod menyw'n rhan o'r ras - does yr un fenyw erioed wedi arwain Llafur Cymru.

Dywedodd Ms Morgan fod hynny'n "rhywbeth i bobl ei ystyried, ond hoffwn i feddwl bod mwy i'r peth 'na hynny".

"Mae e' hefyd am y profiad sylweddol y galla' i ei gynnig."

Mewn cyfweliad yn y Sioe Fawr brynhawn Sul, dywedodd Huw Irranca-Davies ei fod yn canolbwyntio ar ei swydd bresennol - r么l y mae yn ei "fwynhau yn arw".

"(Eluned Morgan) fyddai'r arweinydd benywaidd cyntaf ar Lywodraeth Cymru a Llafur Cymru, ac mae hi'n rhywun sydd 芒 hanes o gyflawni ei hamcanion ac yn wleidydd sydd 芒 phrofiad anhygoel.

"Ond dyw hyn ddim drosodd tan fore Mercher ac mae hi dal yn bosib y bydda 'na ras.

"Os yw Eluned yn cael ei henwebu fel rhan o bartneriaeth fyddai o fudd i Gymru ac i bobl Cymru, yna dwi'n credu y byddai hwnnw yn gynnig cryf."

'Angen uno'r Senedd gyfan'

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd James Evans bod y cynnig o ddau ymgeisydd i "uno'r blaid" yn un diddorol.

Fodd bynnag, fe rybuddiodd y byddai record y GIG yng Nghymru - gyda rhai "ystadegau iechyd nawr ar eu gwaethaf erioed" - yn "mynd yn erbyn Eluned Morgan fel prif weinidog".

Ond galw am etholiad Senedd Cymru y gwnaeth Plaid Cymru, gyda'r arweinydd Rhun ap Iorwerth yn dweud fod angen i Gymru "dorri'r cylch parhaus o brif weinidogion Llafur heb fandad uniongyrchol gan bleidleiswyr".

"Roedd arweinydd nesaf y blaid Lafur yng Nghymru yn debygol o fod yn weinidog sydd wedi goruchwylio'r dirywiad mewn canlyniadau iechyd neu safonau addysg."

"Ni all llwyddiant Cymru yn y dyfodol fod yn gyfrifoldeb i'r rhai sy'n rhy gaeth i hen feddwl ac i syniadau sydd wedi methu."

Fe ddywedodd Eluned Morgan nad oedd angen etholiad ar raglen Politics Wales, gan ychwanegu na fyddai'r cyhoedd yn hoff o'r syniad.

Croesawu unrhyw ymgeisydd fyddai'n uno'r blaid y gwnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

"Pwy bynnag fydd y prif weinidog newydd, eu gwaith fydd uno nid yn unig y llywodraeth Lafur ond y Senedd gyfan," medd Jane Dodds.

"Achos dyw'r awyrgylch dros yr wythnosau diwethaf heb fod yn neis iawn, felly dyna fy ngobaith i."