Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cheryl Foster i ddyfarnu ffeinal Cynghrair y Pencampwyr
Cheryl Foster o Landudno sydd wedi'i dewis i ddyfarnu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Barcelona a Wolfsburg fis nesaf.
Hi fydd y person cyntaf o Gymru i ddyfarnu ffeinal cystadleuaeth y merched, fydd yn cael ei chwarae yn Eindhoven yn Yr Iseldiroedd ar 3 Mehefin.
Mae cyn-ymosodwr Lerpwl, a enillodd 63 o gapiau dros Gymru rhwng 1997 a 2011, wedi bod yn dyfarnu ers 2013 ac wedi bod ar restr el卯t UEFA ers 2020.
Mae Foster fel arfer yn dyfarnu yng nghynghreiriau merched Cymru a Lloegr, a hi oedd y fenyw gyntaf i ddyfarnu g锚m yn y Cymru Premier - lefel uchaf g锚m y dynion yng Nghymru - 'n么l yn 2018.
Y llynedd, Foster oedd y dyfarnwr cyntaf o Gymru ers 1978 i ddyfarnu yn un o'r prif bencampwriaethau rhyngwladol, a hynny yn Euro 2022 y merched.
Hi oedd yn y canol ar gyfer rownd gynderfynol y gystadleuaeth honno rhwng Ffrainc a'r Almaen, ac yn ddiweddarach eleni bydd yn teithio i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd y merched yn Awstralia a Seland Newydd.