Holl brifathrawon sir yn beirniadu toriadau hyd at 10%

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r penaethiaid wedi rhybuddio mai'r plant mwyaf bregus sydd angen cymorth ychwanegol fydd yn dioddef fwyaf.

Mae holl brifathrawon Sir Conwy wedi arwyddo llythyr yn beirniadu'r cyngor am gynlluniau i dorri cyllid ysgolion o rhwng 6% i 10%.

Mae'r llythyr yn cael ei ddanfon at rieni plant sy'n mynychu ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion anghenion arbennig Conwy.

Mae鈥檙 awdurdod lleol eisoes wedi torri cyllidebau addysg 5% y llynedd - gyda hyd yn oed mwy o doriadau yn cael eu cynnig eleni.

Er bod union lefel y toriadau i'w bennu mewn cyfarfod ddiwedd Chwefror, mae rhai cynghorwyr eisoes wedi dweud y byddan nhw'n gwneud toriadau o 6% o leiaf - gyda 10% hefyd yn cael ei awgrymu.

Dywedodd Cyngor Conwy bod rhaid gwneud "penderfyniadau anodd", tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod "yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr".

'Twll du ariannol' o 拢25m

Mae'r penaethiaid wedi rhybuddio mai'r plant mwyaf bregus sydd angen cymorth ychwanegol fydd yn dioddef fwyaf.

"Rydym ni fel penaethiaid Conwy a chyrff llywodraethol yn poeni'n arbennig eleni gan fod gofyn i ni dderbyn arbedion o rhwng 6% a 10% gan awdurdod lleol Conwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf," meddai'r llythyr.

鈥淢ae'n deg dweud bod unrhyw doriad i gyllid ysgolion yn mynd i wneud gosod cyllideb gytbwys yn hynod o heriol i benaethiaid a chyrff llywodraethol.

鈥淩ydym am i rieni a gofalwyr ddeall yn llawn yr heriau difrifol yr ydym yn parhau i'w hwynebu.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Cyngor Conwy yn wynebu twll du ariannol o 拢25m

Mae'r llythyr yn ychwanegu bod y "sefyllfa ariannol mewn ysgolion bellach yn argyfyngus鈥 a bydd 鈥渢oriadau pellach i gyllidebau ysgolion yn cael effaith sylweddol ar yr hyn y gallwn ei ddarparu i'n disgyblion".

Mae'r llythyr wedyn yn esbonio bod penaethiaid eisoes wedi ysgrifennu at weinidog addysg Llywodraeth Cymru i fynegi eu pryderon.

Mae鈥檙 penaethiaid hefyd yn rhybuddio am golli swyddi, gan ddod i ben drwy ddweud: 鈥淵n y diwedd, y plant o fewn ein cymunedau fydd yn dioddef - maen nhw'n haeddu gwell."

Disgrifiad o'r fideo, "Sut mae ysgolion i fod i barhau?" yw cwestiwn Sioned Sajko, dirprwy bennaeth Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst

Yn 么l dirprwy bennaeth un o ysgolion cynradd y sir, mae yna drafod a chynllunio ar gyfer toriadau posib "ers amser hir".

Byddai toriad o 5% neu 6% "yn ei hun yn ergyd eithafol," medd Sioned Sajko o Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst, ond fe fyddai toriad o 10% yn cael effaith "ofnadwy" ar ysgolion.

Fel ysgol gymharol fawr, gyda thua 340 o ddisgyblion, dywedodd eu bod "yn gweld ein hunan fel ysgol reit iach o ran cyllid".

Eto i gyd, mae'r ysgol "yn brin o staff fel mae" ac mae "cyllid yn brin" eisoes, sy'n golygu efallai y bydd yn rhaid colli staff o ganlyniad derbyn llai o arian.

'Penderfyniadau anodd iawn'

Mae Cyngor Conwy'n dweud eu bod yn wynebu diffyg ariannol o 拢25m, ac mae'n debygol y bydd yn torri ar bob math o wasanaethau ac yn codi鈥檙 dreth gyngor hyd at 11% eleni.

Mae鈥檙 cyngor wedi rhoi'r bai yn rhannol ar dderbyn y cynnydd isaf yng Nghymru i'w chyllideb 鈥 2%.

Dywedodd arweinydd Cyngor Conwy, Charlie McCoubrey: 鈥淢ae holl gynghorwyr y sir yn ymwybodol o'r prinder arian y mae'r cyngor yn ei wynebu o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog cenedlaethol, chwyddiant, prisiau ynni a thanwydd, a'r galw cynyddol am wasanaethau.

鈥淵n union fel awdurdodau eraill ledled y DU, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cyngor leihau gwariant mewn nifer o feysydd a chodi incwm ychwanegol, sy鈥檔 debygol o gael effaith ar lefel y gwasanaethau rydym yn ei ddarparu.

鈥淢ae鈥檔 anochel pan fydd cynghorwyr yn cyfarfod i benderfynu鈥檙 gyllideb ar 29 Chwefror, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ail-flaenoriaethu cyllid i gynyddu grantiau Llywodraeth Cymru sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion".

"Mae agenda o gyni cyllidol Llywodraeth y DU yn golygu bod pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol," meddai.

"Dyna pam y gwnaethom ddarparu cynnydd sylweddol o 7.9% i gyllidebau awdurdodau lleol yn 2023-24, ac rydym wedi diogelu'r cynnydd dangosol o 3.1% yng nghyllideb ddrafft 2024-25.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr."