Ofnau y bydd siop Penrhiw-llan yn cau yn sgil datblygiad

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth 50 o bobl brotestio yn erbyn ehangu palmant ym Mhenrhiw-llan, Ceredigion fore Mawrth
  • Awdur, Dafydd Morgan
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae 'na bryder yng Ngheredigion y gallai siop leol gau oherwydd datblygiad ffordd.

Yn 么l perchnogion Siop Popeth ym Mhenrhiw-llan mae codi palmant newydd ger datblygiad tai yn golygu na fydd cwsmeriaid yn gallu parcio ac fe fydd hynny鈥檔 arwain at ostyngiad sylweddol mewn incwm.

Roedd dros 50 o bobl o鈥檙 pentref a鈥檙 ardal gyfagos yn protestio yn erbyn y datblygiad fore Mawrth.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion y "bydd y gwelliannau arfaethedig i'r ffyrdd a'r llwybrau troed yn y lleoliad hwn yn sicrhau buddion diogelwch ar y ffyrdd, nid yn unig i ymwelwyr 芒'r siop, ond hefyd i'r gymuned ehangach a defnyddwyr eraill y ffordd".

'Fe fydd y siop yn gorfod cau'

Disgrifiad o'r llun, Mae Julie a Dara Miller yn pryderu am ddyfodol eu busnes oherwydd y datblygiad

Mae dros 300 o bobl wedi arwyddo deiseb yn Siop Popeth yn gwrthwynebu ehangu鈥檙 palmant.

Mae鈥檙 perchnogion Julie a Dara Miller yn poeni am effaith y datblygiad ar eu busnes.

鈥淢a gyda ni lor茂au yn ceisio dod 芒 nwyddau i ni a ma' nhw鈥檔 gyrru am n么l lan y l么n fach ar ochr y siop, neu yn parcio tu fas. Ond fe fydd y pafin newydd yn achosi trafferthion.

"Problem arall fydd parcio i鈥檔 cwsmeriaid sydd yn parcio ar ochr y ffordd.

"Os nad y鈥檔 nhw鈥檔 gallu parcio, bydd gyda ni ddim cwsmeriaid.

"Os nad yw鈥檙 lor茂au鈥檔 gallu dod 芒 nwyddau, wedyn bydd gyda ni dim byd i werthu i bobol.

"Os yw hynny鈥檔 digwydd fe fydd y siop yn gorfod cau.鈥

Pryder am ddamweiniau

Disgrifiad o'r llun, Roedd Enfys Davies yn un o'r rhai fu'n protestio

Roedd nifer o'r bobl oedd allan yn protestio fore Mawrth yn dweud bod nifer yn y gymuned yn poeni am ehangu'r palmant. Yn eu plith roedd Enfys Davies.

鈥淕yda鈥檙 palmant yn dod mas cymaint i鈥檙 ffordd ma' ofn arnai bydd e鈥檔 achosi damweiniau," meddai.

"Does dim damweiniau yma ar hyn o bryd, ond gall hyn i gyd arwain ymlaen at ddamweiniau.

鈥淧eth arall yw bod y pafin yn dod mas i drio arafu鈥檙 traffig. Ond ma' gyda ni yn y pentre鈥 nawr y cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr felly dyw hwnna ddim yn berthnasol erbyn hyn.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Ffred Jones yn credu y bydd y palmant newydd yn achosi trafferthion i draffig lleol

Fe dyfodd Ffred Jones lan ym Mhenrhiw-llan, ond mae e bellach yn byw ryw bum milltir bant yng Nghastellnewydd Emlyn.

Mae e hefyd yn poeni am y datblygiad.

鈥淪gw芒r bach yn ddansierus yw e, ond fe fydd hi lawer gwaeth nawr. Pan fydd y traffig yn dod o鈥檙 ochr draw i fynd am Croes-lan fyddan nhw ddim yn gweld [y palmant newydd] tan bod hi last minute a wedyn fydd hi too late.

鈥淢a nhw鈥檔 mynd i fwrw fe a dyna gyd fyddwn ni鈥檔 clywed yw bod rhywun wedi mynd dros ei ben e.鈥