大象传媒

Dysgu Cymraeg yn Ohio er mwyn 'nabod Mam-gu yn well'

Disgrifiad,

Dywedodd Rhys ei fod wedi dysgu Cymraeg yn Ohio er mwyn dod i adnabod ei fam-gu yn well

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Ohio wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dros flwyddyn er mwyn dod i "'nabod Mam-gu yn well".

Fe wnaeth Rhys Davis, 19, o Oak Hill - ardal sydd 芒 chysylltiadau hanesyddol gyda Chymru - ddechrau dysgu鈥檙 iaith gan ddefnyddio ap Say Something in Welsh (SSiW).

Bwriad Rhys, sydd bellach wedi cwblhau cwrs iaith SSiW, oedd dod yn agosach at Elizabeth Davis, ei fam-gu, a "deall mwy" am ei hanes "a'i stori hi".

Symudodd Elizabeth, 74, o Aberaeron i鈥檙 Unol Daleithiau yn 24 oed yn 1974, cyn cyfarfod 芒鈥檌 g诺r a phenderfynu ymgartrefu yno.

Aeth y p芒r ymlaen i sefydlu Canolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig o fewn Prifysgol Rio Grande yn 1996 - yr unig ganolfan o鈥檌 fath yng Ngogledd America.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhys gyda'i fam-gu, Elizabeth

Ers iddo gychwyn dysgu Cymraeg, mae wedi manteisio ar sawl cyfle i ymarfer.

Bellach, dim ond Cymraeg mae'n siarad gyda'i fam-gu, ac mae ei dad, Evan, hefyd yn siarad rhywfaint.

Mae Rhys hefyd wedi bod yn dibynnu ar ei deulu yng Nghymru i gael defnyddio mwy o鈥檌 Gymraeg, gan gynnwys ei hen ewythr Alun, sy'n dal i fyw yn Aberaeron.

鈥淩o鈥檔 i bob amser yn clywed pethau fel 鈥榥os da鈥, 鈥榖ore da鈥, 鈥榙iolch yn fawr鈥, 鈥榗roeso鈥 a 鈥榗aru ti鈥 trwy鈥檙 blynyddoedd," meddai Rhys.

Ychwanegodd nad yw'n rhugl eto, ond ei fod yn 鈥渉apus i ddysgu鈥, a bod yr iaith "wir yn rhan" o鈥檌 fywyd nawr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Elizabeth Davis symud i Ohio yn 24 oed

Er mwyn cryfhau ei gysylltiad 芒 Chymru, mae Rhys yn awyddus i ailymweld 芒'i deulu sy'n byw yng Ngheredigion a Sir Benfro, ac ymweld 芒'r Eisteddfod Genedlaethol yn y dyfodol.

Dim ond dwywaith mae wedi ymweld 芒 Chymru yn y gorffennol - unwaith pan oedd yn ifanc iawn, ac unwaith yn ystod yr haf eleni.

Wrth s么n am ei ymweliad diweddaraf 芒 Chymru, dywedodd ei fod wedi cael tipyn o gyfle i ymarfer ei Gymraeg tra yng Ngheredigion.

"'Se ni鈥檔 stopio mewn i brynu bara brith neu rywbeth... 'se ni鈥檔 archebu yn Gymraeg,鈥 meddai.

Ychwanegodd na fyddai wedi cael yr un cyfle be na bai wedi dysgu'r iaith.

"Fyswn i wedi colli allan ar gymaint," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Rhys (dde) a'i deulu ymweld 芒 Chymru dros yr haf

鈥淵n yr Unol Daleithiau, mae Sbaeneg yn gyffredin iawn, felly pan dwi鈥檔 s么n bod fi鈥檔 siarad Cymraeg, does dim lot o bobl yn deall," meddai.

Mae gan nifer o bobl o ardal Oak Hill, yn ogystal 芒 sawl man arall yn Ohio, gysylltiadau Cymreig.

Dyw hi ddim yn anghyffredin i ddod ar draws pobl 芒 chyfenwau Cymraeg fel Williams neu Davies yn yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Rhys (chwith) yng Nghymru unwaith fel plentyn

Yn 么l Rhys: "Mae pawb yn gwybod amser maith yn 么l, daeth eu teuluoedd o Gymru.

"Maen nhw鈥檔 cofio hynny hyd yn oed os nad ydyn nhw鈥檔 cofio鈥檙 iaith.鈥

Ond nid pawb sy鈥檔 rhannu brwdfrydedd Rhys dros ddysgu Cymraeg.

Pan oedd yn cychwyn dysgu Cymraeg tra yn yr ysgol, doedd nifer o鈥檌 ffrindiau ddim yn gallu deall pam fyddai Rhys yn dysgu iaith gyda chyn lleied o siaradwyr lleol.

Mae angen esbonio arwyddoc芒d yr iaith, yn 么l Rhys.

鈥淒wi鈥檔 esbonio bob tro 鈥 mae fy mam-gu wedi hala cymaint o鈥檌 bywyd i gadw鈥檙 iaith yn fyw yma, ac mae gyda fi鈥檙 adnoddau sydd angen arna i i ddysgu鈥檙 iaith, fel fy nhad, fy mam-gu - pobl sy鈥檔 gallu ymarfer gyda fi.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dathlu eu cysylltiadau 芒 Chymru wastad wedi bod yn bwysig i Rhys a'i deulu

Mae Rhys yn credu'n gryf fod ei fam-gu a鈥檌 dad-cu wedi 鈥渃adw鈥檙 iaith yn fyw yn ne Ohio鈥 wrth sefydlu Canolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig.

Mae gwaith y ganolfan yn cynnwys sefydlu cymanfaoedd canu ac amgueddfa am hanes a diwylliant Cymru, a hyd yn oed chefnogi ysgol leol yn Jackson County sy鈥檔 cynnal eisteddfod ei hun.

Yn 么l Rhys, mae鈥檙 ganolfan yn rhoi cyfle pwysig i aelodau鈥檙 gymuned ddod at ei gilydd, a dywedodd ei bod yn lle 鈥渁tyniadol鈥 i wrando ar gyngherddau a chofio am eu hanes Cymreig.

Mae鈥檙 ganolfan hefyd yn fan ble mae cysylltiadau annisgwyl wedi cael eu ffurfio.

鈥淢ae yna ddyn yn ein tref sy鈥檔 dod o Aberystwyth, [ac] mae鈥檙 cyfarwyddwr yn dod o Langeitho - do'n nhw ddim yn 'nabod ei gilydd o鈥檙 blaen ond nawr maen nhw鈥檔 ffrindiau.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sefydlodd Elizabeth a'i diweddar 诺r, Evan, Ganolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig yn 1996

Wrth edrych tua'r dyfodol, gobaith Rhys yw parhau i ddysgu a gwella ei ddealltwriaeth o'r Gymraeg.

鈥淒wi鈥檔 gobeithio cael digon o amser tra 'mod i yn y coleg i astudio ar fy mhen fy hunan,鈥 meddai.

Mae'n gobeithio gallu parhau i ddibynnu ar ei deulu a'r gymuned sy'n rhan o'r ganolfan er mwyn ymarfer ei Gymraeg.

"Haf nesaf dwi鈥檔 mynd i weithio gyda chyfarwyddwr yr amgueddfa, felly dwi鈥檔 mynd i gael un o鈥檙 unig swyddi yn yr UDA lle ni鈥檔 siarad Cymraeg as the default language!鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwaith y ganolfan wedi cynnwys sefydlu amgueddfa am hanes a diwylliant Cymru

Mae Rhys o'r farn fod ei frwdfrydedd a'i ysfa i ddysgu'r iaith yn deillio o'i fam-gu, Elizabeth.

鈥淗eblaw am fy mam-gu bydden i ddim wedi dechrau dysgu Cymraeg o gwbl.

"I fi, mae鈥檙 cysylltiad yn bwysig i gofio ein hanes, ond mae鈥檔 bwysicach er mwyn dod i 'nabod fy Mam-gu yn well."

Pynciau cysylltiedig