´óÏó´«Ã½

AS Ceidwadol yn ymddiheuro am ddefnyddio term hiliol

Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Anne Jones wedi ymddiheuro am ddefnyddio term sarhaus hiliol mewn neges WhatsApp

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r stori yma'n cynnwys iaith sarhaus hiliol.

Mae Aelod Ceidwadol o'r Senedd wedi ymddiheuro am ddefnyddio term sarhaus hiliol mewn neges ar WhatsApp.

Fe ddefnyddiodd AS Dwyrain De Cymru Laura Anne Jones derm sy'n sarhau pobl Chineaidd mewn sgwrs WhatsApp ynghylch yr ap TikTok, sy'n eiddo i gwmni technoleg o China.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Jones bod y gair yn "annerbyniol ac rwy'n difaru'n fawr ei ddefnyddio".

Ychwanegodd: "Rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant dros unrhyw dramgwydd y mae hyn wedi ei achosi."

Yn y sgwrs WhatsApp ynghylch TikTok, ysgrifennodd Ms Jones: "Dim ysbiwyr chinky i mi!"

Dyw hi ddim yn glir pryd yrrwyd y neges.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cais am ymateb.

Daw ymddiheuriad Ms Jones wedi i arweinydd y blaid yn y Senedd gael ei gyhuddo o ddefnyddio iaith "bryfoclyd" ac "Islamoffobaidd" gan grŵp Mwslemaidd.

Mae Cyngor Mwslemaidd Cymru wedi beirniadu Andrew RT Davies dros erthygl ganddo ar gyfer gwefan GB News ynghylch darparu cig halal mewn ysgolion.

Mae Mr Davies wedi gwrthod y feirniadaeth "yn llwyr".

Disgrifiad o’r llun,

Mae llun o'r neges dan sylw mewn sgwrs WhatsApp wedi cael ei rannu gyda ´óÏó´«Ã½ Cymru

Ym mis Mehefin bu'n rhaid i Ms Jones gamu'n ôl o'i rôl fel llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr yn y Senedd yn sgil negeseuon o'i ffôn oedd yn ymddangos yn gofyn i weithiwr wneud y mwyaf o hawliadau treuliau'r gwleidydd.

Mae'r honiadau o chwyddo swm treuliau yn destun ymchwiliad heddlu.

Gofynnodd un neges i'r uwch aelod o staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok".

Doedd cyd-destun y negeseuon WhatsApp rhyngddynt ddim yn amlwg.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran Ms Jones bod y gwleidydd "yn sicr bod unrhyw honiadau mewn cysylltiad ag anghywirdeb treuliai yn gamdybiad llwyr".

Mae hi'n dal yn aelod o'r grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd.

AS Ceidwadol arall yn 'gandryll'

Dywedodd yr aelod Ceidwadol o'r Senedd, Natasha Asghar ei bod hi'n "gandryll" ac yn "teimlo embaras" wedi i'r sylw ddod i'r amlwg.

"Mae iaith fel hyn yn annerbyniol ar bob lefel," meddai.

Yn y cyfamser, mae dau AS Ceidwadol wedi dweud ar ´óÏó´«Ã½ Cymru y dylai'r Ceidwadwyr dynnu'r chwip oddi ar Ms Jones.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae’r math yma o iaith ofnadwy yn gwbl annerbyniol ac ymfflamychol a dylai neb fyth ei ddefnyddio – heb sôn am gynrychiolydd etholedig.

"Mae gan Aelodau’r Senedd ddyletswydd i gynrychioli eu hetholwyr i gyd.

"Mae’n annerbyniol ac nid oes iddo le yn ein cymdeithas."