Dyn yn euog o lofruddio dyn arall gydag un ergyd

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Kelvin Evans, 64, ar 么l cael ei gludo i'r ysbyty wedi ymosodiad mewn gwesty

Mae dyn o Abertawe wedi ei gael yn euog o lofruddio dyn 64 oed gydag un dwrn i'w ben yng Ngorseinon.

Fe wnaeth Christopher Cooper, 39, ddyrnu Kelvin Evans y tu allan i Westy'r Orsaf ar Stryd Fawr Gorseinon ar 26 Mai eleni.

Cafodd Mr Evans, o Orseinon, ei gludo i鈥檙 ysbyty ar 么l yr ymosodiad, ble bu farw'n ddiweddarach.

Plediodd Cooper yn euog i ddynladdiad ond roedd yn gwadu llofruddiaeth.

Ond penderfynodd rheithgor ddydd Gwener ei fod yn euog o lofruddio Mr Evans.

Mae partner Cooper, Catherine Francis, 54 o Lanelli, hefyd wedi'i chael yn euog o gynorthwyo troseddwr mewn ymgais i atal ei erlyniad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt: "Rydym yn falch o weld bod cyfiawnder wedi'i wneud yn y llys.

"Mae trais Christopher Cooper wedi costio bywyd dyn arall, ac ni fydd teulu'r dioddefwr byth yn anghofio eu profiad trawmatig."

Mae disgwyl i Cooper a Francis gael eu dedfrydu ar 3 Ionawr.