Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Academi ffilm o Gymru'n anelu am wobr mewn g诺yl ryngwladol
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 大象传媒 Radio Cymru
"Ry'n ni gyd yn frwdfrydig tu hwnt wrth fynd ati i baratoi a chreu ffilmiau," meddai Kevin Phillips, cyfarwyddwr Academi Ffilm Blaenau Gwent.
"Prin iawn yw y cyfleon yn y cymoedd fan hyn i roi addysg i bobl ifanc mewn ffilm."
Elusen yw'r academi sy'n hyfforddi pobl ifanc rhwng saith a 18 oed mewn sgiliau ffilm a'u helpu i gynhyrchu ffilmiau eu hunain.
Pan fues i yn siarad 芒 Kevin ym mhencadlys yr academi mewn hen theatr fach ger canol Tredegar roedd e'n brysur yn paratoi i hedfan i Moroco ar gyfer g诺yl ffilm fawr International Arabo Aficain du Film Documentaire de Zagora.
Yr academi o Dredegar yw'r unig fudiad o Brydain sydd wedi cael gwahoddiad i ddangos un o'i ffilmiau.
Mae'r academi yn gynllun unigryw. Dyma'r ysgol ffilm gyntaf o'i math yng Nghymru, lle does yna ddim ffioedd i blant a'u teuluoedd.
Fe gafodd ei sefydlu tua wyth mlynedd yn 么l, ac mae'n cael ei noddi gan elusennau gan gynnwys Plant mewn Angen, ac mae croeso i ieuenctid o bob cwr o Flaenau Gwent a thu hwnt.
Mae tua 110 o bobl ifanc yn aelodau o'r academi, sy'n cwrdd tair gwaith yr wythnos ac yn cynnal dosbarthiadau yn cynnwys actio, sgriptio, gwaith camera, colur a chynhyrchu ffilm.
Yn 么l Kevin Phillips mae'r academi yn gwneud mwy na dysgu sgiliau technegol yn unig.
"Mae gwaith t卯m yn bwysig i ni fan hyn, ac mae gwaith t卯m gwych yn helpu i gynhyrchu ffilmiau gwych!"
Wrth i mi gyrraedd yr academi roedd tua 30 o bobl ifanc o bob oed wrthi yn ymarfer ar gyfer cynhyrchiad mawr sydd ar waith gan y myfyrwyr ar hyn o bryd.
Maen nhw wrthi yn brysur yn paratoi ar gyfer eu prosiect mwyaf eto.
Mae pob aelod o'r academi yn rhan o gynhyrchiad a gychwynnodd dair blynedd yn 么l, sef ffilm o'r enw Perfect World.
Mae'n cael ei disgrifio fel cynhyrchiad "么l-apocolyptaidd" ac yn cael ei ffilmio yng Nghymru, yn ogystal 芒 California, Moroco, Ffrainc a Gwlad Pwyl.
Mae Rhiannon yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Tredegar ac yn actio yn y ffilm newydd.
"Rwy'n cael lot o hwyl yma ac mae yn bwysig i ni fel pobl ifanc yr ardal i gael cyfle yn y busnes ffilm. Rwy'n dysgu sgriptio ac actio," meddai.
Mae Holly Evans o Ferthyr Tudful hefyd yn rhan o'r ffilm.
Mae hi'n awyddus i fod yn animeiddiwr yn y dyfodol, ac roedd dod i'r academi yn rhan o'r broses iddi allu gwireddu ei breuddwyd.
"Rwy' wedi bod yn dod yma nawr ers saith mlynedd. Rwy'n 'nabod pawb a dwi wrth fy modd yn dod yma a bod yn rhan o hyn i gyd.
"Mae mynd i mewn i'r diwydiant animeiddio yn anodd rwy'n gwybod, ond gyda help yr academi, rwy'n hyderus."
Cyfleu neges yn bwysig
Mae nifer o'r ffilmiau sy'n cael eu cynhyrchu gan aelodau'r academi yn cyfleu neges sy'n bwysig ac yn berthnasol i'r genhedlaeth ifanc, yn 么l y prif diwtor Kevin Phillips.
"Gall y neges fod yn ymwneud 芒'r amgylchedd, sut y'n ni'n ymddwyn tuag at ein gilydd neu bwysigrwydd hanes lleol."
Fe gafodd yr academi sylw byd eang yn 2018 ar 么l iddyn nhw gysylltu 芒'r awdur nofelau adnabyddus Stephen King.
Fe wnaeth e gytuno i werthu hawliau ffilm un o'i stor茂au i'r academi am flwyddyn am ddoler yn unig.
Cafodd y ffilm Stationary Bike gan y criw o Dredegar ei henwebu am nifer o wobrau yn nwyrain Ewrop a Hollywood.
Mae Dafydd Pugh yn byw yn Nhredegar ac yn un o gefnogwyr y prosiect.
"Mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad uniongyrchol o'r diwydiant creadigol a chyfryngau," meddai.
"Mae'n help mawr fod y cyrsiau am ddim oherwydd mae nifer o deuluoedd difreintiedig yn yr ardal a bydde dim cyfle iddyn nhw i gael profiadau yma a chael hyfforddant yn y diwydiant yma heblaw am yr academi."
Wrth i fi baratoi i adael y Theatr Fach yn Nhredegar mae'r ymarfer yn parhau a'r 'stafell yn llawn pobl ifanc yn cario camer芒u, yn darllen sgriptiau neu yn ddyfal yn cynllunio props.
Cydweithio 芒 haneswyr o America
Maen nhw wedi bod yn s么n wrtha i am eu ffilm newydd, ond, cyn i fi fynd maen nhw hefyd yn awyddus i ddweud wrtha i am gofio nodi bod mwy nag un prosiect ar waith ar hyn o bryd yn yr academi brysur yma.
"Ry'n ni wrthi'n cydweithio 芒 haneswyr yn America," meddai Kevin Phillips wrtha i.
"Ry'n ni'n cynhyrchu ffilm am sut y gwnaeth Cymru helpu i ddatblygu y diwydiant haearn yn yr Unol Daleithiau."
Cyn hir felly fe fydd y llen codi ar stori fawr a phwysig arall gan bobl ifanc Tredegar a'r cylch ac Academi Ffilm Blaenau Gwent.