大象传媒

'Angen i'r gyllideb helpu teuluoedd 芒 phlant'

 Charlotte Page-Scoot
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Charlotte Page-Scoot yn fam i dri

  • Cyhoeddwyd

Parhau mae'r pwysau ar deuluoedd i gael dau ben llinyn ynghyd yn 么l rhai rhieni ym Merthyr Tudful.

Mae gan y mamau a鈥檙 tadau yma bob math o syniadau ar sut y gallai鈥檙 Canghellor eu helpu, wrth i fanylion y gyllideb gael eu datgelu'r wythnos hon.

Dywed mam i dri, Charlotte Page-Scoot: 鈥淢ae gofal plant mor ddrud i ni, mae鈥檙 ddau ohonom yn gweithio, mae pob un o鈥檔 teuluoedd yn gweithio鈥檔 llawn amser.

"Felly rwy鈥檔 meddwl bod angen mwy o bwyslais ar helpu teuluoedd sy鈥檔 gweithio gyda phlant, oherwydd does 'na ddim cymhelliant i weithio ar hyn o bryd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Lowri Williams un plentyn

Bydd y Gyllideb yn gosod y trywydd ar gyfer polisi economaidd Llywodraeth newydd y DU am y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae鈥檙 Canghellor yn gwybod beth y mae hi am ei wneud ar 么l agor ei bocs coch, ond beth fydd yr effaith ar lawr gwlad ar grwpiau fel teuluoedd, pensiynwyr, a phobl fusnes?

Dywed Lowri Williams sydd ag un plentyn: 鈥淢ae siopa bwyd yn afreal. Fi wedi gorfod siopa rhwng tair siop wahanol i geisio cael pris gwell ar bopeth.鈥

Dwedodd Sueann Jones, sy鈥檔 fam i ddau: 鈥淢ae鈥檔 frwydr gyda鈥檙 biliau, y cyllid, y nwy a鈥檙 trydan.

"Rydyn ni'n cael dau ben llinyn ynghyd ond rydyn ni'n para i geisio cael y darn sb芒r hwnnw o arian i wneud pethau hwyliog gyda'r plant.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sueann Jones yn fam i ddau

Mae garej Mototech ym Merthyr yn un o filoedd o fusnesau bach ledled Cymru sy鈥檔 aros yn nerfus i weld sut mae Rachel Reeves yn bwriadu newid cyfeiriad economaidd y wlad.

Gyda chostau鈥檔 cynyddu, mae鈥檙 bos, Zeehra Whitehouse yn dweud ei bod hi鈥檔 poeni am y cynnydd digwyliedig mewn Yswiriant Gwladol.

"Y prif beth yw bod y gwariant yn gymaint pan fyddwch yn cyflogi person newydd, yn enwedig eich bil Yswiriant Gwladol," meddai

"Felly rwy鈥檔 meddwl bydd llawer o fusnesau bach yn oedi cyn gwneud hyn oherwydd y gwariant ychwanegol hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Zeehra Whitehouse yn poeni am gynnydd posib mewn Yswiriant Gwladol

Mae pensiynwyr yn un o鈥檙 ychydig grwpiau sy鈥檔 gwybod rhywbeth am fwriadau Rachel Reeves ar eu cyfer - mae鈥檙 rhan fwyaf yn anhapus iawn yngl欧n 芒 cholli eu Taliad Tanwydd Gaeaf, sy werth hyd at 拢300.

Mae pensiynwyr fel Tony Perry yn dweud eu bod yn darged hawdd.

"Ar 么l i chi gyrraedd oedran ymddeol, 'ych chi ddim yn ddefnyddiol i neb mwyach. Y cyfan ma鈥檔 nhw mo'yn gwneud yw tynnu'ch arian oddi arnoch chi," meddai.

Dywed ei wraig, Lorraine: 鈥淏eth arall sy'n mynd i fynd i fyny? Dy鈥檔 ni ddim yn ysmygu nag yn yfed felly does dim rhaid i ni boeni am hynny, ond bydd yn rhaid i ni weld a yw hi'n gwneud unrhyw beth gyda phobl sydd 芒 chynilion, pethau felly."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tony Perry a'i wraig Lorraine yn poeni eu bod yn darged hawdd fel pensiynwyr

Mae Cheryl Foixcroft yn poeni am araith y Canghellor.

鈥淩wy鈥檔 ofni鈥檙 hyn y mae hi鈥檔 mynd i鈥檞 ddweud i fod yn onest.

"Mae 'na s么n am fod y pensiwn yn mynd i gael ei drethu, felly ble ewn ni wedyn? Bydd pobl yn marw - dyna fydd y peth nesaf."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cheryl Foixcroft yn poeni bod pensiynau yn mynd i gael eu trethu

Bydd pobl Merthyr a gweddill y wlad yn cael gwybod eu tynged ymhen ychydig ddyddiau - mewn cyllideb a fydd yn gosod cwrs economaidd y llywodraeth.

Mae cyfrinachau Bocs Coch y Canghellor ar fin cael eu datgelu.

Pynciau cysylltiedig