Rhybudd am ragor o law trwm ar 么l llifogydd yn y de

Ffynhonnell y llun, Joanne Butler

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid i deithwyr gael cymorth i ddod allan o'u ceir yn ystod glaw trwm yn Abertawe nos Wener

Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd mewn sawl ardal yn y de, wrth i un gwleidydd egluro sut y gwnaeth d诺r "lifo drwy waliau" ei d欧.

Fe dderbyniodd gwasanaethau t芒n y de, y canolbarth a'r gorllewin 180 o alwadau ff么n a bu'n rhaid iddyn nhw ymateb i ddegau o ddigwyddiadau nos Wener.

Cafodd pobl eu hachub o gar gan ddiffoddwyr t芒n yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd llifogydd mewn 10 t欧 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a cafodd un person ei achub.

Roedd 'na dirlithriad ger ffordd Cwm Afan ym Mhort Talbot a bu'n rhaid i bobl adael eu cartref gan fod pryderon y gallai wal ddymchwel.

Yn Abertawe, fe achosodd llifogydd drafferthion i yrwyr a cafodd pedwar o bobl a chi eu hachub o ardd yn y ddinas.

Mae 'na rybudd melyn am ragor o law trwm, gyda phosibilrwydd o fellt a tharanau, o 21:00 nos Sadwrn ym Mhowys, y de a'r gorllewin.

Ffynhonnell y llun, Tom Giffard

Disgrifiad o'r llun, Yr olygfa ger cartref Tom Giffard ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae'r Aelod o Senedd Cymru, Tom Giffard ar ei wyliau dramor ond cafodd wybod bod d诺r wedi mynd i'w gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros nos.

Dywedodd: "O be fi'n deall fe wnaeth y d诺r ddod lan i tua foot yn y t欧. Mae pawb yn iawn a dyna be' sy'n bwysig ond ni ddim yn gwybod eto y difrod sydd wedi cael ei wneud i'r t欧 a pethau yn y t欧.

"Mae hwn yn anodd ond mae'n mynd i fod yn anodd i llawer o bobl ar draws de Cymru.

"O un eiliad i'r llall oedd d诺r yn dod trwy'r waliau oherwydd dyna pa mor gyflym o'dd e'n dod trwyddo."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Tom Giffard bod "d诺r yn dod trwy'r waliau" yn ei gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Ychwanegodd Tom Giffard: "Mae'n drist iawn i gweld pobl yn cael eu heffeithio. Ni wedi gweld hyn o'r blaen wrth gwrs a'r peth mwyaf yw'r uncertainty.

"Ni ddim yn gwybod sut yn union mae pobl yn mynd i adeiladu n么l felly y peth pwysig yw bod pobl yn iawn a wedyn mae'n rhaid i ni ddelio gyda tai pobl a beth sydd yn tai pobl."

Ffynhonnell y llun, The Brook Bistro

Disgrifiad o'r llun, Roedd prif stryd yr Eglwys Newydd, Caerdydd, dan dd诺r yn dilyn glaw trwm nos Wener

Dywedodd cyflwynydd tywydd 大象传媒 Cymru, Derek Brockway: "Ym Mharc Victoria yn Abertawe, fe syrthiodd gwerth mis o law mewn diwrnod ddoe - 87.2mm. Fe syrthiodd 18.88mm mewn 15 munud yn ystod glaw trwm."

"Parc Victoria oedd y lleoliad gwlypaf yn y DU ddydd Iau a Gwener, wrth i 107.8mm o law ddisgyn."

Disgrifiad o'r llun, Roedd bagiau tywod i'w gweld o flaen tai yn Aberafan ddydd Sadwrn, gyda rhybudd am ragor o law trwm

Yng Nghastell Nedd Port Talbot, cafodd bagiau tywod eu gosod ar strydoedd yn Aberafan dros nos.

Dywedodd Stephanie Grimshaw, cynghorydd yng Nghastell Nedd Port Talbot, wrth 大象传媒 Cymru: "Neithiwr, mi gawson ni law trwm a mellt a tharanau. Roedd gymaint o law ac mi aeth d诺r fewn i rai tai yn anffodus. Mi siaradais i gyda 10-15 o deuluoedd ddoe ac mi es i fewn i'w tai nhw ac fe welais i'r difrod yn eu tai nhw.

"Roedd pobl allan drwy'r nos. Roeddwn i fyny tan tua 3yb yn ceisio cael bagiau tywod."

'Amodau dychrynllyd'

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd David Rees, sy'n cynrychioli Aberafan: "Mae'r amodau'n ddychrynllyd. Cofiwch gymryd gofal. Mae llifogydd ofnadwy mewn rhai ardaloedd."

Dywedodd Heddlu'r De bod Ffordd Talbot ym Mhort Talbot wedi cau i'r ddau gyfeiriad wrth i stormydd o fellt a tharanau daro'r ardal.

Roedd Ffordd Merthyr yng nghanol yr Eglwys Newydd, Caerdydd, dan dd诺r ar 么l glaw trwm.

Tan 08:00 fore Sadwrn roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod un rhybudd llifogydd yn Nant Ilston yn Llanilltud G诺yr ar Benrhyn G诺yr a dau rybudd i fod yn barod am lifogydd ar Benrhyn G诺yr ac yn ardal Ewenni a gorllewin Bro Morgannwg.

Roedd gan y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am law mellt a tharanau tan 02:00 fore Sadwrn gyda rhybudd y gallai 7cm o law syrthio mewn rhai oriau.