Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cofio pan oedd ceir yn rasio 60mya ar hyd prom Bae Colwyn...?
Y dyddiau yma, mae'n rhaid i chi gadw ar 20mya wrth yrru ar hyd y promen芒d yng nghyffiniau Bae Colwyn.
Ond oeddech chi'n gwybod fod rasys cyflymder i geir modur yn arfer cael eu cynnal ar hyd y ffordd yma yn yr 1910au ac 1920au, a'i bod hi'n ddigon cyffredin i yrwyr gyrraedd cyflymder o dros 60mya neu hyd yn oed 80mya?
Dave V. Thomas o Gymdeithas Clybiau Ceir y Gogledd Orllewin sydd 芒 pheth o hanes treialon cyflymder Colwyn:
Caru cyflymder
Ddechrau鈥檙 ganrif ddiwetha, roedd ceir modur yn dod yn bethau eithaf cyffredin, a gan nad oedd rhaid i rywun gyda baner goch gerdded o flaen y cerbyd bellach, roedd modd mwynhau ychydig o gyflymder.
Roedd chwaraeon modur ar ddechrau, gyda鈥檙 gylched rasio gyntaf yn y DU yn cael ei agor yn Brooklands yn 1907. Roedd clybiau moduro yn cael eu sefydlu; un o鈥檙 rhai hynaf, sydd dal i oroesi heddiw, yw鈥檙 Liverpool Motor Club, a gafodd ei sefydlu yn 1902, yn wreiddiol ar gyfer beiciau modur, ond yna hefyd ar gyfer ceir.
Daeth y clwb yn rhan o dreialon cyflymder ar gyfer y perchnogion ceir hynny oedd 芒鈥檜 bryd ar rasio鈥檔 gyflym, ac yn 1913 cafodd Treialon Cyflymder Colwyn eu cynnal am y tro cyntaf.
Roedd y cwrs ar hyd rhan ddwyreiniol Prom Bae Colwyn; cwrs cul rhwng y prom a鈥檙 rheilffordd 鈥 adran hanner milltir o hyd o ffordd asffalt, syth. Cafodd yr amser cyflymaf ei gofnodi gan Mr Watson mewn Vauxhall 20HP un sedd.
Roedd y digwyddiad wedi bod mor llwyddiannus, y cafodd ei gynnal eto yn 1914, gyda W.O Bentley yn dod i鈥檙 brig, y g诺r a aeth ymlaen i sefydlu cwmni Bentley Motors Ltd.
83mya
O ganlyniad i鈥檙 Rhyfel Mawr, doedd dim modd cynnal y digwyddiad eto tan 1922. Denodd y digwyddiad filoedd o wylwyr, a oedd yn sefyll ar ddwy ochr y cwrs, wrth i geir ruthro heibio ar gyflymder o 60mya.
Y car cyflymaf oedd Straker Squire, wedi ei gynhyrchu ym Mryste, ac eisoes wedi sefydlu ei hun mewn treialon pellter hir.
Erbyn 1924, roedd y cyflymderau wedi cynyddu, gydag amser o bron i 83mya yn cael ei gofnodi gan J.A Joyce mewn AC un sedd dros bellter o hanner cilometr, ar 么l cael 200 llath o run-up. Roedd y digwyddiad wedi ei amseru i 1/5ed o eiliad gan ddefnyddio stopwatsh llaw, gyda Joyce yn stopio鈥檙 cloc ar 22 eiliad.
Ymysg enillwyr yr adrannau oedd y gyrrwr lleol, Albert Braid, sefydlydd garej Braid Brothers yn y dref. Yn ei Austin 7 747cc, cofnododd amser o 29 a 1/5 eiliad, ac enillodd y flwyddyn wedyn hefyd. Mae鈥檙 Austin 7 dal yn boblogaidd mewn treialon cyflymder hyd heddiw.
Torrodd nifer o gerbydau i lawr, ac achosodd y glaw nifer i sgidio, gan gynnwys y Foneddiges Mitchell a gafodd anffawd gyda wal yn ei Straker Napier.
Roedd rhaid dod 芒鈥檙 digwyddiad i ben yn gynnar pan waethygodd y glaw.
Enwau mawr y cyfnod
Roedd glaw eto yn 1925, felly roedd hi鈥檔 ansicr os fyddai鈥檔 treialon yn parhau, ond mi ddigwyddodd yn y diwedd, rai wythnosau鈥檔 hwyr. Oherwydd trafferthion diogelwch posib y flwyddyn gynt, roedd rhaffau nawr o amgylch y cwrs. Roedd hefyd arwyddion yn rhybuddio 鈥Lives are precious, tie up that dog鈥 oherwydd problemau yn y gorffennol.
Cafwyd ymgais i amseru鈥檔 electronig, ond oherwydd y glaw, trodd y trefnwyr yn 么l at yr oriawr llaw.
Oherwydd yr amgylchiadau, dim ond un rhediad wedi ei amseru oedd modd ei wneud yr un, ond roedd gan gystadleuwyr hefyd yr hawl i 鈥榓ddasu鈥 eu ceir er mwyn cystadlu yn yr adran 鈥榰nrhyw gar鈥; yn aml, yr unig addasiad oedd wedi cael ei wneud oedd tynnu鈥檙 mud guards i ffwrdd!
Gyrrwr o Macclesfield, Basil Davenport, oedd gyflymaf y diwrnod hwnnw, mewn Frazer-Nash, ar gyflymder o 65mya. Aeth Davenport ymlaen i ddod yn enw mawr o fewn chwaraeon moduro.
Roedd yr haul yn disgleirio yn 1927, a daeth tyrfa o 8,000 i wylio enwau mawr y byd rasio, gan gynnwys Raymond Mays yn ei Mercedes 2 litr; Mays oedd sefydlydd beth sydd nawr yn cael ei alw yn Formula One.
Cafwyd cyflymderau anhygoel; hyd at 108.43mya dros y cwrs hanner milltir. Cyrhaeddodd A. Greenwood 84.73mya o standing start ar feic modur Brough 鈥 erbyn hyn roedd cerbydau dwy olwyn yn cael eu cynnwys.
Daeth y digwyddiadau ym Mae Colwyn i ben wrth i gyrsiau hirach gael eu hadeiladu. Yn ddiweddar mae digwyddiadau tebyg wedi bod ar Brom Southport ac ar Drac M么n, T欧 Croes.
Mae treialon cyflymder, sef 鈥Sprints鈥 (neu Hillclimbs, os ydyn nhw ar allt) yn parhau鈥檔 boblogaidd hyd heddiw, ac yn aml mae yna adrannau eraill ar gyfer ceir cynnar - y mathau o rai a welwyd ar brom Bae Colwyn.