'Ni’n trio'n gorau glas achos mae arian yn dynn dyddie 'ma'
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyfalu yn parhau ynglŷn â beth yn union fydd cynnwys cyllideb gyntaf y Canghellor Rachel Reeves.
Mae hi wedi pwysleisio fwy nag unwaith fod "penderfyniadau anodd" i ddod a bydd "trethi yn gorfod codi".
Ond mae yna nerfusrwydd ar lawr gwlad.
Ym mhentref Pontyberem yng Nghwm Gwendraeth mae pobl, wrth drafod eu pryderon a'u gobeithion, yn sôn am gostau bwyd a gwres.
- Cyhoeddwyd27 Hydref
- Cyhoeddwyd24 Hydref
Dywed Leanna Price, mam sengl sy'n gweithio yng nghaffi Y Cwtsh ei bod yn ymwybodol o'r heriau i fusnesau a chwsmeriaid.
"Ry’n ni moyn edrych ar ôl cwsmeriaid ni a smo ni moyn rhoi prisie lan. Ni’n ceisio cadw cost lawr mor isel â phosibl," meddai.
"Fi yn ferch ffarm ac yn gweld prisiau fertilizer a phethe fel gwenith a barlys yn mynd lan.
"Ma' prisiau’n codi, ond ni’n trio'n gorau glas i gadw popeth lawr i’n cwsmeriaid achos mae arian yn dynn 'da pobl dyddie 'ma."
Mae costau cyflogi 45 o staff a chynnal a chadw adeiladau a'u gwresogi er mwyn cadw'r drysau ar agor ar flaen meddwl Alaw Davies, prif swyddog Menter Cwm Gwendraeth Elli.
"Ni’n cynnal sawl busnes gwahanol – ac yn gobeithio daw y gyllideb â pharhad a chefnogaeth i gynnal swyddi. Dyna un o’r costau mwya' sydd gyda ni fan hyn.
"Mae 'na gostau cynyddol mewn overheads, biliau, costau pensiwn yn cynyddu, pob math o bethe - costau staff yn cynyddu, a mae’r pwysau i chwilio am gyllid ychwanegol yn aruthrol."
Ond mae'n cydnabod ei bod yn bwysig "cadw fynd, achos ry’n ni’n un o’r cyflogwyr mwya' amlwg yr ardal".
"Mae hynny er lles economi, er lles iaith ac i gadw pobl yn eu hardal hefyd. Mae’n holl, holl bwysig".
Wrth weithio yn y gymuned mae swyddogion y Fenter yn dweud eu bod eisoes yn gweld lefelau uchel o dlodi, yn enwedig mewn ardaloedd fel Llanelli lle mae John Derek Rees yn swyddog datblygu tref.
"Dyw Llanelli ddim yn cuddio ei dlodi," meddai.
"Mae’n amlwg ac felly wrth gwrs mae’r gyllideb yma yn peri gofid. Mae’n peri ansicrwydd – beth ni’n mynd i weld yn newid?
"Pan chi mewn ysgolion chi’n gweld yr amrywiaeth sydd 'na yn ein cymunede ni, teuluoedd sydd gyda digon o arian, teuluoedd sydd yn really, really diodde'.
"Mae costau byw a’r sefyllfa o brisiau’n codi yn effeithio yn weledol iawn dwi’n credu."
Mae arbenigwyr ariannol fel Janet Collins, cyfarwyddwr gyda chwmni cyfrifwyr LHP Caerfyrddin, eisoes yn darogan bod dyddiau anodd i ddod.
"Fi yn credu bydd y canghellor yn targedu pethe sy' ddim wedi eu targedu ers amser, fel treth etifeddiaeth a capital gains tax," meddai.
"Fe allai effeithio pobl mewn busnes, yn enwedig rhai bach sy'n stryglan eisoes i dalu biliau. Fi yn credu bydd llawer yn cau."
Ychwanegodd fod 'na "sôn am dargedu pobl sy'n ennill yn uchel iawn, ond fe fydd e yn bwrw pobl hefyd sy' â llai o arian parod ond sy' â mwy o asedau yn hytrach nag arian yn y banc".
Dywedodd y bydd y cyfnod nesaf "yn anodd dros ben dwi'n meddwl, a bydd rhaid i bobl fod yn ofalus sut maen nhw yn gwario eu harian".
Wrth baratoi ar gyfer y gyllideb mae Nigel Williams, cyfarwyddwr cyllid cwmni bwyd Castell Howell yn dweud fod busnesau yn paratoi yn ofalus.
"Mae 'di bod yn gyfnod anodd i bawb ers y pandemig a phethe fel chwyddiant yn achosi pwysedd mawr," meddai.
"Hefyd mae cyfraddau llog a rhyfel Wcráin wedi taro byd busnes yn galed.
"Dwi'n credu bo' rhaid i ni edrych ar ôl pawb - 'neud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle teg o ran cyflogaeth a chael cyflog teg, ond watcho bo' hwnna ddim yn mynd yn rhy bell i'r graddau bod o'n effeithio ar allu busnesau i lwyddo ac i dyfu ac i fuddsoddi.
"Y gofid yw, falle os chi'n rhoi gormod o gost ar fusnesau, mae hwnna'n mynd i effeithio ar y twf. Mater o falans yw e."
Yr her i'r Canghellor Rachel Reeves fydd esbonio pam bod rhaid gwneud "penderfyniadau anodd" yn y gyllideb.
A thrwy hynny dangos ei bod yn ganghellor ag "uchelgais" i weld ei mesurau yn taclo pynciau anodd fel creu swyddi, yr amgylchedd, gwella isadeiledd, a sicrhau cyfartaledd a thwf economaidd.