O'r G诺yr i Gwpan y Byd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Tydw i ddim eisiau cynrychioli Lloegr yn rhyngwladol. Dwi'n dod o Gymru a dwi'n falch o hynny."

Dyna eiriau Ceri Williams sy' mewn sefyllfa unigryw iawn pan mae hi'n dod i fod yn ddyfarnwr cynorthwyol p锚l-droed.

Nid yn aml mae swyddog yn cael croesi ffiniau Clawdd Offa i weithio ar gemau yng Nghymru a Lloegr, ond mae Ceri yn gwneud hynny ers 2020.

Mae hi'n gweithio fel dyfarnwr cynorthwyol yn yr Uwch Gynghrair yng Nghymru, yn gweithredu ar gynghrair y Women's Super League (WSL) yn Lloegr ac eleni hefyd yn rhan o banel y Gynghrair B锚l Droed yn Lloegr ac yn gweithredu yn yr adran gyntaf a'r ail.

Mae Ceri yn siarad gyda 大象传媒 Cymru Fyw ychydig ddyddiau cyn iddi hedfan i Weriniaeth Dominica i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd i Ferched dan 17 oed.

Ond ble ddechreuodd y cyfan? Beth oedd yr ap锚l? A sut mae hi wedi cyrraedd y lefel uchaf o ran y byd p锚l droed yn rhyngwladol mewn cyfnod ble mae hi'n cael beirniadaeth gyson, a hyd yn oed rhai bygythiadau yn erbyn ei bywyd gan rai cefnogwyr?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe ddechreuodd Ceri ddyfarnu yng nghyngreiriau Abertawe yn 2010

Mae Ceri, sy'n 29 oed, yn dod o'r Mwmbwls, G诺yr, ond mae hi ar hyn o bryd yn byw yn Derby.

"Fy swydd sydd wedi dod a fi yma, ar 么l i mi adael cartref a mynd i'r Brifysgol yn Llundain, ges i swydd mewn ysbyty yn Derby a dyma lle ydw i byth," meddai.

Cyn i Ceri adael am y Brifysgol roedd hi wedi cymhwyso fel dyfarnwr p锚l-droed.

"Roeddwn yn 15 ar y pryd a thua 2010 oedd hi. Nath fy nhad a fy mrawd mynd ar gwrs dyfarnu ac fe wnaethon nhw fy mherswadio i i neud y cwrs hefyd.

"Ar 么l pasio roeddwn yn gwneud gemau ieuenctid yn ardal Abertawe ac yn sydyn iawn roeddwn yn dechrau cael gemau yn y cynghreiriau uwch.

"Nes i adael i fynd i'r coleg yn Llundain yn 2013 a dyna phryd nes i ddechrau neud gemau yn Lloegr a dod i sylw'r FA yn fanno.

"Roedd y WSL ar y pryd yn eithaf newydd a doedd proffil y g锚m merched yn Lloegr ddim byd fel y mae heddiw.

"Nes i ddechrau gwneud gemau ar y WSL yn 2019, dyna'r flwyddyn hefyd i mi gael dyrchafiad i lefel FIFA fel dyfarnwr cynorthwyol ac wedyn i Uwch Gynghrair Cymru yn 2021," meddai.

Torri record

Mae'r pedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn gofiadwy iawn i Ceri.

Yn ogystal 芒 gweithredu yn Lloegr ac yng Nghymru, mae hi hefyd wedi bod yn rhan o d卯m y dyfarnwr Cheryl Foster ar gemau yn Ewrop.

"Roedd cael gweithio gyda Cheryl yn wych, mae hi wastad wedi bod yn rhywun dwi wedi edrych i fyny ati hi. Ges i weithio efo hi ar g锚m Wolfsburg v PSG yn rownd wyth olaf Cynghrair y Pencampwyr i ferched.

"Dwi hefyd wedi gwneud g锚m yn y Nou Camp, Barcelona, roedd hwnna'n brofiad arbennig," meddai.

Ond yn 么l Ceri roedd Euro 2022 yn drobwynt i b锚l-droed merched nid yn unig yn Lloegr ond ym Mhrydain.

"Ers yr Euros yna pan enillodd y Lionesses, mae'r nifer o bobl sy'n mynd i wylio gemau'r WSL yn anhygoel. Mae stadiymau mawr fel yr Emirates ac Old Trafford nawr yn gwerthu allan i gemau merched.

"Roeddwn yn gwneud Arsenal yr wythnos diwethaf ac roedd dros 60,000 yno yn gwylio'r merched. Mae hynny'n anhygoel i gymharu efo ychydig flynyddoedd yn 么l," meddai.

Yn 么l yng Nghymru mae Ceri wedi torri sawl record. Mae hi'n ystyried y flwyddyn yma'n un o'r rhai hapusaf ar y cae.

Hi oedd y ferch gyntaf mewn hanes i gael ei dewis i fod yn rhan o d卯m dyfarnu ffeinal Cwpan Cymru i'r dynion.

"Roedd y diwrnod yna yn un fythgofiadwy. Pan dwi'n gwisgo fy mathodyn FIFA ar fy mrest i bob g锚m dwi'n gwneud hynny yn cynrychioli Cymru, ac mae cael eich dewis i ffeinal prif gystadleuaeth eich gwlad yn anrhydedd arbennig," meddai.

Ffynhonnell y llun, CBDC

Disgrifiad o'r llun, Ceri oedd y ferch gyntaf erioed i fod yn rhan o d卯m dyfarnu Cwpan Cymru'r dynion a hynny yn 2024

Ychydig wythnosau ar 么l i'r tymor diwethaf ddod i ben cafodd Ceri wybod y byddai yn cael ei dewis i fod ar banel dyfarnwyr cynorthwyol y Gynghrair B锚l-droed yn Lloegr.

Hi, unwaith eto, yw鈥檙 ferch gyntaf o Gymru i gael ei dewis i weithio ar gemau yn League 1 a League 2 yn Lloegr.

Daeth ei g锚m gyntaf ddiwedd mis Awst pan heriodd Walsall Bradford a'r penwythnos diwethaf roedd hi yn Rotherham v Reading.

"Does dim gwahaniaeth i mi beth yw'r g锚m, dwi'n trio gwneud fy ngorau ym mhob un.

"Pan mae 'na ddegau o filoedd yn eich gwylio chi, mae'r s诺n yn drydanol, dwi'n lwcus iawn cael gwneud gemau gwahanol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ceri yn rhan o d卯m dyfarnu yn stadiwm Emirates Arsenal yn ddiweddar

Un peth sy'n dod gyda'r swydd o ddyfarnu ar y lefel uchaf yw'r feirniadaeth ddi-ddiwedd.

Yn sicr mae Ceri yn credu ei bod hi wedi gorfod profi ei hun yn fwy yng ng锚m y dynion am ei bod hi'n ferch.

Mae ambell i ddigwyddiad anffodus wedi codi hefyd ble mae hi wedi cael ei beirniadu ar sail y ffaith ei bod hi'n ferch sy'n gweithredu yng ng锚m y dynion.

"Dwi wedi cael ambell i berson yn gweiddi pethau sarhaus o'r ochr, ond y peth gwaethaf oedd cael bygythiadau ar-lein yn fy erbyn yn dilyn g锚m yn y WSL.

"Bryd hynny roedd yn rhaid i mi adrodd popeth i'r heddlu.

"Yn anffodus mae'r math yma o ymddygiad yn rhan o b锚l-droed modern," meddai.

Ffynhonnell y llun, Ceri Williams

Disgrifiad o'r llun, Mae Ceri yn falch o gael gwneud gemau yng Nghymru ac yn gobeithio denu mwy o ferched i ddyfarnu

Ar wahan i'w gwaith fel ffisiotherapydd, mae Ceri'n gyfrifol am ddatblygu dyfarnwyr benywaidd yng Nghymru.

Fel rhan o'r r么l mae hi'n ceisio recriwtio cymaint o ferched fewn i'r g锚m.

"Dwi'n falch iawn o gyflawni'r r么l yma, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer o ferched yng Nghymru sy'n dewis dod lawr y llwybr dyfarnu.

"Ar hyn o bryd mae 80 wedi'u cofrestru a dwi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o osod y strwythur yma yng Nghymru."

Y gobaith i Ceri yw i "ddenu fwy o ferched i'r g锚m yng Nghymru" ac i weld mwy o ferched yn mwynhau bod yn rhan o b锚l-droed ac i ddatblygu ei gyrfa ei hun ar y cae yn yr un modd.

"Mae'r flwyddyn nesaf yma yn un bwysig i mi sefydlu fy hun ar y cynghreiriau yr wyf newydd gael dyrchafiad arnyn nhw, ac dwi'n edrych ymlaen at hynny yn arw," meddai.

Bron i bymtheg mlynedd ers iddi basio'r cwrs yn y Mwmbwls, prin oedd hi'n disgwyl y byddai'n camu ar awyren yn barod i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth Cwpan y Byd yn gwneud swydd mae hi wrth ei bodd yn ei chyflawni.