Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llety gwyliau M么n: Gwrthod un cais ond caniat谩u un arall
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae cais i drosi cyn-gapel ym M么n yn llety gwyliau wedi cael ei wrthod yn sgil pryderon byddai'n "agor y llifddorau" i ddatblygiadau tebyg.
Dywedodd un cynghorydd bod yn rhaid "rhoi cymunedau lleol o flaen datblygwyr", wrth ddatgan ei fod "wedi cael digon o weld tai yn cael eu defnyddio fel ail dai ac unedau gwyliau".
Ond fe wnaeth yr un pwyllgor hefyd ganiat谩u cais i godi 55 chalet gwyliau ar gyrion Porthaethwy yn dilyn rhybudd byddai'r ymgeiswyr yn ennill ap锚l gydag arolygwyr Llywodraeth Cymru be bai'n cael ei wrthod.
Roedd y ddau gais wedi eu cyflwyno i aelodau o Bwyllgor Cynllunio Cyngor M么n brynhawn Mercher, wedi i'r ddau gael eu gwrthod yn eu cyfarfod diwethaf.
Ond gan fod y ddau wedi eu gwrthod yn groes i argymhelliad swyddogion, fe gafon nhw eu hailgyflwyno yn dilyn cyfnod o gnoi cil.
'Dolur llygad'
Yn 2022 fe wrthodwyd ymgais i drosi Capel Jerusalem yn Llangoed yn bedair fflat at ddiben gwyliau.
Ers hynny roedd cais newydd wedi ei gyflwyno ar gyfer tair fflat yn unig.
Ond yn 么l cynghorwyr roedd gwrthwynebiadau lleol am faterion traffig a pharcio yn parhau, gan ailadrodd y ddadl fod 鈥済ormodedd鈥 o ddarpariaeth gwyliau yn yr ardal.
Roedd y cais wedi ei gyflwyno gan Baby Bird Development Ltd o Fanceinion, sy鈥檔 cael ei redeg gan Loretta ac Anthony Hodari.
Yn 么l swyddogion cynllunio, oedd yn argymell caniat谩u鈥檙 cais, mae'r cyn-gapel yn adeilad "mawr ac amlwg" ond yn "debygol o ddirywio ymhellach heb fuddsoddiad".
Ychwanegon nhw fod posib y gallai ddod yn "ddolur llygad o ystyried ei faint ac amlygrwydd yn y pentref".
Ond wedi derbyn gwrthwynebiad cryf gan y cyngor cymuned leol, dadl sawl cynghorydd oedd bod nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau hunanarlwyo yn ardal Llangoed eisoes yn 15.36% - ac felly dros y trothwy o 15% sy'n cael ei ddefnyddio gan y cyngor fel argymhelliad.
Roedd pryderon hefyd dros drafferthion parcio sydd eisoes yn y pentref gan nad oes llefydd digonol, a byddai'r sefyllfa yn gwaethygu petai'r cais yn cael ei ganiat谩u.
Er hyn roedd swyddogion priffyrdd y cyngor yn fodlon gyda'r cais.
Ond dywedodd un o'r cynghorwyr lleol, Gary Pritchard: "Fedrwn ni ddim cael cysondeb heb osod trothwy.
"Mae Biwmares ymhell dros y trothwy. Byddai hyn yn agor y llifddorau a bydd pentrefi cyfagos i Fiwmares yn cael eu llyncu gan ail dai fel mae Biwmares wedi ei wneud."
'Digon yw digon'
Hefyd yn dadlau yn erbyn y datblygiad, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams: "Mae'n rhaid i fel pwyllgor ystyried be ydan ni eisiau ei adael yn waddol ar yr ynys 'ma.
"Mae gen i ddata o fy mlaen yn mynd n么l i Medi 2020, ac yn Llangoed bryd hynny roedd 12.95% o'r stoc dai yn ail dai neu unedau hunan arlwyo.
"Erbyn heddiw mae wedi cynyddu i 15.36% ac os wnawn roi caniat芒d fydd nesa' peth i 16%."
Ychwanegodd: "Dydy hyn ddim yn unigryw i F么n neu Chymru, ond 'da ni'n clywed ar y newyddion am bobl yn protestio yn Majorca ac ati oherwydd fod gymaint o ail dai yn y fan honno, a phobl Cernyw yn cwffio n么l.
"Dwi'n derbyn mai canllaw ydy'r 15%, ond pa bryd ydyn ni'n dweud mai digon ydy digon?
"Os oes rhaid i ni fynd i ap锚l a dweud hyn wrth yr arolygydd mi wna'i... dwi 'di cael digon o weld tai yn cael eu defnyddio fel ail dai ac unedau gwyliau."
Gan awgrymu y byddai'n well ganddo weld y capel yn cael ei droi'n unedau fforddiadwy i "bobl leol", ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni roi ein cymunedau ni o flaen y datblygwyr 'ma, sydd byth a beunydd yn dod o'n blaen ni gyda datblygiad arall dro ar 么l tro i gael mwy o dai haf i bobl gyfoethog o Fanceinion, Birmingham neu le bynnag maen nhw'n dod.
"Fedran ni ddim cario 'mlaen i wylio'r sefyllfa yn cario 'mlaen neu fyddwn ni wedi lladd ein cymuned yn gyfan gwbl."
Cafodd y cais ei wrthod yn derfynol gan y pwyllgor, gydag ond un aelod o blaid.
Caniat谩u datblygiad gwyliau
Roedd y cyngor hefyd yn trafod cais i godi 55 chalet gwyliau ar Fferm Wern ger ffordd Pentraeth, Porthaethwy.
Yn 么l yr ymgeiswyr byddai'r datblygiad 鈥渙 ansawdd uchel鈥 ac yn darparu 鈥渉afan dawel i weithwyr proffesiynol sydd wedi ymddeol, swyddogion gweithredol a鈥檜 teuluoedd".
Yn eu cais ychwanegon nhw byddai'r unedau yn cael eu darparu 鈥測n benodol at ddibenion gwyliau鈥 a byddai'r datblygiad yn creu tair swydd llawn amser a phedair rhan amser.
Ond roedd y datblygiad wedi denu gwrthwynebiad yn lleol, gan gynnwys 10 llythyr gan y cyhoedd yn poeni am s诺n, fod gormodedd o lety gwyliau yn yr ardal yn barod a'r cynnydd mewn traffig.
Y sefyllfa draffig oedd prif bryder aelodau'r pwyllgor cynllunio brynhawn Mercher, gan honni nad yw'r fynedfa yn addas ar gyfer cynifer o geir ychwanegol bob dydd.
Ond yn sgil rhybudd byddai'r ymgeiswyr yn apelio'r penderfyniad - ac y bydden nhw'n debygol o lwyddo ar ap锚l - fe gymeradwywyd y cais o saith pleidlais i bedwar.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans: "Dwi'n meddwl fod 'na fwy o ddefnydd i lefydd fel hyn na chael tai haf ac Airbnb oddi fewn ein cymunedau ni."