Y Blaid Werdd: Cefnogi Senedd Cymru pe bai'n cynnal refferendwm annibyniaeth

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Mae gan y Blaid Werdd gyd-arweinwyr, Carla Denyer ac Adrian Ramsay

Mae'r Blaid Werdd yn dweud y byddai'n cefnogi Senedd Cymru pe bai'n penderfynu cynnal refferendwm annibyniaeth.

Wrth lansio ei maniffesto, mae'r blaid yn dweud y dylai Cymru fod yn rhydd i wneud ei phenderfyniad ei hun ynghylch a yw am fod yn rhan o'r DU.

Mae鈥檙 Blaid Werdd yng Nghymru eisoes wedi datgan ei chefnogaeth i Gymru annibynnol.

Dywedodd Sam Coates, ymgeisydd ar gyfer y Gwyrddion yng Nghymru, fod annibyniaeth yn 鈥済am cyntaf pwysig wrth adeiladu鈥檙 Gymru rydyn ni eisiau ei gweld.鈥

Wrth siarad ar 么l lansio maniffesto'r Blaid Werdd, dywedodd Mr Coates:

鈥淢ae yna lawer o bwerau nad oes gennym ni yma yng Nghymru ar hyn o bryd dros seilwaith, er enghraifft, a pholisi tramor.

"Mae agweddau llywodraeth Prydain tuag at yr argyfwng yn Gaza er enghraifft wedi cynhyrfu llawer o bobl.

"Mae gennym ni wir weledigaeth o Gymru yn rym er daioni yn y gymuned ryngwladol yn ogystal 芒 chael pwerau llawn i wneud Cymru yn wlad fwy cymdeithasol ddemocrataidd lle mae鈥檙 llywodraeth yn adlewyrchu ein cymunedau ac eisiau edrych ar 么l ei gilydd.鈥

Mae'r blaid hefyd yn galw am i reolaeth dros Yst芒d y Goron gael ei datganoli i Lywodraeth Cymru.

Codi trethi ar y cyfoethocaf

Mae鈥檙 Blaid Werdd wedi addo codi trethi ar y cyfoethocaf a鈥檙 rhai sy鈥檔 ennill mwy na 拢50,000 yn ei maniffesto, gan honni y bydd y cynlluniau鈥檔 cynhyrchu 拢70bn y flwyddyn i helpu i dalu am y GIG.

Maen nhw'n bwriadu cyflwyno treth cyfoeth o 1% ar asedau gwerth dros 拢10m, a 2% ar asedau gwerth mwy na 拢1bn.

Mae鈥檙 cynigion yn cynnwys codi cyfradd Yswiriant Gwladol o 2% i 8% ar gyflogau blynyddol dros 拢50,270 鈥 sy鈥檔 cyfateb i 拢283.74 y flwyddyn ychwanegol mewn treth i rywun sy鈥檔 ennill 拢55,000.

Dywedodd cyd-arweinydd y blaid, Adrian Ramsay, mai鈥檙 Gwyrddion oedd yr 鈥渦nig blaid sy鈥檔 onest鈥 am y codiadau treth y maen nhw鈥檔 honni sydd eu hangen i drwsio鈥檙 argyfwng hinsawdd, tai a鈥檙 GIG.

Mae'r blaid wedi addo gwario 拢50bn y flwyddyn ar iechyd a gofal cymdeithasol erbyn 2030.

Addawodd atal pob prosiect tanwydd ffosil newydd yn y DU, ac addawodd fod yn fwy uchelgeisiol nag unrhyw blaid arall ar ynni adnewyddadwy.

Ar hyn o bryd nid yw gweithwyr yn talu unrhyw Yswiriant Gwladol nes eu bod yn ennill mwy na 拢12,570, 8% ar enillion rhwng 拢12,570 a 拢50,270, a 2% ar enillion dros 拢50,270 ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24.

O dan gynlluniau鈥檙 Gwyrddion, byddai鈥檙 gyfradd o 8% yn cael ei thalu ar bob cyflog uwchlaw鈥檙 trothwy enillion uchaf.

Dywed y Gwyrddion y byddai鈥檙 dreth cyfoeth newydd yn effeithio ar lai nag 1% o gartrefi鈥檙 DU ac yn codi 拢15bn y flwyddyn erbyn diwedd y Senedd nesaf, gyda鈥檙 arian yn mynd i鈥檙 GIG.

Dywedodd Mr Ramsay fod y cynnydd yn "gymedrol" yn 么l safonau Ewropeaidd. Dywedodd y gallai nifer fach o filiwnyddion adael y DU o ganlyniad ond mynnodd y byddai'r cyfoethog iawn yn aros.