Ffonau mewn ysgolion: Llywodraeth Cymru 'yn paratoi canllawiau'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai ysgolion eisoes wedi cyflwyno dyfais i reoli ffonau symudol yng Nghymru, tra bod rhai rhieni mewn cyfyng gyngor am roi ffonau clyfar i'w plant

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod "yn y broses" o lunio canllawiau ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan wrth raglen Wales Live 大象传媒 Cymru y byddai'n "synnu'n fawr os oes nifer o ysgolion ar 么l yng Nghymru sydd heb wahardd" ffonau symudol.

"Dwi'n ymwybodol fod yr Ysgrifennydd Addysg yn cadw llygaid barcud ar y sefyllfa ac yn y broses o ddatblygu canllawiau ar hyn."

Daw hyn wrth i rieni alw am wahardd ffonau clyfar mewn ysgolion.

Mae rhai'n dweud eu bod yn teimlo pwysau i roi ff么n i'w plant, gan honni fod rhai ysgolion yn hyrwyddo eu defnydd mewn gwersi.

Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae 'na ganllawiau eisioes wedi eu cyhoeddi i helpu ysgolion i wahardd ffonau symudol ond does dim canllaw yng Nghymru, lle mae addysg wedi ei ddatganoli.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Ysgol Dyffryn Conwy wedi cyflwyno dyfais i reoli'r defnydd o ffonau symudol yn yr ysgol

Yng Nghymru, ysgolion unigol sy'n gyfrifol am benderfynu os ydyn nhw'n gwahardd ffonau symudol felly mae'r rheolau yn amrywio fesul ysgol.

Mae rhai ysgolion eisoes wedi cyflwyno dyfais i reoli ffonau symudol yng Nghymru, tra bod rhai rhieni mewn cyfyng gyngor am roi ffonau clyfar i'w plant.

Dywedodd yr Aelod o鈥檙 Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell "ei fod yn araf yn dod, ond rydym angen canllawiau... dyle ysgolion fod yn derbyn canllawiau yn ganolog gan Lywodraeth Cymru".

"Dwi'n meddwl ei fod yn bolisi y dylai ysgolion wneud ar y cyd gydag awdurdodau lleol".

"Nid rhieni neu ddisgyblion ddylai benderfynu. Dylen ni beidio rhoi unrhyw un sydd heb ff么n symudol o dan anfantais".

Dywedodd Tom Giffard, yr AS Ceidwadol ei fod yn "croesawu'r ffaith bod canllawiau am gael eu cyflwyno".

"Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig mai'r ysgolion sy'n arwain ar hyn. Ond ry' ni methu anghofio ein bod yn byw mewn byd modern lle mai ffonau yn bodoli".