Y Ceidwadwyr yn mynnu ymddiheuriad wedi fideo Ysgrifennydd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Swyddfa Cymru yn mynnu nad yw Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi torri cod y gwasanaeth sifil

Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, o ddwyn anfri ar Swyddfa Cymru drwy ddefnyddio cyfleusterau'r adran er "budd gwleidyddol".

Dywedodd Ysgrifennydd Cymreig yr Wrthblaid, Byron Davies, fod yn Swyddfa Cymru yn torri rheolau'r gwasanaeth sifil - rheolau sy'n atal defnydd o adnoddau swyddogol ar gyfer dibenion plaid wleidyddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: 鈥淩oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn amlinellu polisi鈥檙 llywodraeth yn sgil adnewyddu y berthynas rhwng llywodraethau鈥檙 DU a Chymru."

Ym mis Mai roedd hi'n ymddangos bod Ysgrifennydd Ceidwadol Cymru ar y pryd, David TC Davies, wedi defnyddio swyddfa'r llywodraeth i feirniadu Llywodraeth Cymru - digwyddiad a gafodd ei feirniadu gan Stevens.

Galw am 'ymchwiliad cyflym'

Mae Byron Davies - sy'n cael ei adnabod fel yr Arglwydd Davies o Benrhyn G诺yr - wedi ysgrifennu at Stevens yn gofyn am esboniad ac ymddiheuriad.

Ysgrifennodd: 鈥淵n y fideo a bostiwyd yn gynharach yr wythnos hon [ar y cyfryngau cymdeithasol] dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 鈥楻oeddwn i鈥檔 glir iawn yngl欧n 芒鈥檙 hyn yr oeddem ni, fel llywodraeth, eisiau ei gyflawni a鈥檙 hyn yr oeddwn am ei gyflawni yn y r么l hon ar ran Swyddfa Cymru sef ailsefydlu鈥檙 berthynas gyda Llywodraeth Cymru, gan gefnu ar berthynas o ffraeo, llawn tensiwn鈥.鈥

Ychwanegodd yr Arglwydd Ceidwadol: 鈥淢ae鈥檙 fideo, a gafodd ei ffilmio y tu mewn i鈥檙 adran a鈥檌 bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, yn wleidyddol iawn ei natur.

鈥淢ae鈥檔 ysgytwol gweld adnoddau sy鈥檔 cael eu hariannu gan y trethdalwr yn cael eu camddefnyddio er budd plaid wleidyddol.鈥

Dywedodd fod y weithred yn torri cod y gwasanaeth sifil ac, "felly, galwaf am ymchwiliad cyflym i ganfod pam y caniatawyd sefyllfa o'r fath".

'Y cod yn ddim yn berthnasol i weinidogion'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: 鈥淎mlinellodd yr Ysgrifennydd Gwladol bolisi鈥檙 llywodraeth yngl欧n ag ailsefydlu y berthynas rhwng llywodraethau鈥檙 DU a Chymru.

"Does dim byd amhriodol mewn mynegi gofid am ymddygiad y weinyddiaeth flaenorol a'r diffyg parch oedd ganddi tuag at Lywodraeth Cymru a datganoli."

Aeth ymlaen i ddweud bod cod y gwasanaeth sifil yn berthnasol i weision sifil, nid gweinidogion.