Rhybudd melyn am law trwm i'r gogledd ddwyrain

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i'r gogledd ddwyrain ddydd Llun.

Fe ddaeth y rhybudd i rym am 00:30 fore Llun ac mae'n para tan 20:00 nos Lun.

Mae disgwyl i rhwng 20-40mm o law ddisgyn yn ystod y dydd, gyda hyd at 60mm mewn rhai mannau.

Daw'r rhybudd yma yn dilyn tywydd garw yn y rhan helaeth o Gymru drwy'r penwythnos.

Fe ddaeth rhybudd melyn arall am law trwm i dde Cymru i ben am 09:00 fore Llun.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw trwm achosi trafferthion i deithwyr.

Fe all teithiau bws a thr锚n gymryd mwy o amser, tra bod llifogydd ar y ffyrdd hefyd yn bosib.

Yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan y rhybudd yw:

  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam