Stephen Williams yn arwain y Tour of Britain

Ffynhonnell y llun, SWpix.com

Disgrifiad o'r llun, Fe enillodd Stephen Williams yr ail gymal ddydd Mercher

Mae'r Cymro Stephen Williams yn arwain ras seiclo'r Tour of Britain wedi iddo ennill yr ail gymal ddydd Mercher.

Fe lwyddodd y Cymro Cymraeg o Aberystwyth, sy'n cynrychioli t卯m Israel-Premier Tech, i wibio heibio i Julian Alaphilippe o Ffrainc er mwyn ennill y cymal yn Redcar, ar gyrion Middlesbrough yng ngogledd Lloegr.

Mae'n golygu bod Williams, 28, yn mynd i frig y dosbarthiad cyffredinol - chwe eiliad ar y blaen i Oscar Onley o'r Alban, gydag Alaphilippe yn drydydd, 16 eiliad y tu 么l i Williams.

Bydd y trydydd cymal ddydd Iau yn gweld y peloton yn teithio o Sheffield i Barnsley, gyda'r Tour yn dod i ben ddydd Sul.