Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prifardd yn rhannu profiad o gam-drin emosiynol 'erchyll' gan ei mam
- Awdur, Sara Down-Roberts
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae cyfrol newydd gan y Prifardd Gwyneth Lewis yn gofnod cignoeth a gonest o'r gamdriniaeth emosiynol a dderbyniodd gan ei mam pan yn blentyn.
Gyda chymorth dyddiaduron ei phlentyndod, mae'n cofio'r pwysau academaidd di-ben-draw arni.
Roedd disgwyl iddi fod ar frig y dosbarth ymhob pwnc a phetai'n cymryd seibiant o'r gwaith roedd yna gerydd.
Mae'n cofio hefyd cael ei cheryddu am ddiwrnodau am f芒n droseddau fel malu potel laeth ar ddamwain neu baeddu'r gwely yn ystod misglwyf.
Mewn cystadlaethau eisteddfodol fe fyddai ei mam yn rhoi pob cymorth iddi neu weithiau'n cyflawni'r tasgau ei hun er mwyn i Gwyneth ennill.
Doedd hi ddim yn cael bod yn hi ei hun.
Un o brif amcanion ei thad oedd sicrhau nad oedd Gwyneth yn cynhyrfu ei mam a phetai hynny'n digwydd y Gwyneth ifanc oedd i'w beio.
Effaith y cyfan, meddai Gwyneth Lewis - Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru - oedd teimlo'n gwbl ddiwerth a dihyder.
Wrth i'w mam arddangos y cyfansoddiadau buddugol, teimlai'n rhagrithiol a chelwyddog.
'Cam-drin emosiynol ddim yn diflannu'
"Nid ar chwarae bach mae person yn datgelu pethau mor breifat a phersonol," meddai wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
"Mae'n gofnod am y gorffennol ond dyw 么l cam-drin emosiynol ddim yn diflannu. Mae rhywun yn byw gydag e yn gyson.
"Pan chi'n blentyn does dim amddiffynfa gyda chi o gwbl - yn enwedig os yw'r cam-drin yn digwydd yn y cartref."
Er y gamdriniaeth emosiynol "erchyll", dywedodd Gwyneth ei bod wedi cael pob dim materol yn ei chartref yng Nghaerdydd a bod ganddi ar adegau deimladau cariadus tuag at ei mam.
Roedd hi a'i chwaer yn cael bwyd cartref da, dillad hardd wedi'u gwneud adref ac roedd yna ddigon o lyfrau i ddiwallu pob gofyn addysgol.
"Mae'n sefyllfa gymysg dros ben. Ond ers yn ifanc ro'n i'n gwybod bod y driniaeth o'n i'n cael ddim yn deg ac o'n i'n grac o oedran ifanc iawn. O'n i'n brwydro yn erbyn fy anghyfiawnder," ychwanegodd.
"Mae'r ffordd mae'ch rhieni yn eich trin chi yn gosod y sgript am oes gyfan - os oes yna lid yn y llais, mae plentyn yn mewnoli'r peth. Dyw'n sgriptiau i ddim wedi bod yn ddefnyddiol iawn."
Ychwanega ei bod yn bwysig bod yn onest.
"Ni'n tueddu i ddelfrydu'r fam yn ein llenyddiaeth - yn enwedig yng Nghymru."
Roedd ysfa barhaus ei mam i Gwyneth fod ar y brig yn deillio o'r ffaith ei bod am iddi gyflawni yr hyn nad oedd hi wedi gallu ei gyflawni, meddai yn y gyfrol.
Mewn llythyr ati yn ystod cyfnod o afiechyd meddwl difrifol tra'n fyfyrwraig yng Nghaergrawnt, dywedodd y fam Eryl Lewis, a gafodd ei magu yng nghefn gwlad Ceredigion: "Mae'r elfen hon o instability, efallai yn dod o ochr Mamgu.
"Roedd Mam-gu yn anodd iawn i fyw gyda hi - doedd yr awyrgylch gartre ddim yn dda.
"O'dd Mam yn dioddef o iselder ysbryd, o'dd 'na hanes o gam-drin emosiynol yn y teulu.
"Dyw'r pethe yma ddim yn dod o unman," meddai Gwyneth Lewis.
Wrth ymhelaethu ar yr orfodaeth i gystadlu, dywedodd bod y cyfan wedi'i dysgu i fod yn ddisgybledig.
"Mae'r ddisgyblaeth yna wedi helpu fi yn fy mywyd ysgrifennu ond ar y llaw arall mae cymharu'ch hunan gyda phobl eraill yn wallgof.
"Erbyn hyn dwi'n gyndyn iawn i gystadlu. Bywyd bob dydd yw'r wobr i fi a dim arall."
Mae Gwyneth Lewis yn gobeithio y bydd y gyfrol o gymorth i eraill.
"Y prif obaith sy' gen i yw y bydd y gyfrol yn cyrraedd pobl sydd wedi cael profiad tebyg o gam-drin emosiynol.
"Rwy' wedi bod yn paratoi i ysgrifennu'r gyfrol 'ma ers yn fy ugeiniau oherwydd bo fi'n ymwybodol pan o'n i ynghanol y purdan nad oedd arweiniad o gwbl.
"Rhaid cofio nad oedd cymaint o help seicolegol i gael yn y 70au a'r 80au 芒 sydd nawr.
"Y peth fi wedi bod yn chwilio amdano drwy'n oes yw rywun yn disgrifio si芒p y profiad - si芒p effaith cam-drin emosiynol arnoch chi fel person.
"O'n i'n styc yn emosiynol a phe bydden i ddim wedi ysgrifennu'r gyfrol yma fydden i ddim yn gallu symud ymlaen gyda fy mywyd i nawr," ychwanegodd.
Bydd y gyfrol Nightshade Mother: A Disentangling yn cael ei chyhoeddi ar 26 Medi.
- Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.