Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymosodiad Southport: Dyn yn y llys ar gyhuddiadau ar wah芒n
Mae'r dyn ifanc sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio tair merch ifanc yn Southport wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gynhyrchu gwenwyn.
Fe ymddangosodd Axel Rudakubana, 18, yn Llys Ynadon Westminster drwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh fore Mercher.
Cafodd y dyn ifanc, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, ei gyhuddo o gynhyrchu gwenwyn a chael deunydd sy'n ymwneud 芒 hyfforddiant Al Qaeda yn ei feddiant ddydd Mawrth.
Roedd Axel Rudakubana yn dawel drwy gydol y gwrandawiad ac roedd yn ceisio gorchuddio ei wyneb gyda'i grys.
Ni ddaeth unrhyw fanylion pellach i'r amlwg am y cyhuddiadau diweddaraf yn ystod y gwrandawiad.
Mae'r llanc eisoes wedi'i gyhuddo o lofruddio Bebe King, chwech, Elsie Dot Stancombe, saith, ac Alice da Silva Aguiar, naw, mewn dosbarth dawns yn Southport ym mis Gorffennaf.
Mae hefyd yn wynebu deg cyhuddiad o geisio llofruddio, ac o fod a chyllell yn ei feddiant.
Bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at Lys y Goron Lerpwl lle bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar 13 Tachwedd i drafod yr holl gyhuddiadau yn ei erbyn.