大象传媒

P芒r fu farw ag anaf saethu wedi eu canfod gan eu merch

Cerbyd heddlu tu allan i gartref Stephen a Christine Jefferies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cerbyd heddlu tu allan i gartref Stephen a Christine Jefferies yn ardal Trowbridge, Caerdydd wedi i'w merch ddod o hyd iddyn nhw yn farw yno

  • Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiadau cwest wedi clywed bod p芒r priod a fu farw o anafiadau saethu yn eu cartref yng Nghaerdydd wedi cael eu darganfod gan eu merch.

Fe gafodd Stephen Jefferies, 74, a'i wraig 72 oed, Christine eu canfod yn farw mewn t欧 ym Morfa Crescent yn ardal Trowbridge y ddinas tua 14:50 ddydd Sadwrn 5 Hydref.

Clywodd y llys bod eu merch heb gael ateb pan ymwelodd 芒'r t欧 felly fe adawodd ei hun i mewn a dod o hyd i gyrff ei rhieni mewn ystafell wely.

Fe glywodd hefyd bod yna ddryll yno a bod y ddau wedi marw o anaf saethu i arlais (temple) dde'r pen.

Mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'w perthnasau.

Dywedodd y crwner, Graeme Hughes, bod y marwolaethau'n ymddangos yn rhai "annaturiol" a bod angen ymchwiliadau pellach.

Gan ohirio'r gwrandawiadau, fe "gydymdeimlodd yn ddiffuant" 芒 theulu a chyfeillion Mr a Mrs Jefferies.

Pynciau cysylltiedig