Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru drwodd i rownd derfynol gemau ail gyfle Euro 2025
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2025 dal yn fyw ar 么l curo Slofacia o 2-0 ar 么l amser ychwanegol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd cryn bwysau ar y t卯m cartref yn dilyn colled annisgwyl o 2-1 yn y cymal cyntaf nos Wener, ond roedd yr ymateb yn galonogol o'r cychwyn cyntaf.
Jess Fishlock sgoriodd y g么l gyntaf wedi 39 o funudau, a daeth yr ail hollbwysig gan Ceri Holland gydag ychydig dros bum munud yn weddill o amser ychwanegol.
Golygodd g么l Holland fod Cymru ar y blaen o 3-2 ar gyfanswm goliau.
Fe fydd t卯m Rhian Wilkinson yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Digon rhwystredig oedd yr hanner awr gyntaf i Gymru - er yn rheoli'r meddiant, prin oedd y cyfleoedd o safon.
Cafodd Ffion Morgan ac Angharad James hanner cyfleoedd i roi Cymru ar y blaen ar y noson, ond fe lwyddodd amddiffyn ystyfnig Slofacia i aros yn gadarn.
Ond ar 么l 39 o funudau, fe wnaeth James basio'n hyfryd trwy ganol amddiffyn yr ymwelwyr, ac fe lwyddodd Fishlock i godi'r b锚l dros y golwr ac i gefn y rhwyd.
Bron i Ffion Morgan ychwanegu ail cyn yr egwyl wedi gwaith da lawr yr asgell dde, ond cafodd ei hergyd ei rwystro.
Cafodd Morgan gyfle euraidd cwta dau funud mewn i'r ail hanner ond fe grymanodd hi'r b锚l heibio'r postyn pellaf.
Roedd sawl cyfle arall i Gymru wedi hynny hefyd, gyda Ceri Holland yn achosi problemau mawr i Slofacia lawr yr asgell dde.
Fe darodd Fishlock y b锚l i gefn y rhwyd ddwywaith yn yr ail hanner, ond roedd hi'n camsefyll yn ar y ddau achlysur.
Er i Gymru ennill 1-0 wedi 90 munud, roedd buddugoliaeth Slofacia yn y cymal cyntaf yn golygu bod angen amser ychwanegol i wahanu'r ddau d卯m.
Roedd y chwarae yn ystod yr hanner awr ychwanegol ychydig yn fler gyda'r ddau dim yn amlwg wedi blino.
Ond gyda 112 o funudau wedi chwarae, fe darodd Fishlock y b锚l dros amddiffyn Slofacia tuag at Kayleigh Barton a darodd y postyn - ond fe adlamodd y b锚l i gyfeiriad Holland a lwyddodd i ergydio'n bwerus heibio'r golgeidwad.
Er rhywfaint o ansicrwydd yngl欧n ag a oedd Barton yn camsefyll neu beidio, fe wnaeth VAR gadarnhau fod y g么l yn un dilys.
Fe fydd gemau'r rownd derfynol yn cael eu cynnal ar 27 Tachwedd a 3 Rhagfyr.
Yn y Swistir fydd rowndiau terfynol Euro 2025 yn cael eu cynnal.