Tywysog Cymru yn cwrdd ag un o s锚r Eisteddfod yr Urdd

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, "Dwi wedi gwylio dy fideo sawl gwaith," meddai Tywysog Cymru wrth Ruby

Fe wnaeth Tywysog Cymru ymweld 芒 Llanelli ddydd Mawrth - fel rhan o daith i ddathlu diwylliant a chwaraeon Cymru.

Dyma ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf wedi i'w wraig, Tywysoges Cymru, ryddhau neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud ei bod wedi gorffen ei thriniaeth cemotherapi.

Fe ddechreuodd ei daith yn Ysgol Gynradd Swiss Valley lle mae un o s锚r Eisteddfod yr Urdd eleni, Ruby Davies, 10 oed, yn ddisgybl.

Daeth Ruby i amlygrwydd ar 么l ennill yng nghategori llefaru unigol Blwyddyn 5 a 6 i ddysgwyr yn yr 诺yl ym Maldwyn.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Ruby yn perfformio yn ystod yr ymweliad

Wrth siarad 芒 Ruby, dywedodd Tywysog Cymru: "Dwi wedi gwylio dy fideo sawl gwaith".

"Fe wnes di'n wych, doeddet ti ddim i weld yn nerfus i berfformio ar y llwyfan o gwbl."

Fe atebodd Ruby gan ddweud yr oedd "ychydig" yn nerfus ar y pryd ond hefyd yn "hynod gyffrous".

"Fe wnes di argraff, fydd rhaid i ti ddysgu mi sut i siarad Cymraeg," meddai'r Tywysog.

'Profiad anhygoel'

Dywedodd Ruby ei fod yn brofiad "anhygoel" i gwrdd 芒 Thywysog Cymru.

"Mae'n ddyn neis ac roedd yn fraint i gwrdd ag ef, mae'n brofiad y byddaf yn ei drysori am byth. Fe gafom ni sgwrs ac fe ges i roi cwtsh iddo."

"Fe wnes i hefyd gyflwyno llyfr iddo a breichledi ro' ni wedi gwneud i Kate a Charlotte," meddai.

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Jo Davies: "Mae'r disgyblion wedi bod mor gyffrous, a dwi'n meddwl bod y staff mewn sioc o wybod fod Tywysog Cymru yn dod".

Watch Moments
Disgrifiad o'r fideo, Roedd Ruby yn hapus dros ben i ennill cystadleuaeth llefaru i ddysgwyr yn yr Eisteddfod yr Urdd

Dywedodd mam a merch, Kate Davies, cyn-ddisgybl 24 oed, ac Elizabeth Davies, 57 oed, nad oedden nhw'n gallu credu bod aelod o'r Teulu Brenhinol wedi ymweld 芒'u pentref.

"Dywedon ni 'bore da' iddo ac fe wnaeth ateb n么l yn Gymraeg," meddai Elizabeth.

"Mae wedi bod mor gyffrous. Dyma fy hen ysgol," medd Kate.

Ychwanegodd Cameron Churchill, 24, sy'n byw ger yr ysgol ei fod yn brofiad "bythgofiadwy".

"Fyswn i'n rhoi pump allan o bump am ei Gymraeg. Roedd ei ynganiad yn wych."