大象传媒

Pwysigrwydd corsydd Cymru i鈥檙 amgylchedd

Dr Rhoswen Leonard Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Rhoswen Leonard yn rheoli prosiect i edrych ar 么l mawndiroedd a chorsydd Cymru, sy鈥檔 hollbwysig i storio carbon wrth inni geisio ymdopi efo cynhesu byd-eang

  • Cyhoeddwyd

Pan rydych chi鈥檔 sefyll ar dir mawn yng Nghymru rydych chi鈥檔 debyg o fod yn sefyll ar gwerth miloedd o flynyddoedd o garbon wedi ei ddal yn y pridd, sy鈥檔 golygu ei fod yn adnodd hollbwysig i fynd i鈥檙 afael 芒 chynhesu byd-eang, meddai Dr Rhoswen Leonard.

Mae Dr Leonard yn rheoli prosiect cenedlaethol i wella ein mawndiroedd ar 么l degawdau o ddirywiad oherwydd ein harferion ni fel pobl.

Math o dir gwlyb sydd wedi ffurfio gan haenau o ddeunydd organig fel planhigion wedi pydru dros filoedd o flynyddoedd ydi mawndir.

Gall un metr o fawn gymryd hyd at 1,000 o flynyddoedd i ffurfio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cors Caron yn fyd-enwog a鈥檌 dyfnder o fawn yn awgrymu ei bod wedi bod yn dal carbon ers 12,000 o flynyddoedd

鈥淢aen nhw鈥檔 gorchuddio dim ond 4% o dir Cymru ond maen nhw鈥檔 dal dros 30% o garbon tir Cymru,鈥 eglurodd Dr Leonard ar 大象传媒 Radio Cymru.

鈥淔elly o ran y tir maen nhw鈥檔 storfa ddwys iawn o garbon.

鈥淢ae鈥檔 cymryd 300 mlynedd i ffurfio 30cm o fawn ar raddfa o un milimedr bob blwyddyn felly does dim modd ailwneud mawn; chi鈥檔 ffaelu ailblannu mawn.

鈥淗efyd maen nhw鈥檔 gyfoethog iawn o ran bioamrywiaeth. Maen nhw鈥檔 gartref i lot o rywogaethau prin a diddorol iawn, fel y gylfinir a chwys yr haul neu dafod y gors, planhigion sy鈥檔 bwyta pryfed.

鈥淢aen nhw jyst yn llefydd hyfryd unwaith chi鈥檔 dechrau sylweddoli a gwerthfawrogi yr elfennau gwahanol maen nhw鈥檔 dod i ni fel pobl yng Nghymru a draws y byd,鈥 meddai.

Gollwng nwyon t欧 gwydr

Ond mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檔 mawndiroedd ni mewn cyflwr gwael ac o鈥檙 herwydd yn fwy tebyg o fod yn rhyddhau nwyon yn lle eu cloi yn y pridd.

鈥淢ae tua 90% o鈥檔 mawndiroedd ni wedi eu difrodi mewn rhyw ffordd,鈥 meddai Dr Leonard, rheolwr y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd sy鈥檔 cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

鈥淓ffaith difrodi mawndir yw cyfrannu at allyriadau nwyon t欧 gwydr.

鈥淔elly mae鈥檙 rhaglen dwi鈥檔 gweithio arno yn rhaglen genedlaethol i weithredu gwaith adfer ar fawndiroedd a chael y mawndiroedd 鈥檓a mewn i gyflwr lle mae鈥檙 storfa garbon a鈥檙 gwerth bioamrywiaeth yn dod n么支l i鈥檞 potensial llawn."

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Chwys yr Haul yn enghraifft o blanhigyn unigryw sydd wedi addasu i gynefin y mawndir drwy fwydo ar bryfaid.

鈥淢ae鈥檙 corsydd, yn eu cyflwr wedi difrodi, yn rhyddhau carbon i鈥檙 atmosffer ond wrth ein bod ni鈥檔 gwneud gwaith adfer rydyn ni o leiaf yn lleihau allyriadau carbon sy鈥檔 dod oddi wrth y mawndiroedd.

鈥淗efyd pan maen nhw mewn cyflwr da wedyn maen nhw鈥檔 gallu amsugno carbon o鈥檙 atmosffer.鈥

Astudio corsydd

Ers gwneud ei gradd gyntaf mewn gwyddoniaeth amgylcheddol yn Aberystwyth a chael ei swydd gyntaf yn astudio corsydd ar Ynys M么n mae Dr Rhoswen Leonard yn angerddol am warchod tir mawn Cymru.

Fe wnaeth ei hymchwil ar gyfer ei doethuriaeth ar fawndiroedd yng Nghanada.

Mae hi wedi bod yn siarad am y pwnc yr wythnos yma yng nghynhadledd Wythnos Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru a ddechreuodd yr un pryd 芒 chynhadledd newid hinsawdd COP29 y Cenhedloedd Unedig ddydd Llun.

Mae ein mawndir wedi cael ei ddifrodi mewn gwahanol ffyrdd dros y blynyddoedd meddai Dr Leonard ond mae un ffactor cyffredin 鈥 ymyrraeth pobl.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwaith adfer yn cael ei wneud gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn Llyn Du, Tywi.

Torri mawn

Ers talwm, roedd pobl yn torri mawn ar gyfer ei losgi i wresogi eu cartrefi. Roedd yn arfer pwysig i sawl cymuned wledig ac yn rhan o ffordd draddodiadol o fyw ar y tir.

Ond yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru mae鈥檔 un o鈥檙 pethau sydd wedi cyfrannu鈥檔 helaeth at leihau ein canran o fawndir yng Nghymru.

Mae arbenigwyr wedi dod i鈥檙 casgliad bod mwy o fawndir yn arfer bod yng Nghymru ond bod llawer wedi cael ei godi, yn bennaf fel tanwydd domestig neu wedi troi鈥檔 rhostir neu dir pori corsiog.

Mae鈥檙 arfer o godi mawn wedi dod i ben yng Nghymru bellach ac mae gwerthu mawn fel compost i gael ei wahardd erbyn diwedd 2024.

Mae鈥檙 mawndir dyfnaf yng Nghymru tua 12 metr, sy鈥檔 golygu fod mawndir wedi dechrau ffurfio yma 12 milenia yn 么l, sy鈥檔 12 milenia o storio carbon.

Ffynhonnell y llun, David James/Hugh Davies/Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Torri mawn yng Nghwm Elan, 1967

Mae draenio tir dros y 300 mlynedd diwethaf ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth hefyd wedi difrodi mewndir. Mae鈥檙 achosion eraill yn cynnwys gorbori, tanbori, llosgi a llygredd o wrtaith, tail a nitrogen yn yr aer ac yn y glaw hefyd.

Y brif ffordd mae鈥檙 prosiect yn ceisio dadwneud y difrod yma yw drwy ailwlychu tir mawn a thir corslyd, sef y gwrthwyneb i beth mae sawl ffermwr wedi ceisio ei wneud i wella tir amaeth dros flynyddoedd.

鈥淵 brif elfen ry鈥檔 ni鈥檔 trio taclo fel rhaglen yw鈥檙 ffaith fod corsydd sydd wedi sychu am ryw reswm yn cyfrannu at allyriadau carbon a gyda safon bioamrywiaeth is na bysen nhw pe bysen nhw鈥檔 wlyb.

鈥淔elly mae鈥檙 gwaith adfer yn cael ei dargedu at codi lefelau d诺r mawndiroedd fel bod nhw鈥檔 gallu cyfrannu eu potensial llawn i鈥檔 helpu ni i leihau allyriadau nwyon t欧 gwydr.鈥

Mae鈥檙 rhaglen sy鈥檔 cael ei chynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud llawer o waith mewn partneriaethau gan gynnig grantiau i ffermwyr a thirfeddianwyr adfer mawndir ac ar gyfer prosiectau cadwraeth.

Gallwch wrando ar sgwrs Dr Rhoswen Leonard ar Bore Sul, Radio Cymru fan hyn: Bore Sul - Alun Thomas yn cyflwyno - 大象传媒 Sounds

Pynciau cysylltiedig