ý

Cam ymlaen i ailagor gweithfeydd copr Mynydd Parys

Mynydd ParysFfynhonnell y llun, Anglesey Mining
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Anglesey Mining PLC y byddai unrhyw fwyngloddio yn digwydd o dan ddaear

  • Cyhoeddwyd

Mae datblygwyr sy’n gobeithio ailagor gweithfeydd copr hanesyddol ar Ynys Môn yn dweud eu bod wedi cyrraedd “carreg filltir bwysig” ar ôl cyflwyno’r camau angenrheidiol cyntaf i wireddu cynllun allai greu 120 o swyddi.

Gyda phrofion yn dangos bod yr ardal yn gyfoethog mewn copr, sinc, plwm, arian ac aur "gwerth tua $1bn" (£755m), mae Anglesey Mining PLC wedi paratoi cam cyntaf asesiad effaith amgylcheddol gyda'r uchelgais o ddechrau cloddio dan ddaear ym Mynydd Parys.

Gyda thystiolaeth o gloddio am gopr yno yn dyddio ’nôl i’r Oes Efydd ag Oes y Rhufeiniaid, erbyn yr 1780au Mynydd Parys oedd gweithfeydd copr mwyaf y byd, gan arwain at ffyniant economaidd a thyfiant tref Amlwch.

Ond er agor gweithfeydd tanddaearol sylweddol tua 1810, erbyn troad yr 20fed ganrif roedd y mwyafrif llethol o waith mwyngloddio wedi dirwyn i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cam diweddaraf yn "garreg filltir arwyddocaol iawn i Ynys Môn", meddai Rob Marsden

Mae sôn am ailddechrau'r gwaith wedi dod i'r golwg sawl tro dros y degawdau ers hynny.

Ond bellach mae perchnogion y safle, Anglesey Mining, wedi cyflwyno adroddiad 220 tudalen sy'n ffurfio rhan o'r broses gynllunio angenrheidiol.

Dywed y cwmni y byddai unrhyw fwyngloddio yn digwydd o dan ddaear, o bosib gan ddefnyddio siafft bresennol a gafodd ei adeiladu yn y 1990au.

Maen nhw'n dweud y gallai greu tua 120 o swyddi uniongyrchol mewn ardal sydd wedi ei disgrifio'n ddiweddar gan Gyngor Môn fel un o bryder economaidd.

Tua £75m er mwyn ailddechrau

Cafodd y cam diweddaraf ei ddisgrifio gan Rob Marsden, prif weithredwr Anglesey Mining, fel “carreg filltir arwyddocaol iawn i Ynys Môn”, ond y byddai ailddechrau mwyngloddio ar y safle yn golygu'r angen am fuddsoddiad cyfalaf o tua £75m.

“Rydym yn ymwybodol iawn o dreftadaeth Mynydd Parys,” meddai Mr Marsden wrth ý Cymru, gyda'r bwriad o allforio'r cynnyrch o Borthladd Caergybi.

“Byddai'r gwaith tua 400 metr o dan ddaear tra roedd y mwyngloddio dyfnaf yn yr 18fed ganrif tua 100 metr o dan yr wyneb."

Mae disgwyl y byddai “tua 40%” o’r refeniw yn dod o’r copr a thraen o sinc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni'n dweud y gallai'r gwaith greu 120 o swyddi

Mae’r adroddiad bellach wedi’i gyflwyno i Wasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, er y bydd angen caniatâd cynllunio pellach cyn y gellir cychwyn ar unrhyw waith.

“Oes y mwyngloddio ar hyn o bryd yw 12-15 mlynedd," meddai Mr Marsden.

"Rydyn ni’n obeithiol y bydd yn hirach ac y byddwn yn darganfod mwy o fetelau yno.

“Mae gynnon ni ganiatâd cynllunio eisoes yn ei le o’r 1980au a’r hyn rydyn ni wedi’i ddarganfod ers hynny yw bod yna fwy o fwynau o dan ddaear."

Ychwanegodd bod "technoleg newydd bellach yn ei lle", ac felly eu bod "wedi penderfynu cyflwyno cynllun newydd sbon yn hytrach nag addasu’r caniatad sydd eisoes yn ei le".

Aeth ymlaen i ddisgrifio Mynydd Parys fel “y prosiect mwyaf datblygedig o'i fath yn y DU” ac “wedi ei leoli’n ffafriol ar safle datblygu gyda seilwaith sylweddol eisoes yn ei le”.

“Roedd yr asesiad economaidd yn edrych ar $100m o fuddsoddiad cyfalaf i gychwyn y cloddio a thros y cyfnod hwnnw o 12-15 mlynedd byddai cyfanswm y gwerth a werthir tua $1bn o fetelau, felly dyna beth rydym yn gweithio tuag ato," meddai.

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n gobeithio, yn amlwg, y gallwn ni leihau’r gost cyfalaf a gwneud y mwyaf o’r budd.

“Mae yna elfen lafur fawr felly byddai cryn dipyn o weithgarwch economaidd yn y maes adeiladu - bydd angen sgiliau a chrefftau eithaf penodol yn dod i mewn ond rwy’n benderfynol o wneud hynny mor lleol â phosib.

“Ond yn sicr lle mae'r sgiliau’n bodoli ar yr ynys. Dwi’n benderfynol o gael cymaint o’r gwariant hwnnw â phosib ar yr ynys.

“Petai cynllunio ac arian ddim yn broblem yna ymhen rhyw ddwy flynedd a hanner efallai y byddwn ni’n gallu dechrau cloddio, ond rwy'n realydd ac yn deall bydd y gymuned leol eisiau gwneud yn siŵr mai’r cynlluniau rydyn ni’n eu rhoi ymlaen fydd y rhai cywir, wedi ei gydbwyso yn erbyn yr angen am gopr ar gyfer y trawsnewid ynni ac yn y blaen.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Aled Morris Jones yn croeswu'r potensial o greu swyddi

Tra bydd y gymuned leol yn cael datgan barn fel rhan o'r broses gynllunio, mae un cynghorydd lleol yn dweud bod y datblygiad i'w groesawu.

“Maen nhw wedi gwario £300,000 ar gynhyrchu’r cais, o'r hyn dwi'n ddeall, sy’n dangos bod 'na ymrwymiad yna,” meddai’r Cynghorydd Aled Morris Jones.

“Dwi’n croesawu’r newyddion bod 'na ddim opencast am ddigwydd yna, ac os bydd 'na gloddio yna dan ddaear fydd o.

“Hefyd fod 'na commitment i weithio hefo’r cymunedau o gwmpas y mynydd a’r buddiannau hanesyddol, gan gynnwys hanes diwydiannol yr ardal a’r dirwedd nodweddiadol ac unigryw i Ynys Môn.

“Dwi'n croesawu'r potensial i greu swyddi hefyd ond drwy weithio dan ganllawiau pendant i warchod yr amgylchedd.”

Pynciau cysylltiedig