Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cau canolfan ddydd i oedolion yn Noc Penfro
- Awdur, Sara Dafydd
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae Cyngor Sir Penfro wedi derbyn cynnig i gau canolfan ddydd yr Anchorage yn Noc Penfro erbyn mis Tachwedd.
Pleidleisiodd yr holl aelodau cabinet a oedd yn bresennol yn y cyfarfod fore Llun o blaid cau鈥檙 ganolfan.
Fe fydd Canolfan Bro Preseli yng Nghrymych a Chanolfan Lee Davies yn Arberth yn trosglwyddo i fodelau menter gymdeithasol erbyn Ebrill 2025.
Bydd Cyngor Sir Penfro yn trefnu bws uniongyrchol i鈥檙 unigolion, sy鈥檔 galw eu hunain yn 鈥渄eulu鈥, i ganolfan ddydd Meadow Park yn Hwlffordd, 10 milltir o鈥檙 Anchorage.
Ond mae arweinydd y gr诺p annibynnol ar y cyngor, y Cynghorydd Huw Murphy, y bydd cais swyddogol yn cael ei gyflwyno yn galw am ail ystyried y penderfyniad ar ddyfodol y canolfannau dydd.
Ym mis Gorffennaf fe wnaeth protestwyr gasglu y tu allan i Neuadd y Sir yn Hwlffordd yn galw ar Gyngor Sir Penfro i achub canolfannau dydd oedolion y sir.
Ar y pryd roedd y cyngor wedi鈥檜 cyhuddo o 鈥渞oi punnoedd o flaen pobl鈥 gan deuluoedd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu, Tessa Hodgson, fod adroddiad newydd yn dangos bod gan yr Anchorage gostau cynnal a chadw o dros 拢400,000.
Mae'r cyngor yn wynebu bwlch ariannol o 拢32.3m ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
Ychwanegodd: 鈥淩wy鈥檔 gwerthfawrogi pa mor anodd, cythryblus a dirdynnol mae鈥檙 cyfnod yma wedi bod i deuluoedd ac anwyliaid, a hefyd i鈥檔 staff ymroddedig.
鈥淩wy鈥檔 gobeithio, yn dilyn ein penderfyniad heddiw, gan dderbyn nad dyna鈥檙 hyn yr oedd rhai teuluoedd yn gobeithio amdano, y bydd y cyfnod o ansicrwydd yn dod i ben.鈥
Roedd Georgina Knowles, o Templeton, yn y brotest ym mis Gorffennaf gyda鈥檌 merch, Sapphire, 28, sy鈥檔 mynychu canolfan Bro Preseli.
Dywedodd ei bod hi a Sapphire yn 鈥渉ynod siomedig鈥 gyda'r cyhoeddiad fore Llun.
Yr Anchorage yw'r unig ganolfan ddydd o'r dair sy'n eiddo i'r cyngor. Mae Canolfan Lee Davies a Chanolfan Bro Preseli yn cael eu rhentu gan Gyngor Sir Penfro.
Ychwanegodd Ms Knowles: 鈥淣i ddim eisiau menter gymdeithasol. Mae gan y Cyngor Sir beth maen nhw ei eisiau, dim canolfannau dydd.
"Y peth trist yw na fydd yn arbed un geiniog iddynt. Mae pawb angen gofal!鈥
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Mel Laidler, y bydd y cyngor yn "gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb gyda鈥檌 gilydd".
"Bydd hyn yn cynnwys bws uniongyrchol o'r Anchorage i Meadow Park yn Hwlffordd. Bydd y daith yn cymryd tua 20 munud," meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson fod pawb sy'n defnyddio'r canolfannau dydd ac a fydd yn cael eu heffeithio wedi cael asesiad un-i-un i weld beth yw'r dewisiadau amgen gorau.
Fe wnaeth Mel Laidlaw gyfaddef fod sgyrsiau gyda theuluoedd wedi bod yn 鈥渁nodd鈥.
Bydd Canolfan Lee Davies a Chanolfan Bro Preseli yn trosglwyddo i fodelau menter gymdeithasol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac yn 么l Ms Hodgson, fe fydd yr amserlen hon yn caniat谩u cyfnod o graffu pellach gan y cyhoedd a'r cyngor.
Ychwanegodd Ms Hodgson, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol: "Ry'n ni eisiau i bobl h欧n a phobl gydag anableddau gael ystod eang o bethau i'w wneud yn eu cymunedau lleol sy'n cynnig pwrpas, cysylltiad, a pha'n fo hynny'n addas, cyfle i wneud cynnydd.
"Ar bob cam o'r ffordd ry'n ni wedi ceisio cydbwyso anghenion y defnyddwyr a'u teuluoedd gyda'r angen i newid, ac fe fyddwn yn parhau i gefnogi defnyddwyr wrth i'r broses yma barhau.
"Hoffwn bwysleisio na fydd unrhyw ddefnyddwyr yn cael eu gadael heb gymorth o ganlyniad i'r penderfyniad yma."