Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
I ble aeth y Cymry? Golwg ar yr holl symud ar 么l i'r ffenestr gau
Mae hi wedi bod yn haf prysur arall o ran trosglwyddiadau i glybiau a chwaraewyr p锚l-droed Cymru.
Roedd Jordan James, Joe Rodon, Chris Mepham a Kieffer Moore ymhlith rhai o enwau mawr y t卯m cenedlaethol a symudodd cyn i'r ffenestr drosglwyddo gau yn hwyr nos Wener.
Bu Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam i gyd yn prynu a gwerthu chwaraewyr yn y dyddiau olaf hefyd.
Dyma olwg ar rai o brif straeon y ffenestr drosglwyddo o safbwynt y t卯m cenedlaethol a'r clybiau Cymreig ym mhyramid Lloegr.
Y trosglwyddiad mwyaf o ran arian yn ymwneud 芒 chwaraewr o Gymru yr haf hwn oedd symudiad Joe Rodon o Tottenham i Leeds am ffi o thua 拢10m.
Fe wnaeth amddiffynnwr Cymru dreulio'r tymor diwethaf ar fenthyg yn Elland Road, a dywedodd bod dychwelyd i Sir Efrog, yn barhaol y tro hwn, yn "teimlo'n iawn".
Un arall sydd wedi symud i Sir Efrog yw'r ymosodwr Kieffer Moore - sydd wedi ymuno 芒 Sheffield United o Bournemouth am ffi sydd heb ei ddatgelu.
Er yn cael ei gysylltu 芒 Chaerdydd unwaith eto, mae Moore wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb a ddisgynnodd o'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.
Mae Chris Mepham hefyd wedi gadael y Cherries, yn symud i Sunderland ar fenthyg am flwyddyn.
Mae'r chwaraewr canol cae ifanc, Jordan James wedi symud o Birmingham City i Rennes yn Ffrainc am tua 拢4m tra bod Sorba Thomas hefyd wedi symud i glwb yn Ligue 1 - gyda'r asgellwr yn ymuno 芒 Nantes ar fenthyg am flwyddyn.
Mae Tyler Roberts hefyd wedi gadael Birmingham City, yn symud i Northampton Town ar fenthyg am flwyddyn.
Mae ymosodwr 18 oed Cymru a Lerpwl, Lewis Koumas wedi symud ar fenthyg i Stoke yn y Bencampwriaeth, ac mae eisoes wedi sgorio dwy g么l yn ei bedwar ymddangosiad cyntaf.
Mae un arall o Gymry ifanc Lerpwl, y cefnwr chwith Owen Beck, hefyd wedi ymuno 芒 Blackburn Rovers ar fenthyg am y tymor.
Fe wnaeth cyn-chwaraewr canol cae Lerpwl a Preston North End, Ben Woodburn arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Salford City yn Adran Dau.
Mae James Lawrence wedi symud o FC Nurnberg i Almere City yn yr Iseldiroedd, tra bod Joe Morrell yn dal heb glwb ar 么l i'w gytundeb gyda Portsmouth ddod i ben.
Ar 么l oedi cyn cynnig cytundeb newydd i Erol Bulut ar ddiwedd y tymor diwethaf, mae Caerdydd yn bendant wedi cefnogi eu rheolwr yn ariannol yn ystod yr haf.
Er eu bod wedi gwerthu Mark McGuinness am ffi all godi i thua 拢10m i Luton Town, mae'r Adar Gleision wedi arwyddo tri amddiffynnwr canol i geisio gwneud yn iawn am y golled honno.
Mae Calum Chambers wedi ymuno o Aston Villa, Will Fish o Manchester United am 拢1m a Jesper Daland o Cercle Brugge am ffi o 拢3.5m.
Mae Caerdydd hefyd wedi denu chwaraewr canol cae Awstralia, Alex Robertson o Manchester City am ffi allai godi i 拢3m, yr asgellwr Chris Willock o Queens Park Rangers a chyn-asgellwr Aston Villa ac Everton, Anwar El Ghazi.
Yn y llinell flaen, mae ymosodwr Y Traeth Ifori, Wilfred Kanga wedi ymuno ar fenthyg o Hertha Berlin, tra bod Roko Simic wedi ei arwyddo o RB Salzburg ac wedi ei anfon ar fenthyg i KV Kortrijk yng Ngwad Belg am y tymor.
Yn ogystal 芒 ffarwelio gyda McGuinness, mae Caerdydd wedi gwerthu'r chwaraewr canol cae, Ebou Adams am ffi sydd heb ei ddatgelu i Derby County.
Mae sawl chwaraewr ifanc wedi mynd allan ar fenthyg hefyd - gyda'r Cymry Kieron Evans ac Eli King yn ymuno 芒 Chasnewydd a Stevenage a brawd Rubin Colwill, Joel, yn mynd i Cheltenham yn Adran Dau.
Roedd rheolwr Abertawe, Luke Williams wedi dweud o'r dechrau mai cryfhau'r ymosod oedd y prif ffocws yr haf hwn.
Mae ymosodwr Slofenia, Zan Vipotnik, wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda'r Elyrch ar 么l gadael Bordeaux.
Fe ymunodd yr asgellwr Florian Bianchini o Bastia am ffi o 拢1.95m, tra bod chwaraewr rhyngwladol De Corea, Eom Ji-Sung, wedi ymuno o Gwangju FC.
Yn oriau olaf y cyfnod trosglwyddo, fe lwyddodd Abertawe i ddenu Myles Peart-Harris o Brentfod - chwaraewr canol cae ymosodol a chwaraeodd bum gwaith i'r t卯m yn yr Uwch Gynghrair y llynedd.
Cafodd y chwaraewr canol cae Goncalo Franco ei arwyddo o glwb Moreirense ym Mhortiwgal, tra bod amddiffynnwr t卯m dan-20 Lloegr, Neslon Abbey hefyd wedi ymuno ar fenthyg o Olympiakos am y tymor.
O ran ymadawiadau, fe wnaeth Nathan Wood symud i Southampton at gyn-reolwr yr elyrch, Russell Martin, am ffi o tua 拢3m.
Fe ddaeth cytundeb Jamie Paterson i ben ac mae wedi ymuno 芒 Charlotte FC yn yr Unol Daleithiau ac mae'r ymosodwr Jerry Yates wedi mynd allan ar fenthyg i Derby County am y tymor.
Mae hi wedi bod yn haf gymharol dawel i Wrecsam, gyda Phil Parkinson yn cadw ffydd yn nifer o'r chwaraewyr sydd wedi llwyddo i ennill dyrchafiad ddwywaith yn olynol.
Ddydd Gwener fe arwyddodd y Dreigiau Mo Faal - ymosodwr ifanc o'r Gambia - o West Brom am ffi o dros 拢500,000.
Fe ymunodd Ollie Rathbone am ffi debyg o Rotherham cyn dechrau'r tymor - chwaraewr canol cae sydd 芒 phrofiad eang o chwarae yn y Bencampwriaeth ac Adran Un.
Mae Callum Burton a Dan Scarr wedi ymuno o Plymouth Argyle yn y Bencampwriaeth, tra bod Lewis Brunt a George Dobson - cyn chwaraewr Charlton Athletic - hefyd wedi ychwanegu dyfnder i'r garfan.
Un o'r trosglwyddiadau pwysicaf i Wrecsam, o bosib, oedd llwyddo i berswadio'r golwr Arthur Okonkwo i ymuno 芒'r clwb yn barhaol wedi iddo dreulio blwyddyn ar fenthyg yno y tymor diwethaf.
Ymhlith yr enwau cyfarwydd i adael y Cae Ras dros yr haf mae Aaron Hayden, Luke Young, Ben Tozer a Jordan Tunnicliffe.
Mae hi wedi bod yn haf arall o newid draw yng Nghasnewydd gyda dros 15 o chwaraewyr newydd yn ymuno ar fenthyg neu ar gytundebau llawn - yn ogystal 芒'r ffaith bod rheolwr newydd wrth y llyw.
Bu'n rhaid i Nelson Jardim, cyn-hyfforddwr gydag Abertawe, ddelio a'r ffaith bod eu prif sgoriwr y tymor diwethaf, Will Evans, wedi gadael am Mansfield am 拢230,000, tra bod chwaraewyr profiadol eraill fel Joe Day, Omar Bogle a Scott Bennett hefyd wedi gadael Rodney Parade.
Ond mae'r g诺r o Bortiwgal wedi bod yn brysur - mae Courtney Baker-Richardson wedi ail-ymuno a'r clwb o Crewe, Ciaran Brennan o Sheffield Wednesday a Anthony Driscoll-Glennon o Grimsby.
Yn ogystal 芒 hynny mae'r Alltudion wedi denu nifer o chwaraewyr ar fenthyg gan gynnwys Kyle Hudlin o Huddersfield, Jamie Miley o Newcastle a Noah Mawene o Preston.