Gambl dewis Allen i gychwyn yn erbyn Montenegro - Bellamy

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Craig Bellamy wedi cyfaddef y byddai鈥檔 gambl dewis Joe Allen i gychwyn y g锚m yn erbyn Montenegro nos Lun.

Fe ddaeth Allen, 34, allan o'i ymddeoliad rhyngwladol i gael ei ddewis yn rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd y mis yma, ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y g锚m gyfartal yn erbyn Gwlad yr Ia nos Wener.

Yn sgil trafferthion ffitrwydd, chwe gwaith yn unig y mae wedi ymddangos fel eilydd i d卯m Abertawe'r tymor hwn, gyda Chymru yn brin o chwaraewyr canol cae fel Ethan Ampadu, Aaron Ramsey a Jordan James.

"Mae鈥檔 amlwg y bydd yn gambl ei gynnwys i gychwyn y g锚m oherwydd cyn lleied y mae wedi chwarae eleni," meddai鈥檙 prif hyfforddwr, Craig Bellamy.

"Mae hynny'r un mor wir am nifer eraill o'n chwaraewyr hefyd. Mae nifer ohonyn nhw yn gwneud job dda iawn er nad ydyn nhw'n chwarae鈥檔 rheolaidd."

"Gobeithio y bydd mewn sefyllfa i chwarae i mi fory. Hyd yn oed os na fydd hynny鈥檔 bosib, mae wedi cael wythnos wych i ni ac mae wedi bod yn bositif iawn i ni."

Fe sefydlodd Allen ei hun fel un o gewri p锚l-droed Cymru cyn dod 芒'i yrfa ryngwladol i ben yn 2023, wedi iddo ennill 74 o gapiau a chynrychioli ei wlad mewn dwy bencampwriaeth Ewropeaidd a Chwpan y Byd.

Dywedodd Bellamy, a gafodd ei benodi i鈥檞 swydd fis Gorffennaf diwethaf, y byddai wedi dewis Allen ar gyfer ei garfan gyntaf fis Medi petai wedi bod yn holliach - ond mae'r angen am y chwaraewr canol cae wedi bod yn fwy yn sgil absenoldeb Ampadu, James a Ramsey.

Mae'r broblem yma wedi bod yn un gyson i Gymru wrth iddyn nhw fethu 芒 sicrhau cryfder yng nghanol cae, yn enwedig ers Euro 2016 wrth i chwaraewyr fel Joe Ledley, Andy King a Dave Edwards ymddeol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe sefydlodd Allen ei hun fel un o gewri p锚l-droed Cymru cyn dod 芒'i yrfa ryngwladol i ben yn 2023

Ampadu a James yw'r dewis cyntaf erbyn hyn, ond gyda'r ddau yna鈥檔 absennol yn sgil anaf a gwaharddiad, unig opsiwn pendant Bellamy ar gyfer y g锚m yn erbyn Montenegro nos Lun yw Allen, Ollie Cooper a Josh Sheehan.

"Os byddech wedi trafod fy nghynlluniau ar gyfer y garfan pan wnes i gychwyn hyn, byddai digon o opsiynau gen i o ran yr ymosod. Dyw hynny ddim mor wir am ambell safle arall.鈥

"Rydym ni'n genedl sy'n gorfod bod yn greadigol weithiau ac mae hynny'n ychwanegu at ein cryfderau. Rydyn ni wedi gweld cenhedloedd tipyn yn fwy na ni yn dioddef yn yr un ardal [canol cae].

"Mae'n ardal o鈥檙 cae sy鈥檔 bwysig i ni o ran ein dull chwarae. Bydd yn rhaid i ni fwrw ati, doed a ddelo. Rwy'n edrych ymlaen i weld sut hwyl y caiff un neu ddau chwaraewr arall yn y safle hwnnw."